Pam yr ydym yn ymgynghori
Mae Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig 2018-2033 ,sydd wrthi’n cael ei archwilio ar hyn o bryd, yn nodi fframwaith ar gyfer penderfynu ar geisiadau cynllunio ac arwain twf yn Sir Gaerfyrddin (ac eithrio Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog).
Mae’r Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA), a ddefnyddir fel ystyriaeth berthnasol wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio, yn helpu i gefnogi’r defnydd o bolisïau’r CDLl gan sicrhau eu bod yn cael eu deall a’u defnyddio’n fwy effeithiol.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â’r Canllawiau Cynllunio Atodol Draft Bioamrywiaeth ac Adferiad Natur.
Rydym yn awyddus i dderbyn adborth gan bawb sydd â diddordeb
Sut i gymryd rhan
Gallwch gymryd rhan drwy gwblhau'r arolwg ar-lein hwn.
Sylwch na ellir ymdrin â'ch sylwadau yn gyfrinachol a bydd yr holl sylwadau ar gael i'r cyhoedd eu gweld Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn esbonio beth rydym yn ei wneud â'ch data personol.
Gellir gweld copïau papur o’r fersiwn ddrafft o’r CCA yn yr Hybiau Gwasanaethau Cwsmeriaid.
Camau nesaf
Bydd adborth o’r ymgynghoriad hwn yn cael ei ddefnyddio i helpu i lywio datblygiad parhaus y drafft CCA.
