Mynediad at Gyfleoedd Masnachu

Mynediad at Gyfleoedd Masnachu

Fel rhan o'i ymrwymiad parhaus i ddatblygu economaidd a chefnogi masnachwyr lleol, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cyflwyno cronfa i ganiatáu busnesau lleol i gael mynediad at gyfleoedd masnachu ledled y sir ac yn genedlaethol, sy'n cael eu hariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Gall busnesau wneud cais am hyd at £1,000 drwy gyfrwng y gronfa. Rhaid talu ymlaen llaw ar gyfer bob digwyddiad sydd wedi'i gynnwys yn y cais, gan y bydd angen prawf archebu a thalu cyn y ceir ad-daliad. 

Wrth wneud cais nid oes hawl ystyried digwyddiadau y mae unigolion eisoes wedi’u mynychu. 

Rhoddir blaenoriaeth i'r rhai sy'n mynychu digwyddiad am y tro cyntaf. Fodd bynnag, mae modd cefnogi unigolion i fynychu eilwaith yn ôl disgresiwn y Tîm Ymgysylltu â Busnes.

I gyflwyno cais am y cymorth hwn, ewch ati i lawrlwytho’r  ffurflen isod a'i dychwelyd at ymgysylltubusnes@sirgar.gov.uk.

Ffurflen Gais Mynediad at Gyfleoedd Masnachu