Pam yr ydym yn ymgynghori
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cynnal sesiwn galw heibio gyhoeddus ar gyfer cam nesaf Cynllun Teithio Llesol Abergwili.
Yn dilyn ymgysylltu a gynhaliwyd ei gynnal yn gynharach eleni, mae adborth gan drigolion, cymudwyr, busnesau lleol, a rhanddeiliaid eraill wedi cael ei ddefnyddio i helpu i lywio'r gwaith o ddatblygu cynigion y cynllun. Rydyn ni bellach am gyflwyno'r cynigion arfaethedig a chasglu rhagor o adborth i helpu i lunio cam nesaf y prosiect.
Mae'r cynllun yn cael ei gynnig i ddarparu'r manteision canlynol:
- Darparu cyfleusterau cerdded, olwyno a beicio mwy diogel trwy Stryd Fawr Abergwili. Mae hyn yn cynnwys gosod croesfannau twmpath arafu estynedig i annog gyrru mwy diogel drwy'r pentref.
- Darparu cyfleusterau cerdded, olwyno a beicio deniadol trwy Stryd Fawr Abergwili. Mae hyn yn cynnwys gosod wyneb newydd ar y ffordd gerbydau a sawl rhan o'r droedffordd. Bydd beicwyr yn cael eu cyfarwyddo i ddefnyddio'r ffordd gerbydau drwy'r Stryd Fawr cyn ymuno â llwybr cyd-ddefnyddio tuag at Lwybr Dyffryn Tywi.
- Ffurfioli'r ddarpariaeth parcio ceir trwy'r Stryd Fawr. Mae hyn yn cynnwys culhau rhai rhannau o'r droedffordd i ddarparu llefydd parcio ffurfiol lle mae cerbydau yn parcio ar y pafin ar hyn o bryd. Ni fydd angen hawlen ar gyfer y llefydd parcio hyn.
Rydym yn bwriadu dechrau'r gwaith adeiladu ym mis Tachwedd 2026 am oddeutu 12 wythnos.
Dogfennau ategol
Sut i gymryd rhan
Rydym yn cynnal sesiwn galw heibio yn Neuadd Eglwys Dewi Sant, Abergwili (SA31 2BB) rhwng 3:00pm a 6:00pm ddydd Iau, 29 Hydref 2026, lle byddwch yn gallu dysgu mwy am y cynigion a thrafod y rhaglen adeiladu gyda'n contractwr.
Camau nesaf
Bydd yr adborth o'r ymgysylltiad yn cael ei ddefnyddio i lywio a chwblhau'r dyluniad arfaethedig ymhellach fel rhan o broses Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru i sicrhau bod y seilwaith arfaethedig yn ystyrlon i gymuned Abergwili yn ogystal â'r adborth a ddarparwyd gan randdeiliaid allweddol hyd yma.
