Cymorth a Hawliau
Diweddarwyd y dudalen ar: 27/11/2026
Deall eich hawliau
Mae pawb yn cael eu gwarchod o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae’r Ddeddf yn nodi naw nodwedd warchodedig.
- Oedran.
- Anabledd.
- Ailbennu rhywedd.
- Priodas a phartneriaeth sifil.
- Beichiogrwydd a mamolaeth.
- Hil.
- Crefydd neu gred.
- Rhyw.
- Cyfeiriadedd rhywiol.
Mathau o wahaniaethu
Gall gwahaniaethu gynnwys trin rhywun yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol yn annheg, aflonyddu, erledigaeth, gwahaniaethu drwy gysylltiad neu ganfyddiad, gwahaniaethu sy’n deillio o anabledd, neu fethu â gwneud addasiadau rhesymol.
Cael cymorth neu roi gwybod
Dewiswch y llwybr mwyaf perthnasol:
Rhoi gwybod am drosedd neu ddigwyddiad casineb: Canolfon Cymorth Casineb Cymru
Gofyn am addasiad rhesymol neu fformat hygyrch: Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd o ran y wefan hon - Cyngor Sir Gâr
Y Gymraeg
Mae’r Gymraeg yn dod o dan fframwaith deddfwriaethol ar wahân, ond mae cysylltiad agos rhyngddi ac ymagwedd y Cyngor at gydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae angen sicrhau y gall pobl ddefnyddio eu dewis iaith wrth ymdrin â’r Cyngor.
