Rhoi gwybod am lifogydd
I roi gwybod am broblemau llifogydd brys, y tu allan i oriau swyddfa arferol, gwnewch yn siŵr eich bod yn ein ffonio ar 0300 333 2222, peidiwch ag adrodd ar-lein. Yn ystod tywydd garw, efallai y bydd yn rhaid i chi ddal y llinell ar gyfer gweithredwr. Ymdrinnir â digwyddiadau yn nhrefn blaenoriaeth.
Os gallwch ganfod ffynhonnell y llifogydd, gallwch roi gwybod yn uniongyrchol i'r sefydliad perthnasol. Os nad ydych yn sicr o ble mae'r dŵr yn dod, yna rhowch wybod i ni amdano.
Prif afonydd/môr
Os yw'r llifogydd yn cael eu hachosi gan brif afon neu'r môr, ffoniwch Gyfoeth Naturiol Cymru ar 03000 65 3000.
Prif gyflenwad dŵr / carthffos yn gollwng
Os yw'r prif gyflenwad dŵr yn gollwng neu os oes llifogydd yn dod o garthffos, ffoniwch Dŵr Cymru ar 0800 052 0130.
Gall fod yn anodd gwahaniaethu rhwng y prif gyflenwad dŵr yn gollwng a llifogydd dŵr daear ond os oes llif cyson nad yw'n amrywio gyda'r glaw yna gallai hyn olygu mai'r prif gyflenwad dŵr sy'n gollwng.
A oes unrhyw ffynonellau eraill o lifogydd?
Dylid rhoi gwybod i ni am lifogydd o unrhyw ffynhonnell ddŵr arall, er enghraifft:
- Ffyrdd
- Dŵr wyneb/daear
- Nant fach / isafon
Peidiwch ag anghofio, os nad ydych yn sicr o ble mae'r dŵr yn dod, rhowch wybod i ni. Wrth lenwi ein ffurflen ar-lein, rhowch gymaint â phosibl o wybodaeth gan gynnwys unrhyw luniau neu ddeunydd fideo sydd gennych. Bydd hyn yn ein helpu i flaenoriaethu a chyfeirio adnoddau lle y mae arnynt eu hangen fwyaf.
Mewn argyfwng, y tu allan i oriau swyddfa (Llun-Gwener, 08:30-18:00) ffoniwch Lesiant Delta ar 0300 333 2222.
Mwy ynghylch Argyfyngau a diogelwch cymunedol