CFFG Cronfa Datblygu Eiddo Masnachol Sir Caerfyrddin
Diweddarwyd y dudalen ar: 30/10/2024
Mae'r cynllun yn darparu cymorth ariannol i Ddatblygwyr ar gyfer adeiladu, ehangu neu adnewyddu adeiladau at ddefnydd diwydiannol / masnachol gyda'r prif nod o greu capasiti ar gyfer cyflogaeth yn Sir Gaerfyrddin.
Rhoddir blaenoriaeth i geisiadau a fydd yn rhoi manteision pendant i'r economi leol o ran
- nifer ac ansawdd y swyddi y darperir ar eu cyfer
- yr arwynebedd o ofod llawr a grëir
- faint o dir a ddatblygir
- nifer y busnesau bach a chanolig y darperir ar eu cyfer
- effaith y datblygiad ar yr Iaith Gymraeg
- nifer y mentrau sy'n mabwysiadu neu'n gwella strategaethau cydraddoldeb a systemau monitro
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau cam 1 ar gyfer y cyllid yw Chwefror yr 11eg 2025.
Y Cynnig
Nod y rhaglen yw cefnogi ymgeiswyr sydd angen cymorth ariannol i'w prosiectau fynd rhagddynt, h.y. pe na bai cyllid ar gael, ni fyddai'r prosiect yn mynd rhagddo.
Mae'r cyllid ar gael i dalu'r bwlch ariannol rhwng y costau adeiladu a gwerth yr eiddo ar y farchnad wedi'i gwblhau. Bwriedir i’r cymhelliad hwn roi hwb i nifer y safleoedd busnes o safon uchel sydd ar gael yn Sir Gaerfyrddin drwy gynnig arian i ddarparu unedau diwydiannol neu swyddfeydd o safon uchel. Bydd y mwyafswm o gyllid a fydd yn cael ddyfarnu ar gyfer bob prosiect yn cael ei benderfynu gan yr awdurdod a ni fydd yn fwy na £750,000 nac yn fwy na 45% o'r costiau cymwys.
Ni ellir cael arian cyfatebol ar gyfer y grant hwn drwy gyllid cyhoeddus arall.
Penderfynir ar gymhwysedd fesul cais.
Pwysig: Darllenwch y canllawiau cyn gwneud cais