Cwestiynau Cyffredin

Diweddarwyd y dudalen ar: 07/09/2023

Na chewch. Ni chewch dâl gan mai nod y profiad gwaith yw rhoi profiad i chi o fyd gwaith a rhoi cyfle i chi gael blas ar amrywiaeth mor eang â phosibl o dasgau o dan oruchwyliaeth staff profiadol.

Mae hyn yn dibynnu ar y trefniant rhyngoch chi a rheolwr y maes y byddwch yn gweithio ynddo.

  • Mae lleoliadau tymor byr yn para hyd at 30 diwrnod.
  • Gall lleoliadau hirdymor bara rhwng 3 a 6 mis yn dibynnu ar y cynllun hyfforddiant sy'n cynnal y lleoliad.

Mae hyn yn fater i chi drafod â'r Ymgynghorydd Dysgu a Datblygu  (Sally Bennett: SBennett@sirgar.gov.uk) a'i drefnu.

Na fydd. Bydd disgwyl i chi ddarparu eich cinio eich hun. Mae'r cyfleusterau'n dibynnu ar le rydych chi'n gweithio. Mae gan rai lleoedd ffreutur, microdon neu beiriant diodydd. Mewn rhai lleoliadau bydd siopau gerllaw a bydd angen i chi ddod â chinio pecyn i rai eraill.

Mae'n rhaid i'ch gwisg a'ch golwg fod yn briodol i natur y gwaith. Caiff hyn ei gadarnhau yn y llythyr y byddwch yn ei gael os bydd eich cais yn llwyddiannus.

Os bydd angen dillad amddiffynnol personol ar gyfer eich lleoliad, caiff hyn ei drafod â chi cyn ichi ddechrau. Mae'n rhaid i chi wisgo unrhyw ddillad amddiffynnol personol a roddir ichi (e.e. het galed, gogls, siaced llachar ac ati).

Cysylltwch â'ch goruchwyliwr (a'ch ysgol os ydych yn yr ysgol) erbyn 9:00am i roi gwybod na fyddwch yn bresennol ar y diwrnod hwnnw.

Bydd manylion y goruchwyliwr a'r rhif ffôn yn cael eu nodi ar y llythyr cadarnhau.

Os ydych yn hwyr, cofiwch gysylltu â'ch goruchwyliwr. Gellir dod o hyd i'w manylion ar eich llythyr cadarnhau.

Gallwch ddod â'ch ffôn symudol i'r gwaith ond gallwch ei ddefnyddio yn ystod eich egwyl neu mewn argyfwng yn unig.

Os bydd damwain, mae'n rhaid i chi roi gwybod i'ch goruchwyliwr, a fydd wedyn yn cofnodi'r ddamwain ar ein system ar gyfer rhoi gwybod am ddamwain/digwyddiad.

Gofynnwch am y cyfleoedd gyrfa yn y maes gwaith y mae gennych diddordeb ynddo. Cofiwch fod yn frwdfrydig ac yn llawn diddordeb a gofynnwch lawer o gwestiynau. Os nad ydych yn deall y dasg a bennir i chi gofynnwch am iddi gael ei hegluro i chi eto.

Mae gennym bolisi dim ysmygu. Os ydych am ysmygu bydd yn rhaid ichi adael y safle.

Yn ystod eich profiad gwaith, mae'n bwysig bod cydweithio a chyfathrebu effeithiol. Os oes problem gennych yn ystod eich profiad gwaith, bydd angen i chi roi gwybod yn syth i'ch goruchwyliwr a'ch Tîm Dysgu a Datblygu er mwyn i ni allu helpu.

Llwythwch mwy