Ein Dogfen y Mis
Bob mis byddwn yn dangos un o blith nifer o uchafbwyntiau sy'n rhan o'n casgliad archifau.
Teitl: Mae'r rhosyn yn goch a'r fioledau'n las
Cyfeirnod: CAS/A19/41/p19
Mae’r cerdyn San Ffolant hwn a ysgrifennwyd at dderbynnydd anhysbys gan “un o’r merched bale bach hardd” (c. 1840), y tu mewn yn cynnwys y gerdd;
Mae'r rhosyn yn goch a'r fioledau'n las
Mae’r diafoll yn ddu a chithau hefyd
Pan fyddaf yn cydsynio i briodi gyda chi
Bydd y dail yn goch a'r rhosod yn las
Bydd gan gathod adenydd a bydd gennych synnwyr
Yr wyf yn siŵr nad oes gennych unrhyw esgus
Chi’n edrych fel corlun mynwent eglwys
Ac hyn yw nos da fy Sant Ffolant
Un o ferched bale bach hardd
Er nad yw’n glir beth yn union a ysbrydolodd y rhigwm tywyll hwn, ni allwn ond tybio nad oedd y derbynnydd yn Sant Ffolant...
Teitl: Y Salmydd Soppitt
Cyfeirnod: CDX974
Rhoddwyd y salmydd hwn o'r 13eg Ganrif, yn cynnwys 144 o grwyn, i Gymdeithas Hynafiaethwyr Caerfyrddin gan Mrs Soppitt er cof am ei diweddar ŵr, Archard Matthew Charles Arthur Soppitt.
Wedi’i atgyweirio a’i adlamu’n ddiweddarach gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, mae’r llyfr salmau hwn bellach wedi’i amgáu mewn cas solander ‘levant glas’ o ledr Moroco, wedi’i ffitio â dau ddal pres.
Mae ymylon y tudalennau wedi'u haddurno ag aur, a'r gyfrol wedi'i llythrennu mewn gilt, efallai mai dyma un o drysorau mwyaf Archifau Sir Gaerfyrddin!
Teitl: Nadolig Fictoraidd Iawn!
Cyfeirnod: Derwydd H23, Derwydd SG5 & MUS/739
Yn y 19eg ganrif, cyn i gardiau Nadolig Nadoligaidd ddod yn norm, weithiau byddai Fictoriaid yn rhoi tro tywyll a dirdro ar eu cyfarchion tymhorol. Rydym wedi darlunio rhai enghreifftiau o'r delweddau mwy traddodiadol a rhai o'r rhyfeddodau yn ein casgliad.
Teitl: Tanc Picton?
Cyfeirnod: Coleg y Drindod/ ffotograffau
Roedd y tanc yn rhodd gan y Pwyllgor Cynilion Rhyfel Cenedlaethol mewn gwerthfawrogiad o ymdrechion cynilion rhyfel Caerfyrddin. Ffurfiwyd gorymdaith i hebrwng y tanc i'w gartref ger Cofeb Picton ond yn anffodus, torrodd i lawr ar y Cei. Aeth yr orymdaith ymlaen hebddo.
Ymddiheurodd y Maer, a chafodd y pleser mawr o dderbyn y tanc fel gwobr am ymdrechion cynilion rhyfel y dref oherwydd gofynnwyd i bobl y dref danysgrifio £50,000 tuag at yr ymdrech ryfel ond fe aeth ymhell y tu hwnt i'r targed hwn drwy godi dros £250,000!
Atgyweiriwyd y tanc yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw ac aeth y tanc ymlaen i wneud yr orymdaith araf ond i'w fan gorffwys.
Teitl: Drwgargoel
Cyfeirnod: CAS/A19/ Cyfrol XLII (tud. 17)
Detholiad o bapur newydd o 1934, yn cynnwys manylion am weld Cannwyll Corff neu Ganhwyllau Cyrff yn ardal Sir Gaerfyrddin. Roedd y goleuadau fflachiog hyn, yn ôl Llên Gwerin yn rhagarwyddo marwolaeth unigolyn a gwelwyd cip ohonynt yn Llandysul, Llansteffan, a Llandybie.
