Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd
Brynglas
Materion Llifogydd Blaenorol
Mae sgrin sbwriel Brynglas ar gwrs dŵr dienw oddi ar Heol Brynglas, yn nwyrain Drefach, yn ward Gorslas. Mae'r ardal yn dueddol o gael problemau gyda dŵr wyneb a llifogydd. Roedd monitro ac archwiliadau parhaus yn dangos nad oedd safon y sgrin yn ddigonol ac roedd yn cael ei rhwystro’n aml.
Roedd hyn yn gwaethygu'r problemau llifogydd yn yr ardal ac i lawr yr afon, ac yn cyfrannu'n uniongyrchol at lifogydd mewnol mewn 6 eiddo yn Nant y Dderwen. Roedd hyn, ochr yn ochr â materion yn ymwneud â mynediad a chynnal a chadw, yn ei gwneud hi'n amlwg bod angen uwchraddio'r sgrin a'i hail-ddylunio.
Y Cynllun Lliniaru Llifogydd
Gellir rhannu'r cynllun yn 3 elfen:
- Dylunio ac adeiladu sgrin yn lle'r un presennol sy'n aml-haen gyda llwybr troed cadarn, concrit o'i amgylch.
- Dylunio ac adeiladu ail sgrin ar y cwrs dŵr / ffos fach gyfagos.
- Adeiladu trac mynediad hydraidd at ddibenion cynnal a chadw ac ardal ar gyfer cerbydau gwaith.
Daeth y gwaith i ben ym mis Mehefin 2023.
Y Buddion
Mae'r cynllun newydd hwn bellach yn darparu lefel uwch o ddiogelwch rhag llifogydd ar gyfer 18 eiddo; yn gwella iechyd a diogelwch y safle at ddibenion cynnal a chadw ac archwilio; ac yn gwella iechyd, diogelwch a llesiant y preswylwyr hynny sydd mewn perygl o lifogydd.
Cyllid
Cost y gwaith gwella oedd cyfanswm o tua £170,000.
Darparwyd y cyllid gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Sir Caerfyrddin.