Trwydded anifeiliaid
Diweddarwyd y dudalen ar: 08/07/2025
Mae cyfrifoldeb ar swyddogion Lles Anifeiliaid i wneud y canlynol:
- rhoi cyngor ynghylch agweddau ar drwyddedau lles anifeiliaid
- archwilio a rhoi trwyddedau i safleoedd sy'n destun deddfwriaeth anifeiliaid megis cynelau lletya cŵn, llety cathod, siopau anifeiliaid anwes, sefydliadau marchogaeth ac eraill
- ymchwilio i gwynion ynghylch lles anifeiliaid yn y safleoedd hyn
- cymryd camau ffurfiol yn erbyn troseddwyr lle mae camau eraill heb lwyddo ac ymchwilio i gwynion ynghylch gweithgareddau anghyfreithlon
Mae angen trwyddedau ar gyfer:
- sefydliadau marchogaeth
- cadw anifeiliaid peryglus/anifeiliaid gwyllt
- cynelau lletya cŵn
- llety cathod
- sefydliadau bridio cŵn
- siopau anifeiliaid anwes