Amcanion Cydraddoldeb

Ein pedwar amcan ar gyfer 2024–28

Mae ein hamcanion yn seiliedig ar dystiolaeth ac ar y materion a godwyd drwy ymgysylltu ac ymgynghori. Maent yn canolbwyntio ar anghenion a’r rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu.

 

1. Bod yn gyflogwr o ddewis

Gweithio i greu gweithle lle caiff pawb eu trin yn gyfartal, gydag urddas, a chyda mynediad teg at adnoddau a chyfleoedd.

  • Gwella recriwtio a hyrwyddo’r Cyngor fel cyflogwr ar draws ein cymunedau.
  • Datblygu cyfleoedd dysgu, profiad gwaith, prentisiaethau, secondiadau a mentora.
  • Gwella ansawdd gwybodaeth am gydraddoldeb y gweithlu a chefnogi sgiliau craidd.

 

2. Galluogi ein trigolion i fyw a heneiddio’n dda

Gweithio i wella mynediad teg at gymorth a chyfleoedd drwy gydol bywyd, gan ystyried effaith tlodi, anabledd, oedran a rhwystrau eraill.

  • Hyrwyddo cyllid a chymorth sydd ar gael drwy’r agenda trechu tlodi.
  • Cefnogi mynediad cyfartal at addysg, hyfforddiant, cyflogaeth a chynhwysiant cymunedol.
  • Defnyddio tystiolaeth ac adborth trigolion i lywio gwaith oed-gyfeillgar.

 

3. Ymwreiddio cydlyniant cymunedol

Prif-ffrydio cydlyniant cymunedol yn y sefydliad a’r gymuned ehangach, dathlu amrywiaeth a chynhwysiant, ac adeiladu cymunedau cydnerth.

  • Codi ymwybyddiaeth a chydgysylltu hyfforddiant.
  • Cefnogi digwyddiadau a gweithgareddau hygyrch sy’n cynyddu dealltwriaeth.
  • Dileu rhwystrau ieithyddol, diwylliannol, digidol a hygyrchedd i gyfranogiad.
  • Gweithio gyda phartneriaid i ymateb i densiynau cymunedol.

 

4. Gwarchod a chryfhau cydraddoldeb a hawliau dynol

Sicrhau bod ystyriaethau cydraddoldeb a hawliau dynol wedi’u hymwreiddio mewn polisïau, cynlluniau strategol, penderfyniadau a gwasanaethau.

  • Defnyddio Asesiadau Effaith Integredig wrth ddatblygu cynigion strategol.
  • Cefnogi gwaith sy’n ymwneud â hawliau pobl anabl, gwrth-hiliaeth a chydraddoldeb LHDTC+.
  • Cefnogi pobl i ddeall eu hawliau a gwybod ble i gael cyngor a chymorth.