Beth yw manteision defnyddio'r Gymraeg?
Mae'n denu cwsmeriaid.
Dywedodd 82% o gwsmeriaid mewn ymchwil diweddar eu bod yn fwy tebygol o ddewis cwmni sy'n
darparu gwasanaeth Cymraeg da.
Mae'n cryfhau brand.
Mae 82% o fusnesau'n cytuno neu'n cytuno'n gryf bod defnyddio'r Gymraeg yn ychwanegu gwerth at gynnyrch neu wasanaeth.
Mae'n cryfhau teyrngarwch cwsmeriaid.
Mae iaith yn rhan bwysig o hunaniaeth pob person. Byddwch yn meithrin perthynas gyflym gyda
chwsmeriaid Cymraeg eu hiaith ac yna byddant yn sicr o ddefnyddio eich busnes eto os ydynt yn eich gweld fel busnes dwyieithog.
Mae'n dangos tegwch a chydraddoldeb.
Mae defnyddio dwy iaith swyddogol Cymru yn dangos parch at ddiwylliant y wlad a'i phobl.
Gall godi proffil eich busnes.
Gall busnesau dwyieithog elwa o sylw gan ffrydiau cyfryngau Cymraeg yn ogystal â rhai Saesneg.
Gall gyfrannu at gadw iaith a diwylliant brodorol y sir.
Byddwch yn rhoi cyfle i drigolion y sir ddefnyddio eu Cymraeg. Bu gostyngiad o 6% yng nghanran y siaradwyr Cymraeg yn y sir yn y cyfrifiad diwethaf.
Bydd cynyddu gwelededd y Gymraeg yn eich busnes yn helpu i atal y Gymraeg rhag dirywio ymhellach.
Rydym wedi datblygu taflen wybodaeth Cymraeg mewn Busnes sy'n rhoi awgrymiadau defnyddiol ar sut y gallwch gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn eich busnes.
Cymraeg mewn Busnes
Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi creu canllaw defnyddiol ynghylch sut i greu arwyddion dwyieithog ar gyfer eich busnes. Mae’n cynnwys cyngor ar y cynllun, sut i osgoi camgymeriadau, ac enghreifftiau go iawn gan fusnesau sy’n gweithio yng Nghymru.
Canllaw arwyddion dwyieithog