Beth am fod yn ofalwr preswyl?
Mae ein tîm ymroddedig o ofalwyr preswyl yn rhoi cymorth i'r rhai sy'n byw yn un o'r 7 o gartrefi preswyl sy'n eiddo i'r cyngor yn Sir Gaerfyrddin.
Gallech wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl eraill, gan weithio fel rhan o dîm sy'n cael cefnogaeth dda i ddarparu gofal hanfodol wrth feithrin cysylltiadau agos â'r rhai mewn angen yn eich cymuned leol.
Ein nod yw darparu gofal rhagorol a helpu cleientiaid i fyw mor annibynnol â phosibl; p'un a ydynt gyda ni am gyfnod byr wrth wella o salwch/anaf neu am gyfnod hirach, mae rhai preswylwyr yn aros gyda ni am flynyddoedd lawer. Gallech ein helpu i gyflawni hyn drwy fod yn ofalwr.
P'un a ydych yn chwilio am yrfa newydd neu os oes gennych flynyddoedd lawer o brofiad yn gofalu am eraill, mae bod yn ofalwr preswyl yn cynnig llawer o fanteision, gan roi'r wybodaeth a'r sgiliau i chi ragori yn y rôl.
Darperir cymorth a hyfforddiant i roi'r sgiliau sydd eu hangen ar ein gofalwyr i wneud gwaith gwych a bod yn help llaw i'r rhai sydd angen cymorth bob dydd.