Cefnogi staff lesbiaidd, hoyw a deurywiol

Diweddarwyd y dudalen ar: 29/03/2023

Rydym yn gwbl ymrwymedig i gyfle cyfartal a hybu amrywiaeth. Rydym yn gwerthfawrogi’r holl staff ni waeth beth fo’u cyfeiriadedd rhywiol. Ar ben hynny, rydym yn amcanu at greu amgylchedd lle mae’r holl staff, beth bynnag fo’u rhywioldeb, yn teimlo’u bod yn cael eu croesawu a’u gwerthfawrogi i’r un graddau, a lle nad yw ymddygiad homoffobaidd ac ymddygiad gwahaniaethol arall yn cael ei oddef.

Yr hyn y mae’r Gyfraith yn ei ddweud

Dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 mae pobl â chyfeiriadedd rhywiol gwahanol yn cael eu gwarchod rhag gwahaniaethu. Dan y Ddeddf, mae’n anghyfreithlon gwahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol gwirioneddol neu ganfyddedig rhywun. Mae’r Ddeddf hefyd yn gwahardd gwahaniaethu yn erbyn rhywun oherwydd ei gysylltiad â rhywun sy’n lesbiaidd, yn hoyw neu’n ddeurywiol. Mae hyn yn berthnasol i’r holl gyflogwyr.

Pa gymorth sydd ar gael yn lleol?

Rydym yn falch o fod yn sefydliad sy'n Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall. Mae gennym ystod o bolisïau, gwasanaethau a rhwydweithiau sy’n gysylltiedig â chydraddoldeb ac amrywiaeth i gefnogi’r holl staff gan gynnwys cyflogeion lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol yn y gwaith. Mae’r rhain yn cynnwys: 

Mae nifer o Grwpiau a Llinellau Cymorth ar gyfer Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol sy’n hygyrch dros y Rhyngrwyd neu drwy wasanaethau lleol ar gyfer Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol.