Gamblo hapchwarae
Diweddarwyd y dudalen ar: 15/04/2025
Mae'r Ddeddf Gamblo yn rheoleiddio pob gamblo yn y Deyrnas Unedig, ac eithrio'r Loteri Genedlaethol a Gwasgar-Fetio. Fel yr awdurdod trwyddedu, rydym yn cyflwyno trwyddedau safle, hawlenni a hysbysiadau.
Mae tri phrif amcan i'r Ddeddf a'n dyletswydd ni, fel Awdurdod Trwyddedu sy'n caniatáu trwyddedau, yw sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni. Mae’r amcanion trwyddedu fel a ganlyn:
- Atal gamblo rhag bod yn ffynhonnell ar gyfer troseddu neu anhrefn, wedi'i gysylltu â'r materion hynny, neu gael ei ddefnyddio i'w cynnal
- Sicrhau bod gamblo’n cael ei weithredu mewn ffordd deg ac agored
- Amddiffyn plant a phobl eraill sy'n agored i niwed rhag cael eu niweidio neu ddioddef camfantais yn sgil gamblo.
Mae'n rhaid i ni geisio caniatáu defnyddio safleoedd ar gyfer gamblo i'r graddau y credwn fod hynny'n digwydd:
- yn unol ag unrhyw godau ymarfer perthnasol
- yn unol ag unrhyw arweiniad perthnasol a gyhoeddir gan y Comisiwn Gamblo
- yn rhesymol gyson â’r amcanion trwyddedu; ac yn unol â'n Datganiad o egwyddorion trwyddedu
Cofrestr Gyhoeddus Deddf Gamblo
Rydym yn cadw cofrestr gyhoeddus o'r holl drwyddedau safleoedd, hysbysiadau, cofrestriadau a hawlenni a gyflwynir o dan y Ddeddf Gamblo 2005. Gellir gweld y gofrestr yn ein swyddfeydd ar ddydd Llun - ddydd Iau: 8:45am - 5pm a dydd Gwener: 8:45am - 5pm. E-bostiwch ni i wneud apwyntiad i weld y gofrestr.
Deddf Gamblo 2005. Polisi Gamblo diwygiedig
Mae gofyn i bob awdurdod trwyddedu adolygu, ymgynghori a chyhoeddi Polisi Gamblo bob tair blynedd i amlinellu’r egwyddorion arfaethedig y bydd yn eu gweithredu i gyflawni ei ddyletswyddau trwyddedu o dan y Ddeddf.
Mae’r Polisi Hapchwarae diwygiedig wedi cael ei gyhoeddi ar yr 9fed o Ebrill 2025 a bydd yn weithredol o’r 8fed o Mai 2025.
Trwyddedu a Hawlenni
Pa drwyddedau sydd ei angen arnoch i fasnachu yn yr awyr agored?
Trwyddedau alcohol ac adloniant
- Tystysgrif safle clwb
- Trwydded safle
- Trwyddedau personol
- Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro
- Gwneud sylwadau ar geisiadau am drwydded
- Gwneud cwyn am safle trwyddedig
- Adnewyddu / canslo eich trwydded
- Ffioedd blynyddol
- Gwneud cais am adolygiad
Trwydded casgliadau elusennol
Hawlenni Amgylcheddol
Trwyddedau gamblo
- Trwydded loteri
- Trwyddedau safleoedd hapchwarae
- Hawlenni hapchwarae
- Hysbysiadau defnydd dros dro ac achlysurol