Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus
Er mwyn mynd i'r afael â throseddau, niwsans ac anhrefn sy'n gysylltiedig ag alcohol mewn rhannau o Ganol Tref Llanelli, mae'r Cyngor wedi cyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus mewn ardal o'r dref o dan Adran 59 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014. Ceir isod fap o'r ardal dan sylw ac mae arwyddion wedi'u gosod yn yr ardal. Daeth y Gorchymyn i rym ar 1 Hydref 2020 a bydd yn parhau i fod ar waith am dair blynedd.
Bydd y Gorchymyn yn cael ei adolygu'n rheolaidd ac mae wedi'i gyflwyno yn dilyn dadansoddiad o drosedd ac anhrefn sy'n gysylltiedig ag alcohol ac ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol.
Mae'r Gorchymyn yn rhoi pwerau ychwanegol i swyddogion yr heddlu a Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu pan fyddant o'r farn bod rhywun yn yfed alcohol, neu wedi bod yn ei yfed, yn ardal ddynodedig canol y dref neu'n bwriadu yfed alcohol yn yr ardal hon.
Er bod y Gorchymyn yn gwahardd yfed alcohol ar y tir lle y mae ar waith, nid yw yfed alcohol yn yr ardal ddynodedig yn drosedd. Pŵer disgresiwn yw gorfodi'r Gorchymyn ac fe'i defnyddir i fynd i'r afael ag yfed gwrthgymdeithasol. Fodd bynnag, mae'n drosedd methu â chydymffurfio â chais gan yr heddlu i roi'r gorau i yfed neu ildio alcohol, heb esgus rhesymol. Bydd methu â chydymffurfio â cheisiadau o'r fath yn gyfystyr â thorri'r Gorchymyn a gall unigolion gael eu harestio a all arwain at ddirwy o hyd at £500.
Nid yw'r Gorchymyn yn gymwys i fannau cyhoeddus lle yr awdurdodir gwerthu ac yfed alcohol o dan ddeddfwriaeth arall (er enghraifft mewn clybiau a safleoedd trwyddedig.
Cysylltwch â Kate Harrop, Rheolwr Diogelwch Cymunedol, os oes gennych unrhyw ymholiadau - khharrop@sirgar.gov.uk
Mwy ynghylch Argyfyngau a diogelwch cymunedol