Beth am fod yn Gynorthwyydd Arlwyo?
Mae ein tîm o Gynorthwywyr Arlwyo yn chwarae rhan bwysig wrth ddarparu prydau bwyd maethlon o ansawdd da i blant ysgol yn Sir Gaerfyrddin.
Mae'r swydd yn cynnwys helpu i baratoi prydau bwyd, yn ogystal â gosod cyfleusterau bwyta, clirio byrddau, golchi llestri a dyletswyddau eraill sy'n ymwneud â glanhau'r gegin.
Mae ein swyddi Cynorthwyydd Arlwyo yn berffaith i unrhyw un sy'n chwilio am waith sy'n cyd-fynd ag ymrwymiadau teuluol a gwyliau ysgol.
Nid oes angen profiad, rydym yn darparu hyfforddiant llawn a chefnogaeth i'ch helpu i ragori. Yr hyn sydd ei angen fwyaf yw pobl sydd ag agwedd dda at waith ac sy’n barod i ddysgu.