Menter Gorllewin Sir Gar Cyf

Enw: Nia ap Tegwyn

Rôl: Uwch Swyddog Iaith

Lleoliad: Castell Newydd Emlyn

Gwefan: www.mentergorllewinsirgar.cymru

A allwch chi ddweud ychydig wrthym am eich sefydliad, yr hyn a’ch ysbrydolodd chi i’w ddechrau, a’i rôl o fewn y gymuned leol?

Ma’ cynnal digwyddiad yn y gymuned yn dipyn o risg yn ariannol – hyd yn oed i fudiad fel ni sy’ wedi hen arfer â threfnu. Beth wnaeth yr arian hyn i ni, oedd tynnu baich y risg oddiar ein hysgwyddau a’n galluogi ni i ganolbwyntio ar y gwaith o gefnogi cymunedau i gynyddu gweithgarwch Cymraeg; heb orfod poeni cymaint am yr ochr ariannol. Annog a chefnogi cymunedau i ddatblygu yn ieithyddol ac yn economaidd yw gwaith Menter Gorllewin Sir Gar, a wnaethom ni gais am gyllid o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn benodol i wneud gwaith grymuso cymunedol yn ardaloedd Llanybydder a San Clêr.

Sut mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU wedi cynorthwyo’ch sefydliad chi, a pha welliannau neu newidiadau penodol yr ydych chi wedi gallu eu gwneud gyda’r cyllid?

Clwb clebran sy’n cefnogi dysgwyr, gweithdy llechi, cerddoriaeth Gymraeg byw mewn sawl lleoliad gan niferoedd o wahanol dalentau…ma’r cyllid a ddaeth i ni wedi mynd ymhell; nid yn unig am ei fod wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau byrlymus sy’ wedi uno cymuned, ond am ei fod wedi rhoi hwb i economiau dwy ardal hefyd. Oherwydd pan ry’n ni’n cynnal digwyddiad, busnesau lleol sy’n cael eu cyflogi fel partneriaid i gefnogi’n gweithgareddau ni. Ma’r niferoedd da sy’ wedi mynychu’r digwyddiadau’n profi hefyd bod yr angen yno – ma’ pobl am gwrdda’n gymdeithasol drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn gefnogol o ymdrechion sy’n darparu’r fath gyfleoedd.

Pa effaith y mae’r prosiect hwn wedi’i chael ar y gymuned leol hyd yma, a sut y mae hi wedi ymateb i’r gwasanaethau/ gwelliannau yr ydych chi wedi’u cyflawni?

O fod yn sbarc i bentrefi eraill fentro, i roi cyfle i bobl ddod at ei gilydd; ma’r gwaith grymuso cymunedol ry’n ni wedi gallu gwneud drwy arian y gronfa ffyniant gyffredin wedi talu ar ei ganfed. Nid drwy’r nosweithiau neu’r prynhawniau adlonianol yn unig ry’n ni wedi dod â pobl ynghyd, ond drwy’r gwaith o drefnu’r digwyddiadau hefyd. Agor y drws i’r cyfleoedd sy’ ar gael drwy’r Gymraeg, a’r buddion mae’n gallu creu i’r economi a lles pobl yw’n nod ni. Er engraifft o drefnu gig ‘Welsh Whisperer’ yng nghlwb rygbi Llanybydder, a noson addurno llechi yng nhaffi Becca, ma’r iaith wedi elwa am ei bod wedi cael ei defnyddio a’i chlywed, yr economi wedi elwa o ganlyniad i wario arian yn lleol a ma’ diwylliant a bywyd cymuned wedi ei fywiogi. Ma’n gweithgareddau ni wedi bod yn fwy na gweithgareddau. Ma’ un peth yn arwain at greu effaith arall o fewn un digwyddiad; a ma’ un digwyddiad yn arwain at ysgogi digwyddiad llall wrth i gymuned gyfagos wylio a holi ‘Pam na wnewn ni rhywbeth fel ‘na yn ein pentre’ ni?’.

Quote gan Hazel Thomas aelod o Merched y Wawr Cagnen Llanybydder

Yn dilyn gwelliant Yr Hen Ysgol yn Llanybydder sydd bellach yn Ganolfan Gymunedol, daeth cyfle i ni fel Cangen Merched y Wawr Llanybydder. i drefnu noson Mewn Cymeriad gyda Llion Williams yn ein tywys ar Daith yr Iaith. Roedd hyn wedi bod yn bosib oherwydd cefnogaeth Cyngor Sir Gaerfyrddin,  Menter Gorllewin Sir Gar ac wedi ei ariannu gan Lywodraeth y DU.
Oherwydd y gefnogaeth ariannol roedd hynny wedi sicrhau bod cost mynediad i'r cyhoedd yn fforddiadwy. Cafodd elw'r noson ei rannu gyda Chanolfan yr Hen Ysgol a Festri Aberduar.
Roedd pawb wedi mwynhau'r noson yn fawr iawn.
Hwb