Cynllun Strategol Cydraddoldeb 2024–28

Mae’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn nodi sut y byddwn yn hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth rhwng 2024 a 2028. Mae’n amlinellu rhai o’r camau ymarferol y byddwn yn eu cymryd, a sut y byddwn yn monitro perfformiad ac effeithiolrwydd y cynllun.

 

Ein hymrwymiad

Fel awdurdod lleol sy’n darparu gwasanaethau i bobl Sir Gaerfyrddin, rydym wedi ymrwymo i sicrhau cyfle cyfartal i bawb. Fel cyflogwr, rydym hefyd am wneud defnydd llawn o dalentau, sgiliau a phrofiad ein staff presennol a’n darpar staff.

 

Ein dyletswyddau

Wrth wneud penderfyniadau a darparu gwasanaethau, rhaid inni roi sylw dyladwy i’r angen i:

  • Dileu gwahaniaethu anghyfreithlon, aflonyddu, erledigaeth ac ymddygiad arall a waherddir gan y Ddeddf.
  • Hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol ac eraill.
  • Meithrin perthynas dda rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol ac eraill.

 

Beth sydd yn y cynllun?

Mae’r cynllun yn cynnwys:

  • Ein hamcanion cydraddoldeb ar gyfer 2024–28.
  • Y dystiolaeth a’r gwaith ymgysylltu a ddefnyddiwyd i ddatblygu’r amcanion.
  • Camau gweithredu i roi ein hymrwymiadau ar waith.
  • Gwybodaeth am sut y byddwn yn monitro ac adrodd ar gynnydd.

 

Lawrlwytho y cynllun