Hysbysiadau defnydd dros dro ac achlysurol

Hysbysiad defnydd achlysurol

Mae hysbysiad defnydd achlysurol yn caniatáu betio ar gae rasio (am wyth diwrnod neu lai mewn blwyddyn galendr) heb fod angen trwydded safle lawn. Mae rhagor o wybodaeth ynghylch y broses o wneud cais a'r meini prawf ar gael yn Rhan 15 o'r Canllawiau i awdurdodau trwyddedu.

Hysbysiad defnydd dros dro

Mae hysbysiad defnydd dros dro yn caniatáu i ddeiliad trwydded weithredu ddarparu cyfleusterau hapchwarae dros dro, heb fod angen trwydded safle lawn. Mae rhagor o wybodaeth ynghylch y broses o wneud cais a'r meini prawf ar gael yn Rhan 14 o'r Canllawiau i awdurdodau trwyddedu.

Mae rhagor o wybodaeth ynghylch hysbysiadau hapchwarae yn ogystal â ffurflenni cais ar gael ar wefan y Comisiwn Hapchwarae.

Cyn ichi baratoi eich cais, rydym yn eich cynghori i ddarllen y dogfennau cyfarwyddyd a pholisi perthnasol. Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw ymholiadau.

Dylid cyflwyno eich cais gorffenedig, ynghyd ag unrhyw ddogfennau ategol angenrheidiol a'r ffi briodol, i'r Adain Drwyddedu.

Sut mae talu

  • Drwy siec, yn daladwy i 'Cyngor Sir Caerfyrddin'
  • Dros y ffôn â cherdyn debyd neu gredyd: 01267 234567