Cyfleoedd Lleoliad

Diweddarwyd y dudalen ar: 14/11/2024

Cyn i chi gysylltu mae'n bwysig eich bod yn meddwl am yr hyn yr hoffech ei wneud ar gyfer eich lleoliad gwaith. Mae gennym ystod eang o gyfleoedd profiad gwaith mewn sawl adran, ac mae'n ffordd wych o gael gwell syniad am yr hyn yr ydym yn ei wneud fel sefydliad.

Mae rhai timau'n delio â gwybodaeth gyfrinachol a sensitif, felly ni allwn ddarparu profiad gwaith ym mhob adran (yn yr achos hwn o fewn lleoliadau gwaith cymdeithasol plant neu oedolion).

Os hoffech wneud cais am un o'n cyfleoedd ewch i'n tudalen sut i wneud cais am ragor o wybodaeth.