Gweithio gyda ni
Diweddarwyd y dudalen ar: 03/10/2023
Gwirfoddoli gyda ni
Mae gennym ni gyfleoedd i bobl sydd ag ychydig o amser i'w sbario i'n helpu ni i ofalu am dreftadaeth Sir Gaerfyrddin.
Mae amrywiaeth o rolau ar gael a byddwn yn darparu hyfforddiant a chefnogaeth lawn i chi. Trwy wirfoddoli, byddwch hefyd yn cael cyfle i ddysgu sgiliau newydd a chwrdd â phobl newydd.
Mae gan ein gwirfoddolwyr lefelau amrywiol o brofiad neu sgiliau blaenorol. Dylai fod gan bob gwirfoddolwr ddealltwriaeth o'r angen i ofalu am adnoddau a rhoi sylw i fanylder. Yn achos peth o'r gwaith, bydd angen rhywfaint o hyder wrth ddefnyddio cyfrifiaduron ac offer arall. Ein nod, lle bo modd, yw chwilio rôl i chi sy'n cyfateb i'ch gallu a'ch sgiliau.
Lleoliadau Gwaith
Rydym o'r farn fod cynnig lleoliadau profiad gwaith i fyfyrwyr a disgyblion ysgol yn ffordd wych o gael golwg ar y gwaith pwysig a diddorol yr ydym yn ei wneud.
Rydym yn ceisio sicrhau bod y gwaith gwirfoddoli mor amrywiol â phosibl. Mae peth o'r gwaith yn cynnwys:
- Glanhau a phecynnu dogfennau
- Rhestru casgliadau newydd
- Sganio a digideiddio
- Gweithio ar ein harddangosfeydd
- Ymateb i ymholiadau o bell
Mae'r gwaith i gyd yn cael ei wneud dan oruchwyliaeth uniongyrchol aelod proffesiynol o staff.
Rydym hefyd yn cynnig lleoliad profiad gwaith gwirfoddol i bobl sy'n ystyried gyrfa mewn archifau a rheoli cofnodion cyn gwneud cais am gwrs rheoli archifau ôl-raddedig cydnabyddedig.
Os oes gennych ddiddordeb mewn lleoliad profiad gwaith nei mewn gwirfoddoli, cysylltwch â ni i gael ragor o wybodaeth.