Cydweli
Diweddarwyd y dudalen ar: 13/09/2024
Cydweli
Yn ystod y degawdau diwethaf mae Cydweli wedi cael llifogydd yn rheolaidd.
Ym mis Hydref 2021 cafwyd 2 achos o lifogydd mawr a arweiniodd at lifogydd mewnol mewn tua 10 eiddo bob tro. Ym mhen gogleddol Cydweli, y cwrs dŵr cyffredin serth sy'n rhedeg o'r gogledd i'r de uwchben Cae Ffynnon wnaeth orlifo ac roedd effaith hynny ar drigolion i lawr yr afon yn ofnadwy.
Mae’r digwyddiadau llifogydd hyn yn cael eu hymchwilio ar hyn o bryd fel rhan o adroddiad Adran 19, ac mae’r problemau gyda’r cwlfer (a’r seilwaith cysylltiedig) ar hyd Heol y Fferi wedi’u nodi fel un o brif achosion y llifogydd.
Mae gwaith modelu (a wnaed fel rhan o ymchwiliad S19) wedi cadarnhau pa mor agored i niwed yw'r system cwlfer yn Heol y Fferi ac wedi dangos bod angen uwchraddio'r ceuffosydd hyn a'r seilwaith cysylltiedig er mwyn diogelu eiddo i lawr yr afon. Ar yr un pryd mae angen i'r rhan o'r llwybr llif sy'n sianel agored gael ei sianelu a'i huwchraddio.
Yn 2023 comisiynwyd yr ymgynghoriaeth peirianneg Amey i ddylunio’r uwchraddio ac eleni dyfarnwyd y contract adeiladu i’r cwmni lleol G D Harries & Sons.
Dangosir yr ardal yr effeithir arni gan y datblygiad (coch) a lleoliad y compownd gwaith (oren) cysylltiedig ar y cynllun, ynghyd â lluniau o ardd dan ddŵr yng Nghydweli 2015 ac yna malurion a dynnwyd ar ôl y llifogydd ar 4 Hydref 2021 yn Ferry Road.
Anfonwch e-bost at FDCP@sirgar.gov.uk am ragor o fanylion.
Mwy ynghylch Argyfyngau a diogelwch cymunedol