Cwestiynau cyffredin
Bydd eich cais yn cau ar ôl 30 munud – mae hyn am resymau diogelwch.
Cofiwch gadw eich cais yn rheolaidd er mwyn osgoi colli unrhyw wybodaeth.
Os ydych chi wedi anghofio'ch manylion ers i chi gofrestru gallwch glicio ar y ddolen 'Wedi anghofio'ch manylion?' ym mlwch 'Eich cyfrif' yn y panel ar yr ochr chwith o dan ein logo.
Anfonir neges e-bost i'ch atgoffa ynghylch eich enw defnyddiwr neu anfonir cyfrinair dros dro atoch.
Os mae eich cyfrif wedi cael ei rhewi, arhoswch 30 munud. Ar ôl 30 munud byddwch yn gallu rhoi cynnig arall ar fewngofnodi.
Mae eich cyfrinair a'ch enw defnyddiwr yn sensitif i faint llythrennau. Mae'n rhaid i'ch cyfrinair gynnwys o leiaf 8 nod a chymysgedd o briflythrennau, llythrennau bach ac o leiaf un rhif.
Os ydych chi'n dal i gael problemau, efallai y bydd angen i chi ailosod eich manylion mewngofnodi. Fel arall, gallwch cysylltwch â swyddi@sirgar.gov.uk a byddwn yn gallu ailosod eich cyfrinair yn ystod oriau arferol y swyddfa.
Rydym wedi cael gwybod bod rhai cyfrifon e-bost yn cael trafferth derbyn ein negeseuon e-bost. Ewch i'ch ffolder negeseuon e-bost di-ofyn/sbam a dadflocio unrhyw negeseuon a anfonwyd atoch o'r cyfrifon e-bost canlynol:
Mae rhai o swyddi’r Cyngor yn swyddi sydd ‘o dan gyfyngiadau gwleidyddol’; golyga hyn nad yw’r staff a gyflogir i wneud y swyddi hynny yn gallu ymgymryd â gweithgarwch gwleidyddol. Nid yw holl swyddi’r Cyngor yn rhai sydd o dan gyfyngiadau gwleidyddol.
Deillia’r polisi hwn o’r traddodiad sy’n bod ers tro byd y dylid gweld bod gweithwyr llywodraeth leol yn cydymffurfio â pholisi amhleidioldeb gwleidyddol, a bod hyn yn sicrhau bod y cyhoedd yn gallu dibynnu ar gael cyngor diduedd gan y gweithwyr hynny.
Diben y polisi hwn yw adlewyrchu’r darpariaethau deddfwriaethol presennol o ran swyddi sydd o dan gyfyngiadau gwleidyddol, ac nid yw’n gontractiol.
Mae rhai defnyddwyr, yn enwedig y rhai sy'n defnyddio caledwedd Samsung yn cael anhawster i gyrchu'n tudalen 'Chwilio am Swyddi Gwag'. Mae neges rybuddio yn ymddangos sy'n dweud bod tystysgrif ddiogelwch y dudalen we yn annilys. Ewch ymlaen heibio i'r neges hon. Mae'r dudalen yn ddiogel.
Mater sy'n ymwneud â'r ddyfais yw hon gan nad yw Google yn diweddaru'r dystysgrif yn gywir ar system Android. Rydym yn gweithio i gael tystysgrif ddiogelwch ar y lefel briodol ar gyfer y dudalen hon.
Yn y cyfamser, llwythwch dystysgrifau QuoVadis Root CA2 a QuoVadis Global SSL ICA G2 ar eich dyfais.
Mae'n bosibl fod iaith eich porwr wedi'i osod i Saesneg yr Unol Daleithiau. Os ydych chi'n newid y gosodiad iaith i Gymraeg [cy] neu i Saesneg (y Deyrnas Unedig) [en-GB], yn cadw'r newid ac yna'n cau'r porwr a'i ailagor, dylai'r dyddiadau ymddangos yn y ffurf gywir.
Nid yw ffurflenni dilynol yn cadw'r wybodaeth a gofnodwyd mewn ceisiadau blaenorol gan y bydd angen, o bosibl, ichi deilwra'r wybodaeth ar gyfer gofynion pob swydd wag rydych chi'n ymgeisio amdani.
- Geirda
- Sgiliau Iaith
- Ailsefydlu Troseddwyr
- Datganiad yn Cefnogi'r Cais
- Datganiad / Cadarnhau Manylion
Mae'r maes Cymwysterau gan gynnwys gradd/lefel yn derbyn 30 nod yn unig (a dim nodau arbennig). Defnyddiwch fyrfoddau ystyrlon os bydd angen.
Rydym yn awgrymu eich bod yn cofnodi pob cymhwyster ar wahân.
Noder: Unwaith yn unig y bydd angen ichi gofnodi'r manylion hyn a bydd y system yn eu cadw ar gyfer pob cais yn y dyfodol. Os ydych yn teimlo bod angen ichi esbonio'r byrfoddau, gwnewch hynny yn eich Datganiad yn Cefnogi'r Cais.
Peidiwch ag anfon eich CV yn lle’r ffurflen gais, oherwydd ni fydd yn cael ei gyflwyno ar gyfer asesu. Hefyd, peidiwch â chysylltu eich CV wrth y ffurflen gais gan fod ein hasesiad yn seiliedig ar y wybodaeth a roddir yn y ffurflen gais yn unig. Mae hynny’n golygu ein bod yn gallu asesu eich sgiliau ac yn y blaen trwy eu cymharu â’r rhai sydd gan ymgeisydd arall, a hynny mewn ffordd deg a chyson.
