FAQs

Diweddarwyd y dudalen ar: 05/04/2024

Dylai aelodau presennol neu newydd o'r llyfrgell 16 oed neu hŷn siarad â staff yn Llyfrgell Caerfyrddin a fydd yn helpu.  Mae'n rhaid i chi ddarparu cerdyn llyfrgell dilys, llun adnabod a phrawf cyfeiriad wrth wneud cais am Ddatgloi Llyfrgelloedd e.e. Trwydded yrru, neu basbort a bil aelwyd.

Dim ond pobl dros 16 oed fydd yn cael mynediad yn ystod oriau Ddatgloi Llyfrgelloedd.

Mae Ddatgloi Llyfrgelloedd ar gyfer pobl na allant gael mynediad i'r llyfrgell yn ystod oriau agor arferol ac sydd angen oriau estynedig ar ôl oriau agor. Mae angen rheswm dilys dros ddefnyddio'r gwasanaeth hwn.

Beth yw'r rhesymau dilys?

  • Aseiniad/Traethawd Hir - mae angen nodi'r dyddiad cyflwyno.
  • Mynediad at adnoddau na ellir eu cyrchu gartref.

Cyn cytuno ar Ddatgloi Llyfrgelloedd, bydd angen i chi roi'ch rheswm dros fynediad a chytuno gyda'r aelod o staff am ba mor hir y bydd angen mynediad arnoch. Os cytunir ar fis o fynediad a bod angen i chi ymestyn y dyddiad, nid yw hynny'n broblem, siaradwch ag aelod o staff.

Ar ôl i chi gofrestru, byddwch yn cael mynediad i'r llyfrgell drwy sganio'ch cerdyn llyfrgell a rhoi eich rhif PIN wrth y brif fynedfa.

Na allwch. Rhaid i bawb sy'n mynd i mewn gofrestru i ddefnyddio'r system a chael eu cerdyn eu hunain. Mae rheolau arbennig hefyd yn berthnasol i grwpiau nos. (Gweler nodiadau Mynediad Gyda'r Nos).

Cerddwch allan drwy'r prif ddrysau, nid oes angen rhoi eich manylion cerdyn neu PIN eto.

  • Mynd i'r llyfrgell, pori'r stoc, darllen, astudio a chael gwybodaeth.
  • Defnyddio cyfrifiaduron cwsmeriaid a chyrchu'r rhyngrwyd.
  • Defnyddio Wi-Fi y llyfrgell.

Mae camerâu teledu cylch cyfyng ym mhob rhan o'r adeilad er eich tawelwch meddwl a gallwch godi ffôn a galw 999 os oes unrhyw argyfwng. Byddwn yn ymdrin â rhai gweithdrefnau sylfaenol pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer aelodaeth Datgloi Llyfrgelloedd a byddwn hefyd yn rhoi gwybod i chi fod defnydd o'r llyfrgell y tu allan i oriau staff ar eich menter eich hun.

Bydd Gofalwr ar ddyletswydd yn ystod oriau Datgloi Llyfrgelloedd.

Os nad ydych yn gallu cael mynediad gan ddefnyddio'ch cerdyn a'ch rhif PIN efallai bod y dyddiad wedi dod i ben ar eich cerdyn.  Rydym hefyd yn cadw'r hawl i ddileu eich rhif PIN os na fyddwch yn dilyn ein telerau ac amodau.

Rheolau - allwn ni ddim byw hebddynt, ac i wneud ein hamgylchedd Datgloi Llyfrgelloedd yn dda i bawb, dyma'r hyn fydd yn berthnasol i'r gwasanaeth yng Nghaerfyrddin:

