
Cynlluniau Atal Llifogydd
Yn wyneb newid hinsawdd a thywydd mwy eithafol, mae Tîm Amddiffyn rhag Llifogydd a Diogelu'r Arfordir Cyngor Sir Caerfyrddin yn chwilio'n barhaus am ffyrdd o reoli llifogydd yn sgil dŵr wyneb a chyrsiau dŵr bach ledled y sir. Drwy gyllid y Cyngor a Llywodraeth Cymru, nod ein cynlluniau atal llifogydd yw lleihau effeithiau llifogydd i gynifer o drigolion a busnesau â phosib.