Llyfrgell deithiol
A yw'n anodd ichi gyrraedd eich llyfrgell agosaf, neu a hoffech chi gael dewis arall? Mae gan y llyfrgell symudol ddewis o lyfrau i oedolion a phlant, yn Gymraeg ac yn Saesneg, gan gynnwys ffuglen a llyfrau ffeithiol poblogaidd, yn ogystal â llyfrau print bras.
Hefyd mae detholiad o DVDs a chryno ddisgiau ar gael. Gallwch ddefnyddio ein Wi-Fi rhad ac am ddim gan ddefnyddio ein iPads neu'ch dyfais eich hun. Gallwch gael mynediad at gyfleusterau llungopïo ac argraffu, ystod o wasanaethau sy'n cynnwys credyd cynhwysol, cyngor ar bopeth a hyd yn oed cyfleoedd chwilio am swyddi.
Mae aelod o staff y gwasanaeth cwsmeriaid yn bresennol ar rai o'r llyfrgelloedd teithiol er mwyn helpu i ateb unrhyw gwestiynau neu ymholiadau a allai fod gennych am y Cyngor. Enw'r gwasanaeth newydd hwn yw Hwb Bach y Wlad lle gall preswylwyr gael mynediad i holl wasanaethau'r cyngor ar garreg eu drws.
Os nad oes gan y llyfrgell deithiol y math o lyfrau rydych yn hoffi, gallwch wneud cais am unrhyw eitem o unrhyw un o'r llyfrgelloedd cyhoeddus yn Sir Gaerfyrddin yn rhad ac am ddim drwy ein catalog ar-lein neu drwy staff y llyfrgell deithiol. Gallwch wneud cais am eitemau eraill am dâl bychan.
Ddarganfod pryd mae'r llyfrgell symudol yn eich ardal chi
- Cilycwm - Llanwrda - Llanddeusant - Llanfynydd
- Farmers - Pumsaint - Crug Y Bar - Rhydcymerau
- Tycroes
- Ystradowen
- Cwmann - Llanybydder - Capel Dewi
- Login - Llanglydwen - Llanboidy
- Blaen y Coed - Capel Iwan - Drefach Felindre - Cynwyl Elfed
- Trimsaran - Mynyddygarreg - Glanyfferi
- Llannon - Drefach - Mynydd Cerrig
- Talyllychau - Brechfa - Nantgaredig
- Blaenwaun - Trelech - Meidrim
- Pentywyn - Llansadwrnen - Talacharn - Llanddowror
- Llanybri - Llansteffan - Llangain
- Peniel - Llanpumsaint - Pencader - Llanllwni
- Llangadog
Mwy ynghylch Llyfrgelloedd ac Archifau