Pam yr ydym yn ymgynghori
Mae’r Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig (ACI) yn ystyried effeithiau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig 2018-2023. Mae’n ymgorffori nifer o ofynion statudol mewn un ddogfen sy’n galluogi proses fwy tryloyw a chyfannol.
Mae’r ymgynghoriad diweddaraf hwn nawr yn cynnwys yr Adendwm Safleoedd Ychwanegol ACI (Mawrth 2025) sy’n sicrhau cydymffurfiaeth weithdrefnol yn unol â’r deddfwriaeth berthnasol. Gellir dod o hyd i broses gyfan yr Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig ar ein gwefan. Mae’n cynnwys:
- Adroddiad Cwmpasu AC (Gorffennaf 2018)
- Adroddiad Cychwynnol AC (Rhagfyr 2018)
- Adroddiad AC (Ionawr 2020)
- Adroddiad ACI (Chwefror 2023)
- Adendwm ACI (Chwefror 2024)
- Adendwm Safleoedd Ychwanegol ACI (Mawrth 2025)
Darperir crynodeb annhechnegol o'r uchod hefyd.
Dogfennau Ategol
Sut i gymryd rhan
Cyfrannwch drwy lenwi’r arolwg ar-lein hwn.
Sylwch na ellir ymdrin â chynnwys eich sylwadau yn gyfrinachol a bydd yr holl sylwadau ar gael i'r cyhoedd eu gweld. Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn esbonio beth rydym yn ei wneud â'ch data personol.
Camau nesaf
Bydd sylwadau’n cael eu cyflwyno i arolygydd/arolygwyr y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig i’w hystyried ymhellach.