  1. Dylai cwsmeriaid fod yn wyliadwrus. Peidiwch â chaniatáu i unrhyw un eich dilyn i'r llyfrgell. Os ydych chi'n poeni y gall rhywun eich dilyn chi i'r llyfrgell, peidiwch â mynd i mewn.
  2. Ni ddylai cwsmeriaid agor y drws i ganiatáu i unrhyw un ddod i mewn i'r llyfrgell yn ystod oriau Datgloi Llyfrgelloedd, gan ei bod yn bosibl nad yw'r person hwn wedi'i gofrestru ar gyfer Datgloi Llyfrgelloedd.
  3. Dylai cwsmeriaid fynd i mewn a gadael yr adeilad gan ddefnyddio'r fynedfa ddynodedig yn unig.
  4. Ni ddylai cwsmeriaid ddefnyddio'r drysau tân ac eithrio mewn argyfwng. Mae larwm ar waith ar gyfer y drws tân ond bydd yn agor os bydd tân.
  5. Ni ddylai cwsmeriaid roi eu cerdyn a'u rhif PIN i unrhyw un arall.
  6. Dim ond pobl dros 16 oed sy'n cael mynediad i Open+
  7. Ni ddylai cwsmeriaid gael mynediad i'r cownter na defnyddio unrhyw offer.
  8. Ni ddylai cwsmeriaid geisio mynd i mewn i unrhyw ardaloedd cyfyngedig.
  9. Ni ddylai cwsmeriaid blygio unrhyw ddyfais, fel ffôn symudol, gliniadur ac ati i mewn i'r prif gyflenwad neu rwydwaith y cyngor.
  10. Mae cwsmeriaid sydd â chyflwr meddygol a allai beri risg iddynt eu hunain yn ystod oriau Datgloi Llyfrgelloedd, yn mynd i mewn i'r llyfrgell yn gyfan gwbl ar eu menter eu hunain.
  11. Os bydd argyfwng, mae rhifau cyswllt wedi'u harddangos yn y llyfrgell. Dylai cwsmeriaid nodi mai rhifau brys yn unig yw'r rhain ac ni chaniateir i chi eu defnyddio ar gyfer unrhyw beth arall.
  12. Rhaid i chi fod yn ystyriol dros bobl eraill sy'n defnyddio'r gwasanaeth Datgloi Llyfrgelloedd ar yr un pryd â chi, parchu eu hawl i ddefnydd tawel o'r llyfrgell a pheidio â gweithredu mewn unrhyw ffordd a allai achosi niwsans neu aflonyddwch iddynt.
  13. Rhaid i chi ddefnyddio'r holl wasanaethau a chyfarpar yn gyfrifol. Mae'n ofynnol i chi barchu'r rheoliadau sy'n ymwneud â defnyddio adnoddau ac eiddo llyfrgell a chynorthwyo i'w diogelu.
  14. Ni ddylech fynd ag unrhyw ddeunydd cyfeirio, papurau newydd, offer na chelfi o'r llyfrgell.
  15. Ni ellir dod â chŵn, heblaw cŵn cymorth, i mewn i'r llyfrgell.
  16. Rhaid i chi beidio ag ysmygu, dod ag alcohol, sylweddau anghyfreithlon, sigaréts electronig, neu unrhyw beth y gellid ei ystyried yn arf. Rhaid i chi weithredu bob amser yn unol ag is-ddeddfau'r llyfrgell.
  17. Cofiwch ddiogelu eich cerdyn llyfrgell a'ch PIN; dyma eich cerdyn banc i'r llyfrgell!
  18. Mae'n rhaid i chi adael yr adeilad cyn i'r gwasanaeth Datgloi Llyfrgelloedd gau a mynd â'ch holl eiddo gyda chi.
  19. Mae camerâu teledu cylch cyfyng yn y llyfrgell. Fodd bynnag, os oes gennych unrhyw bryderon am y defnydd o'r llyfrgell tra'ch bod yn bresennol, rhowch wybod i ni o fewn 48 awr i'r digwyddiad drwy anfon e-bost at ECSLibrary@sirgar.gov.uk, dros y ffôn 01267 224824 neu drwy fynd i lyfrgell arall.

Gall grwpiau archebu ystafell yn ystod oriau Datgloi Llyfrgelloedd. Mae angen i unrhyw un sy'n archebu ystafell fod yn arweinydd grŵp gydag aelodaeth Datgloi Llyfrgelloedd. Bydd arweinwyr grŵp yn cymryd cyfrifoldeb am y grŵp a byddant yn gallu gadael aelodau o'r grŵp i mewn yn ystod y noson. Siaradwch â staff am archebu ystafell o leiaf 24 awr ymlaen llaw a chytuno ar amser i gael sesiwn ymsefydlu i ddefnyddio ystafell.

Llwythwch mwy