Ysgolion

Diweddarwyd y dudalen ar: 05/03/2024

Mae gan Llyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin wasanaeth penodol ar gyfer Ysgolion. Gallwch fenthyca llyfrau ar gyfer eich dosbarth bob tymor yn y Gymraeg a’r Saesneg. Unwaith eich bod wedi gwneud eich cais, byddwn  yn danfon a chasglu y llyfrau i’r ysgol ar ddechrau ac ar ddiwedd bob tymor.

 

 Dewis llyfrau:

Mae’r gwasanaeth yn cefnogi Fframwaith Cwricwlwm i Gymru ac yn adlewyrchu’r newidiadau ynddo, gan sicrhau bod y stoc yn cael ei gynnal a’i gadw i fod yn fywiog, perthnasol a phwrpasol. Mae ein ystod eang o lyfrau ffeithiol yn cefnogi dysgu’r disgybl yn amrywio o Awstralia i Ystlumod. Mae ein llyfrau Ffuglen o ansawdd uchel yn cefnogi darllen er mwyn pleser. Mae wedi cael ei brofi bod cael mynediad i lyfrau eu hun yn cael effaith bositif ar gyrhaeddiad plant. Gellir archebu llyfrau dosbarth ar gyfer ffuglen i blant o fewn teitlau poblogaidd.Mae gennym gasgliad o lyfrau dislecsia i gefnogi disgyblion hefyd. Rhowch wybod pan fyddwch yn archebu.

 

Sut fedrwch chi wneud cais ar gyfer benthyg o Lyfrgell yr Ysgolion?

Y ffordd gorau yw cael gafael ar ein ffurflen ar-lein er mwyn gosod eich archeb yn ystod wythos olar’r tymor neu yn pythefnos cyntaf y tymor Newydd. Os ydych yn methu cael mynediad i’r ffurflen ar-lein gallwch gysylltu yn uniongyrchol gydag e-bost. Danfonir y llyfrau i’ch hysgol a byddant yn eu hadnewyddu yn ystod y tymor. Bydd y llyfrau yn cael eu casglu er mwyn eu dychwelyd i’r llyfrgell yn ystod wythnos ola’r tymor. Cofiwch y gellir gosod yr archeb ar gyfer y tymor nesaf.

 

Beth yw’r buddion?

Mae hwn yn wasanaeth sy’n RHAD AC AM DDIM ar gyfer Ysgolion Sir Gaerfyrddin. Ychwanegir teitlau newydd sbon yn rheolaidd er mwyn creu gwasanaeth cynhwysfawr a pherthnasol. Mae nifer o ysgolion wedi ymuno a’r gwasanaeth. Maent wedi arddangos adborth positif iawn ac yn dychwelyd i’w ddefnyddio tymor ar ôl tymor.

 

Hyderwn yn fawr y byddwch yn manteisio ar y gwasaneth bendigedig yma sy’n rhad ac am ddim, ac y gall Llyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin eich cefnogi yn ystod y tymor.