Sgiliau Iaith Gymraeg

Diweddarwyd y dudalen ar: 05/04/2023

Mae gan Sir Gaerfyrddin yr ail nifer fwyaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. Mae ein poblogaeth ddwyieithog yn ased unigryw a gwerthfawr. Fel sefydliad dwyieithog sy'n gweithredu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg, mae'n ddyletswydd statudol ar Gyngor Sir Gâr i ddarparu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg, ond rydym hefyd yn angerddol dros hyrwyddo'r Gymraeg a sicrhau bod ein holl staff yn cael cyfle i ddysgu a defnyddio'r Gymraeg ym mhob agwedd o'r gweithle i ddarparu gwell gwasanaeth i bobl Sir Gaerfyrddin yn eu hiaith ddewisol.

Rydym yn benderfynol o sicrhau bod y Gymraeg yn parhau'n iaith fyw yn Sir Gaerfyrddin felly mae ein holl staff angen sgiliau Cymraeg a Saesneg rhwng lefel 1 a lefel 5, yn ddibynnol ar natur y rôl.

Os nad ydych yn cwrdd â'r lefel Gymraeg sydd ei angen ar gyfer eich rôl, byddwn yn cyllido ac yn cefnogi eich datblygiad Cymraeg i'r lefel sydd ei angen arnoch yn ystod oriau gwaith. Byddwch yn derbyn Cytundeb Dysgu Iaith, a fydd yn eich tywys a'ch cefnogi chi i weithio tuag at y lefel hon o fewn amserlen y cytunwyd arni.

Mae gwahanol lwybrau y gallwch eu dewis i'ch helpu i gyrraedd y lefel sydd ei angen ar gyfer eich rôl, gallwch drafod a chytuno gyda'ch rheolwr llinell pa lwybr sy'n iawn i chi. Mae gennym hefyd gynllun mentora, a chyrsiau byr sy'n addas ar gyfer y rhai a allai ddeall Cymraeg ond diffyg hyder i'w ateb, ag yna sydd angen ychydig bach mwy o hyder i ddefnyddio'r iaith. Ar ba bynnag lefel yr ydych chi, byddwn yn eich cefnogi bob cam o'r ffordd i sicrhau eich bod yn gallu defnyddio'r Gymraeg yn hyderus ym mhob agwedd o'r bywyd gwaith.

 

Beth am ddechrau neu ail-ddal ar y iaith Gymraeg? ...

Mae'n bosib cyrraedd Cymraeg lefel 1 cyn dechrau yng Nghyngor Sir Gaerfyrddin drwy gwblhau cwrs byr am ddim gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Croeso Cymraeg rhan 1 a chroeso Cymraeg rhan 2.

Yn dilyn y cwrs hwn, byddwch yn derbyn tystysgrif i ddangos eich bod wedi'i chwblhau.

Mae hyn hefyd yn ddefnyddiol os hoffech ail-ddal ar iaith Gymraeg.

Rhowch dro arni …

 

Taith Dysgu Cymraeg staff Cyngor Sir Gar:

 

Rhaglen Codi Hyder:

"Roeddwn i'n meddwl bod y cwrs Codi Hyder Cymraeg yn wych gan ei fod wedi helpu i ddatblygu fy hyder i siarad Cymraeg ac mae wedi profi'n fuddiol i fy ngwaith. Gwnaeth y cwrs fy helpu i ymarfer fy Nghymreictod mewn amgylchedd hamddenol am 2 awr yr wythnos, a theimlais mai dyma'r amser dysgu cywir. Fe'i cynhaliwyd yn rhithiol ag mi roedd yn gyfleus iawn. Erbyn hyn rwy'n teimlo'n fwy hyderus i siarad Cymraeg gyda fy nghydweithwyr ac i ddefnyddio'r iaith yn fy ngweithle."

 

Cwrs 1-wythnos Dwys Defnyddio Cymraeg Gwaith

“Mae'r cwrs wedi rhoi mwy o hyder i mi yn y swyddfa a tu-allan o’r gwaith. Bydd y cwrs hwn yn fy helpu i ddefnyddio iaith Gymraeg yn fwy hyderus gyda'r staff a'r cleientiaid yn y gwaith, yn y gymuned ac yn yr ysbyty.”

 

“Mae’r cwrs hyn yn rhoi llawer of hyder i chi ddefnyddio Cymraeg yn eich lle gwaith."

 

Cwrs Dysgu Cymraeg:

"Ers i mi ddechrau fy ngwaith ym Mehefin 2019, cefais fy annog a'm cefnogi i ddysgu Cymraeg drwy ddilyn cwrs wythnosol. Hyd fy ngallu dwi yn trio defnyddio'r Cymraeg dwi wedi dysgu wrth siarad gyda'r grwpiau dwi'n gweithio gyda yn y gymuned. Mae fy ymdrechion yn cael derbyniad da ac rwyf bob amser yn cael fy annog i ymarfer ymadroddion newydd gyda phobl yn y gymuned a chydweithwyr. Rydw i wedi cael fy mhartneru gyda chydweithiwr fel fy Mentor Cymreig i ymarfer siarad Cymraeg."