Pam yr ydym yn ymgynghori

Rydym yn ymgynghori â phreswylwyr, landlordiaid, tenantiaid a'r rhai sydd â diddordebau eraill yn Wardiau Tyisha a Glanymôr yn Llanelli, ynghylch cyflwyno cynllun trwyddedu newydd. Bydd y cynllun yn Gynllun Trwyddedu Ychwanegol o dan Ddeddf Tai 2004, a bydd yn effeithio ar eiddo amlfeddiannaeth yn y ddwy ward hynny. Rydym yn ymgynghori ar:

  • Yr angen am gynllun
  • Amodau'r drwydded
  • Y costau cysylltiedig
  • Effeithiau posibl
  • Buddion posibl

Bydd canlyniadau'r ymgynghoriad yn llunio'r Polisi Trwyddedu Ychwanegol ar gyfer yr ardal, a bydd barn yn cael ei hystyried ar yr holl faterion allweddol. Yn dilyn hyn, bydd y cynllun yn cael ei ddatblygu a'i gyflwyno cyn ei weithredu.

Sut i gymryd rhan

Cwblhewch yr arolwg ar-lein.

 

Dogfennau Ategol

Cynllun Trwyddedu Ychwanegol - Tyisha

 

Gwybodaeth ychwanegol 

I weld y cynllun trwyddedu gorfodol presennol ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth, ewch i'n tudalennau gwe sy'n rhoi gwybodaeth i landlordiaid.

Camau nesaf

Bydd yr adborth i'r ymgynghoriad yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu'r Polisi Trwyddedu Ychwanegol ar gyfer Tyisha a Glanymôr.