Asesiadau Effaith

Beth yw Asesiad Effaith Integredig?

Mae Asesiad Effaith Integredig yn ein helpu i ddeall sut y gallai cynnig neu benderfyniad effeithio ar bobl, cymunedau, gwasanaethau a’r amgylchedd. Mae’n ein galluogi i nodi effeithiau cadarnhaol a negyddol posibl, cryfhau’r manteision a chymryd camau i leihau neu liniaru unrhyw effeithiau negyddol.

Mae hefyd yn ein helpu i ddefnyddio tystiolaeth, ystyried profiadau gwahanol grwpiau a herio rhagdybiaethau wrth ddatblygu cynigion newydd.

 

Beth rydym yn ei ystyried?

Mae’r Asesiad Effaith Integredig yn dwyn ynghyd nifer o ddyletswyddau cyfreithiol ac ystyriaethau pwysig.

Mae hyn yn cynnwys:

  • Llesiant cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol - Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
  • Cydraddoldeb a’r nodweddion gwarchodedig - Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a Deddf Cydraddoldeb 2010.
  • Anfantais economaidd-gymdeithasol - Y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol 2021.
  • Y Gymraeg - Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a Safonau’r Gymraeg.
  • Hawliau plant a phobl ifanc - Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011.
  • Bioamrywiaeth a gwydnwch ecosystemau - Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
  • Diogelu data - Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data.

Yn ogystal, rydym yn ystyried effeithiau posibl cynigion ar newid hinsawdd ac ymrwymiad y Cyngor i ddod yn awdurdod lleol carbon sero-net erbyn 2030. 

Mae’r dull integredig hwn yn ein helpu i ystyried y meysydd hyn gyda’i gilydd, yn hytrach nag ar wahân, wrth ddatblygu cynigion a gwneud penderfyniadau.

 

Pryd rydym yn cynnal asesiad?

Mae angen Asesiad Effaith Integredig ar gyfer materion strategol sy’n cael eu cyflwyno i’r Cyngor i wneud penderfyniad. Gall hyn gynnwys, er enghraifft:

  • gosod amcanion strategol;
  • datblygu polisïau a strategaethau;
  • newidiadau i wasanaethau cyhoeddus;
  • cynllunio ariannol strategol;
  • penderfyniadau caffael a chomisiynu mawr; a
  • chynlluniau tymor canolig neu hirdymor.

Dylai’r asesiad ddechrau cyn gynted ag y bydd cynnig yn cael ei ddatblygu a chael ei ddiweddaru wrth i dystiolaeth, gwybodaeth ac adborth pellach ddod i law. 

 

Sut mae asesiadau’n cefnogi penderfyniadau?

Mae swyddogion yn defnyddio’r asesiad i ystyried pwy neu beth allai gael eu heffeithio, nodi’r dystiolaeth sydd ar gael ac edrych ar unrhyw fylchau yn y wybodaeth. Gall y dystiolaeth gynnwys data lleol a chenedlaethol, ymchwil, deddfwriaeth, adborth o ymgynghoriadau a phrofiadau pobl a chymunedau.

Pan gyflwynir cynnig i Gabinet y Cyngor neu’r Cyngor Llawn, mae canfyddiadau allweddol yr asesiad yn helpu aelodau etholedig i ystyried yr effeithiau posibl wrth wneud penderfyniadau.

 

Templedi a Chanllawiau

Adolygu Asesiadau Effaith ar Gydraddoldeb: Fframwaith ar gyfer Cynghorwyr