Etholiad y Senedd 2026
Diweddarwyd y dudalen ar: 08/05/2026
Dyma ganlyniadau swyddogol etholiadau 2026 ar gyfer etholaeth Sir Gaerfyrddin. Yma fe welwch grynodeb clir o'r canlyniad, gan gynnwys y nifer a bleidleisiodd, cyfanswm y pleidleisiau, a'r ymgeiswyr a gafodd eu hethol i gynrychioli'r ardal.
Mae Sir Gaerfyrddin yn cael ei chynrychioli gan chwe sedd yn y Senedd; mae'r canlyniadau yn nhrefn y seddi a enillwyd wedi'u nodi isod.
Sir Gaerfyrddin - Rhestr ymgeiswyr
Etholwyd:
Sedd 1: Cefin Campbell - Plaid Cymru – The Party of Wales
Sedd 2: Gareth David Beer - Reform UK
Sedd 3: Nerys Evans Plaid Cymru – The Party of Wales
Sedd 4: Carmelo Colasanto - Reform UK
Sedd 5: Adam Price - Plaid Cymru – The Party of Wales
Sedd 6: Sarah Elizabeth Edwards - Reform UK
Y system bresennol |
Y system o 2026 |
| 60 Aelod i gyd - 40 yn cynrychioli etholaethau ac 20 yn cynrychioli rhanbarthau mwy. | ***96 Aelod i gyd - 16 etholaeth yn cael eu cynrychioli gan 6 Aelod yr un. |
| Un bleidlais yn yr etholaeth, un bleidlais yn y rhestr ranbarthol. | Un bleidlais yn yr etholaeth. |
| Mae pobl yn dewis ymgeisydd unigol yn y bwth pleidleisio ar gyfer y bleidlais etholaeth a phlaid wleidyddol (neu annibynnol) ar gyfer y bleidlais ranbarthol. | Oni bai bod pobl yn pleidleisio dros ymgeisydd annibynnol, maent yn dewis plaid wleidyddol i bleidleisio drosti, gyda'r cynrychiolwyr etholedig yn dod o restrau sy'n cael eu penderfynu gan bleidiau. Bydd enwau'r holl ymgeiswyr yn ymddangos ar y papur pleidleisio. |
| Etholiadau'r Senedd bob 5 mlynedd. | Etholiadau'r Senedd bob 4 mlynedd. |
| Nid yw'n ofynnol i aelodau/ymgeiswyr breswylio yng Nghymru. | Mae'n rhaid i aelodau/ymgeiswyr fod wedi cofrestru i bleidleisio yng Nghymru. |
Gellir dod o hyd i'r hyn sydd angen i chi ei wybod ar dudalen Cyfri'r dyddiau tan Etholiad y Senedd 2026: Pum peth i chi eu gwybod ar wefan Senedd Cymru.
Bydd gan Gymru 16 etholaeth yn hytrach na’r 40 sy’n bodoli ar hyn o bryd. Crëwyd yr etholaethau newydd gan Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru a bydd gan y Senedd 96 Aelod yn lle 60. Bydd pob etholaeth yn ethol chwe Aelod.
Ar gyfer Sir Gaerfyrddin, penderfynodd y comisiwn y byddai etholaeth y Senedd yn cyfuno etholaethau Seneddol y DU sef Caerfyrddin a Llanelli gyda'r enw dynodedig Sir Gaerfyrddin.
>Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar y dudalen Arolwg 2026: Penderfyniadau Terfynol ar wefan Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru.
Dyma fap o’r etholaeth newydd.
System bleidleisio newydd
‘System rhestr gyfrannol gaeedig’ yw’r system bleidleisio newydd. Mae hyn yn golygu eich bod chi’n pleidleisio dros blaid wleidyddol (yn hytrach nag unigolion) neu ymgeisydd annibynnol.
Bydd y papur pleidleisio’n cynnwys rhestr lawn o’r ymgeiswyr yn eich etholaeth, felly byddwch chi dal yn gallu gweld pwy rydych chi’n pleidleisio drostynt.
Os bydd plaid yn ennill digon o bleidleisiau, bydd yn ennill un neu fwy o seddi yn y Senedd. Os bydd ymgeisydd annibynnol yn ennill digon o bleidleisiau, bydd yn ennill sedd yn y Senedd.
Bydd y seddi’n adlewyrchu canran y pleidleisiau y bydd pob plaid neu ymgeisydd
Os ydych chi angen rhagor o wybodaeth cysylltwch â’r Gwasanaethau Etholiadol drwy e-bostio gwasanaethauetholiadol@sirgar.gov.uk, drwy ffonio 01267 228889 neu drwy’r post - Gwasanaethau Etholiadol, Cyngor Sir Caerfyrddin, Neuadd y Sir, Caerfyrddin SA31 1JP.



