Trwydded busnesau rhyw
Diweddarwyd y dudalen ar: 14/08/2023
Rydym wedi mabwysiadu atodlen tri i Ddeddf Llywodraeth Leol (Amrywiol Ddarpariaethau) 1982 (fel y'i newidiwyd gan adran 27 o Ddeddf Plismona a Throsedd 2009) sy'n caniatáu i ni drwyddedu siopau rhyw, sinemâu rhyw a mannau cynnal adloniant rhywiol yn Sir Gaerfyrddin. Cyfeirir at y cyfryw safleoedd fel busnesau rhyw.
Ar hyn o bryd mae busnesau rhyw yn perthyn i un o dri chategori:
- Siop rhyw: Siop rhyw yw unrhyw safle a ddefnyddir ar gyfer busnes sy'n cynnwys cyflenwi neu arddangos eitemau rhyw i raddau sylweddol
- Sinema rhyw: Sinema rhyw yw unrhyw safle a ddefnyddir, i raddau sylweddol, ar gyfer arddangos darluniau byw sy'n ymwneud yn bennaf â phortreadu gweithgaredd rhywiol neu sydd wedi'u bwriadu i ysgogi neu annog gweithgaredd rhywiol
- Man cynnal adloniant rhywiol: Mae trwydded man cynnal adloniant rhywiol yn ofynnol ar gyfer unrhyw safle lle darperir unrhyw berfformiad byw neu arddangosiad byw yn noeth gerbron cynulleidfa fyw er budd ariannol y trefnydd neu'r sawl sy'n darparu'r adloniant
Wrth benderfynu a oes angen trwydded ar gyfer adloniant byddwn yn barnu pob achos yn ôl ei haeddiant, ond bydd fel arfer yn cynnwys y canlynol (er na fydd wedi'i gyfyngu iddynt), dawnsio côl, dawnsio polyn, dawnsio bwrdd, sioeau stripio, sioeau llygadu a sioeau rhyw byw.
Mae'n bosibl y bydd angen trwydded o hyd o dan Ddeddf Trwyddedu 2003 ar adloniant oedolion nad yw'n perthyn i'r dosbarth 'adloniant perthnasol'. Bydd gweithgareddau cysylltiedig megis gwerthu alcohol yn gorfod cael eu hawdurdodi ar wahân o dan y Ddeddf Trwyddedu.
Gwneud cais am drwydded
Fe'ch cynghorir i gysylltu â ni i drafod eich cynnig cyn cyflwyno cais. Hefyd fe'ch cynghorir i ddarllen y dogfennau cyfarwyddyd a pholisi perthnasol, oherwydd gall gweithgareddau sy'n digwydd ar y safle fod yn rhai y gall fod angen eu trwyddedu o dan ddeddfwriaeth wahanol megis Deddf Trwyddedu 2003 a Deddf Hapchwarae 2005.
Dylid cyflwyno eich cais gorffenedig, ynghyd ag unrhyw ddogfennau ategol angenrheidiol a'r ffi briodol ar gyfer y cais, i'n hadain drwyddedu. Gallwch dalu drwy siec, yn daladwy i 'Cyngor Sir Caerfyrddin' neu dros y ffôn gyda cherdyn debyd neu gredyd ar 01267 234567.
Mae dyletswydd arnom, fel corff cyhoeddus, i ddiogelu'r cyllid cyhoeddus a weinyddir gennym ac i'r diben hwn cawn ddefnyddio'r wybodaeth a ddarparwyd ar y ffurflen hon i atal a darganfod twyll. Gallwn hefyd rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gyfrifol am archwilio neu weinyddu arian cyhoeddus at y dibenion hyn.
Trwyddedu a Hawlenni
Pa drwyddedau sydd ei angen arnoch i fasnachu yn yr awyr agored?
Trwyddedau alcohol ac adloniant
- Tystysgrif safle clwb
- Trwydded safle
- Trwyddedau personol
- Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro
- Gwneud sylwadau ar geisiadau am drwydded
- Gwneud cwyn am safle trwyddedig
- Adnewyddu / canslo eich trwydded
- Ffioedd blynyddol
- Gwneud cais am adolygiad
Trwydded casgliadau elusennol
Hawlenni Amgylcheddol
Trwyddedau gamblo
- Trwydded loteri
- Trwyddedau safleoedd hapchwarae
- Hawlenni hapchwarae
- Hysbysiadau defnydd dros dro ac achlysurol