Felly, pan fyddwch chi allan ar helfa 'cast ynteu ceiniog' yn ystod Calan Gaeaf eleni cadwch lygad amdanynt!
Teitl: Dirgelwch o'r Aifft.
Cyfeirnod: CDX/433/4
Telegram Gwladwriaeth yr Aifft a gafodd ei ddarganfod yn atig 29 Stryd y Cei, Caerfyrddin. Cafodd ei anfon ym 1906 ac mae'n darllen 'Dywedwch wrtho am ddod i Isna ddydd Sul peidiwch â mynd i El-Mahamid'
Cafodd ei anfon gan Howard Carter at Ernest Harold Jones ond y mae pwy yw'r 'ef' yn parhau i fod yn ddirgelwch.
Teitl: Amseroedd gwahanol, gwerthoedd gwahanol
Cyfeirnod: MUS/776
Roedd Edward Burdett Warren wedi gadael ystâd Bumper Hall yn Jamaica i'w frawd Thomas Warren, fferyllydd cyfanwerthol, o Stryd y Brenin, Caerfyrddin ym 1836. Roedd Thomas mewn partneriaeth â'i fab Edward Burdett Warren ac yn masnachu fel Thos. Warren & Son. Roedd Thomas am flynyddoedd lawer yn gysylltiedig â Bryste.
Teitl: Nid yw swydd plismon yn un hapus.
Cyfeirnod: MUS/113
Dyddiadur gwaith y Rhingyll David Williams 1859 – 1960. Roedd y Rhingyll Williams yn gweithio yn nhref Caerfyrddin ac mae'n cofnodi unrhyw aflonyddwch, achosion o dorri'r gyfraith neu unrhyw ddigwyddiadau anarferol eraill yn y dref. Mae ei drefn ddyddiol yn cynnwys cadw golwg ar ei gwnstabliaid, ac yn aml mae'n anfodlon â hwy am eu bod yn feddw a hwythau ar ddyletswydd. Mae hefyd yn ymweld â swyddfa'r maer yn rheolaidd ac yn mynychu'r Sesiwn Fach a sesiynau'r llys chwarter yn ogystal â'r brawdlysoedd.
Teitl: The Ping-Pong Flight
Cyfeirnod: CDX/017/014
Glaniodd yr awyren, Lady Peace, mewn cae ger Llandeilo ar 3 Medi 1936. Roedd yr hediad yn rhan o ymgais i groesi'r Iwerydd o faes awyr Floyd Bennett Field, Brooklyn i Croydon, Llundain ac yn ôl, ond bu'n rhaid i'r awyren lanio oherwydd diffyg tanwydd. Fodd bynnag, er gwaethaf hyn, cyflawnwyd y daith mewn 18 awr ac 8 munud.
Y peilot oedd Henry Tindall Merrill, peilot gorau Eastern Airlines a oedd wedi hedfan 2,000,000 o filltiroedd heb anaf erbyn 1936. Ymddeolodd ym 1961 ar ôl hedfan mwy o filltiroedd nag unrhyw beilot arall mewn hanes hedfan masnachol yn ôl y sôn Y cydbeilot oedd Harry Richman, a oedd yn enwog am ei rôl fel Harry Raymond yn y ffilm 'Puttin' on the Ritz’ ym 1930.
Fe'i galwyd yn "The Ping-Pong Flight" oherwydd bod Richman a Merrill wedi stwffio pob twll a chornel o'r cynffon a'r adenydd gyda 41,000 o beli ping-pong fel y byddai'r awyren yn ddigon ysgafn i arnofio pe bai'n rhaid iddynt lanio ar yr Iwerydd. Cafodd llawer o'r rhain eu llofnodi gan y naill neu'r llall neu'r ddau ohonynt ac maent ar werth o bryd i'w gilydd, mae'n debyg y cafodd un ei brynu'n ddiweddar gan olygydd "Table Tennis Collector: the Journal of the Table Tennis Collectors’ Society".