Swyddog Cyngor Ynni

Ymgeiswyr y Prosiect: Cyngor ar Bopeth Sir Gaerfyrddin

Y Rhaglen Angor: Cymunedau Cynaliadwy 2

Lleoliad: Caerfyrddin

Mae Cyngor ar Bopeth Sir Gaerfyrddin yn elusen annibynnol, nid-er-elw sy'n rhoi gwybodaeth a chyngor am ddim, cyfrinachol, diduedd ac annibynnol.

Bydd cyllid yn cefnogi rôl Swyddog Cyngor Ynni a fydd ar gael i ddarparu gwybodaeth a chyngor ynghylch effeithlonrwydd ynni, arbedion costau a grantiau neu gymorth ariannol posibl.