Diogelu a Recriwtio Mwy Diogel

Diweddarwyd y dudalen ar: 24/04/2024

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ymrwymo i ddiogelu llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion mewn perygl, o fewn diwylliant sy'n rhoi'r flaenoriaeth bennaf i ddiogelu. Mae disgwyl i'n staff rannu'r ymrwymiad hwn, yn unol â'r egwyddor bod Pawb yn Gyfrifol am Ddiogelu.

Mae gan bob cynghorydd, gweithiwr a gwirfoddolwr sy'n gweithio i ni neu gyda ni gyfrifoldeb am ddiogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl o gael eu cam-drin a'u hesgeuluso a gweithio mewn ffordd sy'n hyrwyddo ac yn cefnogi eu buddiannau gorau.

Polisi Diogelu Corfforaethol

 

Recriwtio Mwy Diogel

Bydd staff a fydd yn gweithio gyda phlant neu oedolion sydd mewn perygl yn cael eu recriwtio yn unol â pholisi Recriwtio Mwy Diogel y Cyngor a byddant yn destun archwiliad trylwyr cyn eu penodi. Mae gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn orfodol.

Bydd addasrwydd ymgeiswyr i weithio gyda phlant neu oedolion sydd mewn perygl yn cael eu gwirio trwy eirdaon cyflogwyr presennol a blaenorol fel rhan o'r broses archwilio, ac yn ystod cyfweliadau.

Ni fydd y Cyngor yn cyflogi unrhyw un i weithio gyda phlant neu oedolion sydd mewn perygl lle mae unrhyw amheuaeth resymol ynglŷn â'i addasrwydd i wneud hynny.

Bydd y Cyngor yn sicrhau bod y rhaglen sefydlu ar gyfer staff newydd yn cynnwys hyfforddiant diogelu ac amddiffyn, a bod gweithwyr yn cael eu goruchwylio'n ofalus ac yn rheolaidd wrth weithio gyda phlant ac oedolion sydd mewn perygl.