Nodwch y sgiliau iaith sydd gennych. Mae’n bwysig eich bod yn nodi lefel y rhuglder sydd gennych. Cyfeiriwch at y fanyleb person i weld lefel y rhuglder sy’n ofynnol a defnyddiwch y canllaw isod i asesu eich sgiliau eich hun.
LEFEL 1
Gwrando/Siarad
- Medru ynganu enwau llefydd ac enwau personol yn gywir.
- Medru cyfarch cwsmeriaid mewn derbynfa neu ar y ffôn.
- Medru agor a chloi sgwrs.
Darllen
- Medru deall testun byr ynglŷn â phwnc cyfarwydd pan wedi ei gyfleu mewn iaith syml, e.e. arwyddion elfennol, cyfarwyddiadau syml, deall cynnwys agenda.
Ysgrifennu
- Medru ysgrifennu enwau personol, enwau llefydd, teitlau swyddi ac enwau adrannau’r Cyngor.
LEFEL 2
Gwrando/Siarad
- Medru deall craidd sgwrs.
- Medru derbyn a deall negeseuon syml ar batrymau arferol, e.e. amser a lleoliad cyfarfod, cais am siarad gyda rhywun.
- Medru cyfleu gwybodaeth elfennol a chyfarwyddiadau syml.
- Medru agor a chau sgwrs a chyfarfod yn ddwyieithog.
Darllen
- Medru deall y rhan fwyaf o adroddiadau byrion a chyfarwyddiadau arferol o fewn arbenigedd y gwaith, â bod digon o amser wedi ei ganiatáu.
Ysgrifennu
- Medru llunio neges fer syml ar bapur neu e-bost i gydweithiwr o fewn y Cyngor neu gyswllt cyfarwydd y tu allan i’r Cyngor.
LEFEL 3
Gwrando/Siarad
- Medru deall a chymryd rhan yn y rhan fwyaf o sgyrsiau arferol o ddydd i ddydd yn y swyddfa.
- Medru cynnig cyngor i’r cyhoedd ar faterion cyffredinol mewn perthynas â’r swydd, er yn gorfod troi i Saesneg ar gyfer termau technegol neu arbenigol.
- Medru cyfrannu i gyfarfod neu gyflwyniad ar faterion cyffredinol mewn perthynas â’r swydd, er yn gorfod troi i Saesneg ar gyfer termau technegol neu arbenigol.
Darllen
- Medru deall y rhan fwyaf o’r adroddiadau, dogfennau a gohebiaeth y byddai disgwyl eu trafod yng nghwrs arferol y gwaith.
Ysgrifennu
- Medru llunio negeseuon ac adroddiadau anffurfiol at ddefnydd mewnol.
LEFEL 4
Gwrando/Siarad
- Medru cyfrannu’n effeithiol mewn cyfarfodydd mewnol ac allanol yng nghyd-destun y pwnc gwaith.
- Medru deall gwahaniaethau cywair a thafodiaith.
- Medru dadlau o blaid ac yn erbyn achos penodol.
- Medru cadeirio cyfarfodydd ac ateb cwestiynau o’r Gadair yn hyderus.
Darllen
- Medru deall gohebiaeth ac adroddiadau pwnc wedi eu llunio mewn cywair safonol.
Ysgrifennu
- Medru llunio gohebiaeth fusnes, adroddiadau byr, negeseuon e-bost a llenyddiaeth hysbysrwydd gyda chymorth golygyddol.
LEFEL 5
Gwrando/Siarad
- Medru cyfrannu’n rhugl a hyderus yng nghyswllt pob agwedd ar y gwaith beunyddiol, gan gynnwys trafod a chynghori ar faterion technegol, arbenigol neu sensitif.
- Medru cyfrannu i gyfarfodydd a darparu cyflwyniadau yn rhugl a hyderus.
Darllen
- Medru deall adroddiadau, dogfennau ac erthyglau y byddai disgwyl eu darllen yng nghwrs arferol y gwaith, gan gynnwys cysyniadau cymhleth a fynegir mewn iaith astrus.
Ysgrifennu
- Medru llunio gohebiaeth fusnes, adroddiadau byr, negeseuon e-bost a llenyddiaeth hysbysrwydd i safon dderbyniol gyda chymorth cymhorthion iaith.
- Medru llunio nodiadau manwl wrth gymryd rhan lawn mewn cyfarfod.
Rydym ni'n annog pawb i gyflwyno cais ar-lein. Derbynnir ceisiadau ar ffurf arall pan fydd ymgeisydd yn cael anhawster i gwblhau'r ffurflen ar-lein oherwydd anabledd. O dan yr amgylchiadau eithriadol hyn, byddwn yn gwneud trefniadau eraill i'ch helpu â'r broses gan e-bostio swyddi@sirgar.gov.uk.
Pro Rata yw cyfran y cyflog llawn amser (37 awr) a ddyfynnir os ydych yn gweithio yn ystod y Tymor/Rhan Amser.
Telir lwfans o 4% i gydnabod gweithio yn ystod y Tymor.
Telir lwfans o 8% os ydych yn gweithio'n rheolaidd 2 ddiwrnod neu fwy ar y penwythnos allan o bob 4 wythnos.
Swyddi a Gyrfaoedd1
Gweithio i ni
- Neges wrth y Arweinydd y Cyngor
- Byw yn Sir Sir Gâr
- Llesiant Gweithwyr
- Beth mae ein staff yn ei ddweud amdanom ni
- Cyfleoedd eraill
Buddiannau gweithwyr
Ein Cenhadaeth a'n Gwerthoedd Craidd
Sut i ymgeisio
Mwy ynghylch Swyddi a Gyrfaoedd1