Y Cynllun Lliniaru Llifogydd
Gellir rhannu'r cynllun yn 5 elfen:
- Gosodwyd cefnfur cwrbyn newydd a phibell 300mm o ddiamedr lle'r oedd y cwrs dŵr bach sy'n llifo o'r ardal o dai o amgylch Heol Maesyffynnon yn llifo o dan y llwybr troed sy'n arwain at y gronfa.
- Cafodd y draen 150mm o ddiamedr sy'n rhedeg o dan Heol y Cronlyn ei ddisodli gan bibell 300mm o ddiamedr a chefnfur cwrbyn a chwter newydd 600mm o led.
- Gosodwyd draen Aco newydd ar draws y llwybr troed sy'n arwain at Heol y Cronlyn, yn ogystal â chwteri newydd 600mm o led a thrawsddraen cysylltiedig ar hyd Heol y Cronlyn.
- Estynnwyd y cwlfer 750mm o ddiamedr, gosodwyd cefnfur a grid newydd, ac adeiladwyd llawr caled cysylltiedig wrth y gyffordd-Y rhwng y ddwy ffordd at y Gronfa.
- Gosodwyd cwteri newydd 600mm o led ymhellach i'r de ar hyd Heol y Cronlyn.
Cafodd y gwaith ei gwblhau rhwng 31 Ionawr a 04 Mawrth 2022.
Mantais
Mae'r cynllun hwn bellach yn darparu lefel uwch o amddiffyniad rhag llifogydd ar gyfer 25 eiddo preswyl ac 1 busnes ac yn gwella amwynder y safle hamdden.
Cyllido
Cost y gwaith gwella oedd cyfanswm o £45,445.
Cafodd £38,628.25 o gyllid ei roi i Gyngor Sir Caerfyrddin gan Lywodraeth Cymru.
Cyfrannwyd £6,816.75 gan Gyngor Sir Caerfyrddin.