Ymddygiad gwrthgymdeithasol

Diweddarwyd y dudalen ar: 16/03/2023

Mae Deddf Trosedd ac Anhrefn (1998) yn diffinio ymddygiad gwrthgymdeithasol fel "acting in a manner that causes or is likely to cause harassment, alarm or distress to one or more persons not of the same household as (the complainant)". Gall ymddygiad gwrthgymdeithasol gynnwys amryw o weithgareddau fel aflonyddu, difrodi eiddo, fandaliaeth, ymddygiad meddw ac afreolus a niwsans sŵn. Does dim dwywaith fod ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gwneud bywyd yn boen i lawer iawn o bobl yn ein cymuned. Gall fod yn anodd mynd i'r afael ag ef, ond mae’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol yn benderfynol o roi blaenoriaeth i'r maes hanfodol bwysig hwn.

Mae enghreifftiau o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cynnwys niwsans sŵn, aflonyddu, tipio anghyfreithlon, camddefnyddio alcohol, masnachu anghyfreithlon, digwyddiadau casineb a hiliol, camddefnyddio sylweddau, ymddygiad treisiol, graffiti, cerbydau gadawedig, sbwriel, a baw cŵn. Os hoffech wneud cwyn am Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, dylech gysylltu â'r asiantaeth berthnasol fel yr Heddlu neu un o adrannau'r Cyngor. Os yw'r canlynol yn effeithio arnoch, cysylltwch â Heddlu Dyfed-Powys drwy ffonio 101 (rhif ar gyfer argyfyngau'n unig yw 999):

  • Ymddygiad troseddol
  • Trais yn y cartref
  • Trosedd casineb
  • Aflonyddu

Mae sut fyddwn yn delio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a'r pwerau sydd ar gael yn sicrhau bod y dioddefwr sydd wrth galon yr ymateb i ymddygiad gwrthgymdeithasol a bod gan weithwyr proffesiynol yr hyblygrwydd sydd ei angen i ddelio â'r lliaws gwahanol sefyllfaoedd sy'n dod yn sgil ASB.

 

Sbardun Cymunedol

Beth yw e?

Yn 2014, cyhoeddodd y Swyddfa Gartref ganllawiau diwygiedig i gefnogi'r defnydd effeithiol o bwerau newydd i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol (ASB), a oedd yn cynnwys mesur newydd o'r enw 'Sbardun Cymunedol' (a elwir hefyd yn Adolygiad Achos ymddygiad gwrthgymdeithasol). Mae'r Sbardun Cymunedol yn caniatáu i ddioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol parhaus ofyn am adolygiad o'u hachos a dwyn asiantaethau statudol i gyfrif am y ffordd yr eir i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Er mwyn bodloni'r trothwy i gychwyn y Sbardun Cymunedol, mae’n rhaid bod yr ymgeisydd wedi:

  • adrodd tri digwyddiad ar wahân sy'n ymwneud â'r un broblem yn ystod y chwe mis diwethaf i'r Cyngor, yr Heddlu neu'r landlord lle na chymerwyd unrhyw gamau gweithredu effeithiol; neu
  • wedi adrodd un digwyddiad neu drosedd wedi'i hysgogi gan gasineb (yn seiliedig ar hil, crefydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth drawsrywiol) i'r heddlu yn ystod y chwe mis diwethaf lle na chymerwyd unrhyw gamau gweithredu effeithiol; 

Mae'n rhaid gwneud pob adroddiad o fewn 30 diwrnod o'r digwyddiad ac mae'n rhaid gwneud y cais am yr adolygiad o fewn chwe mis i'r adroddiad cyntaf.

Bydd adroddiad a wneir i nifer o asiantaethau tua'r un pryd ynglŷn â'r un digwyddiad yn cael eu dosbarthu fel un adroddiad.

Ni fwriedir iddo adolygu achosion hanesyddol, neu'r rhai sydd wedi'u hadrodd yn ddiweddar lle na chafodd asiantaethau gyfle rhesymol i ymateb.

