Manteision Profiad Gwaith

Diweddarwyd y dudalen ar: 04/04/2023

Gall unrhyw un dros 14 oed (blwyddyn 10 yn yr ysgol) wneud cais am leoliad gwaith di-dâl.

Mae pobl yn mynychu cyfnod o brofiad gwaith gyda ni am lawer o wahanol resymau, er enghraifft, eisiau cael dealltwriaeth o swyddi a gyrfaoedd sydd gennym yn y Cyngor neu ddychwelyd i gyflogaeth ar ôl cyfnod o absenoldeb.

Beth yw manteision profiad gwaith?

  • Dysgu am swydd benodol y mae gennych ddiddordeb ynddi yn ogystal â chyfleoedd eraill nad oeddech wedi'u hystyried o'r blaen.
  • Cael blas ar weithio o fewn adran cyn ymrwymo i gwrs neu lwybr gyrfa
  • Meithrin sgiliau gwerthfawr fel sgiliau gwaith tîm a chyfathrebu, gall eich helpu i ddatblygu eich hyder o fewn amgylchedd gwaith.
  • Byddwch yn gallu rhoi eich profiad ar eich ceisiadau ar gyfer colegau, prifysgolion a swyddi ac mae'n rhoi rhywbeth i chi siarad amdano mewn cyfweliad.

Edrychwch ar rai o'r lleoliadau profiad gwaith y gallwn eu cynnig ar y dudalen lleoliadau.