Dod o hyd i brofiad gwaith

Diweddarwyd y dudalen ar: 27/07/2022

Wrth i ni symud y tu hwnt i Bandemig COVID, rydym am sicrhau y gallwn gynnig lleoliadau profiad gwaith cyffrous i'n hymgeiswyr.

Mae profiad gwaith yn rhoi cyfle i chi ddysgu amdanom ni yma yng Nghyngor Sir Caerfyrddin a chael profiad o sut rydym yn gweithio

Gall unrhyw un dros 14 oed (blwyddyn 10 yn yr ysgol) wneud cais am brofiad gwaith di-dâl.

Cyn i chi gysylltu mae'n bwysig eich bod chi'n meddwl am beth yr hoffech chi ei wneud yn ystod eich profiad gwaith. Mae gennym gyfleoedd mewn llawer o adrannau, ac mae'n ffordd wych o gael gwell syniad am yr hyn rydyn ni'n ei wneud fel sefydliad. Gallwn gynnig lleoliadau profiad gwaith dwyieithog.

Mae rhai timau'n ymdrin â gwybodaeth gyfrinachol a sensitif, felly ni allwn ddarparu profiad gwaith ym mhob adran (yn yr achos hwn ym maes gwaith cymdeithasol plant neu oedolion)

Mae pobl yn mynychu cyfnod o brofiad gwaith gyda ni am lawer o wahanol resymau, gan gynnwys:

  • Deall a dysgu am swyddi a gyrfaoedd yn ein sefydliad
  • Cael profiad o weithio mewn adran cyn ymrwymo i gwrs neu lwybr gyrfa.
  • Ymgymryd â Gwobr Dug Caeredin fel rhan o'u hastudiaethau
  • Dychwelyd i gyflogaeth ar ôl cyfnod o absenoldeb
  • Cael profiad da y gallwch gyfeirio ato fel rhan o'r broses gwneud cais am Brifysgol/Coleg.

Drwy wneud profiad gwaith, gallwch ennill sgiliau gwerthfawr fel gwaith tîm a sgiliau cyfathrebu, gall hyn eich helpu i ddatblygu eich hyder mewn amgylchedd gwaith.

Cymerwch olwg ar rai o'r cyfleoedd y gallwn eu cynnig isod a llenwch ein ffurflen gais ar-lein. Bydd hyn yn ein helpu i ddysgu rhagor am yr hyn rydych chi'n chwilio amdano. Bydd y ffurflen yn gofyn am wybodaeth fel y dyddiadau a ffefrir gennych, lleoliad, a'r math o waith y mae gennych ddiddordeb ynddo. 

Sylwer, nid yw cyflwyno cais am brofiad gwaith yn sicrwydd y byddwch yn cael eich derbyn. Os fyddwch chi’n llwyddiannus, byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost i drafod trefniadau ar gyfer y lleoliad.

Mae profiad gwaith yn ddi-dâl felly nid oes modd i ni gynnig treuliau.

Os oes maes gwaith penodol y mae gennych ddiddordeb ynddo ac nad yw wedi'i restru, cysylltwch â ni a byddwn yn fwy na hapus i drafod yr opsiynau.

Darllen ein Cwestiynau Cyffredin