*Diffinnir Troseddau casineb fel unrhyw drosedd a wneir yn erbyn unigolyn neu eiddo sy'n cael ei ysgogi gan elyniaeth tuag at rywun yn seiliedig ar eu hanabledd, hil, crefydd, hunaniaeth rywiol neu gyfeiriadedd rhywiol gwirioneddol neu ymddangosiadol, sy'n ffactor wrth benderfynu pwy yw'r dioddefwyr. Nid oes rhaid i ddioddefwr fod yn aelod o grŵp ac mewn gwirionedd, gall unrhyw un fod yn ddioddefwr trosedd casineb.

 

Sut allaf ddefnyddio'r Sbardun Cymunedol?

Ar draws rhanbarth Dyfed-Powys, Heddlu Dyfed-Powys yw'r pwynt cyswllt unigol ar gyfer y Sbardun Cymunedol. Gellir gwneud cais ar-lein, trwy e-bost, trwy ffonio 101 neu ofyn am ffurflen gais yn ysgrifenedig - Am ragor o fanylion, ewch i wefan Heddlu Dyfed Powys. Nid yn unig y dioddefwr ei hun sy'n gallu defnyddio'r Sbardun Cymunedol, er mae'n rhaid gofyn am eu caniatâd gan yr unigolyn sy'n defnyddio'r Sbardun Cymunedol ar eu rhan cyn gwneud cais. Ar ôl cael caniatâd, gall unrhyw un ddefnyddio'r Sbardun Cymunedol megis aelod o'r teulu, ffrind, gofalwr, cynghorydd, Aelod y Cynulliad, Aelod Seneddol neu unrhyw unigolyn proffesiynol arall ar ran y dioddefwr. Gall unrhyw un o unrhyw oedran ddefnyddio'r Sbardun Cymunedol.

 

Beth sy'n digwydd nesaf?

Ar ôl derbyn cais i ddefnyddio'r Sbardun Cymunedol, bydd yr ymgeisydd yn derbyn llythyr cydnabyddiad o fewn 5 diwrnod gwaith. Bydd asiantaethau'n ystyried y cais ac yn ail-gysylltu â'r dioddefwr o fewn 15 diwrnod gwaith er mwyn ei hysbysu os yw wedi bodloni'r trothwy. Os cytunir bod y trothwy wedi'i gyrraedd, bydd asiantaethau partner yn ymgymryd ag adolygiad achos lle bydd gwybodaeth sy'n ymwneud â'r achos gan gynnwys unrhyw gamau gweithredu yn y gorffennol yn cael ei hystyried, a gwneir penderfyniad o ran p'un a yw camau gweithredu ychwanegol yn bosibl. Caiff yr ymgeisydd ei hysbysu o ganlyniad adolygiad y panel. Gellir gwneud apêl i Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu lle bodlonir un o'r mesurau canlynol;

  • Mae'r penderfyniad a ddarparwyd sy'n amlinellu pam na chyrhaeddodd yr achos y trothwy ar gyfer adolygiad Sbardun Cymunedol wedi methu â darparu digon o fanylion i ddeall pam na chynhaliwyd adolygiad.
  • Mae'r adolygiad Sbardun Cymunedol wedi methu ag ystyried proses, polisi neu brotocol perthnasol;
  • Mae'r adolygiad Sbardun Cymunedol wedi methu ag ystyried gwybodaeth ffeithiol berthnasol.

Mae'n rhaid gwneud apeliadau i Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu o fewn 28 diwrnod. Bydd y 28 diwrnod yn dechrau o naill ai dyddiad;

  • y llythyr sy'n hysbysebu'r ymgeisydd nad yw ei gais wedi cyrraedd y trothwy ar gyfer adolygiad achos;<//li>
  • y llythyr sy'n ei hysbyso o ganlyniad adolygiad achos.

 

Data Sir Gaerfyrddin ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ionawr 2022 a 31 Rhagfyr 2022

Nifer y Sbardunau Cymunedol a dderbyniwyd: 3
Nifer nad oedd yn cwrdd â’r trothwy: 1
Nifer yr adolygiadau achos a gynhaliwyd: 2
Nifer yr adolygiadau achos gydag argymhellion: 2