Etholiadau'r Senedd 2026

Bydd Etholiadau nesaf y Senedd yn cael eu cynnal ddydd Iau 7 Mai 2026. O ganlyniad i Ddeddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) byddwn yn gweld nifer o newidiadau, yn bennaf:

Y system bresennol

Y system o 2026

60 Aelod i gyd - 40 yn cynrychioli etholaethau ac 20 yn cynrychioli rhanbarthau mwy. ***96 Aelod i gyd - 16 etholaeth yn cael eu cynrychioli gan 6 Aelod yr un.
Un bleidlais yn yr etholaeth, un bleidlais yn y rhestr ranbarthol. Un bleidlais yn yr etholaeth.
Mae pobl yn dewis ymgeisydd unigol yn y bwth pleidleisio ar gyfer y bleidlais etholaeth a phlaid wleidyddol (neu annibynnol) ar gyfer y bleidlais ranbarthol. Oni bai bod pobl yn pleidleisio dros ymgeisydd annibynnol, maent yn dewis plaid wleidyddol i bleidleisio drosti, gyda'r cynrychiolwyr etholedig yn dod o restrau sy'n cael eu penderfynu gan bleidiau. Bydd enwau'r holl ymgeiswyr yn ymddangos ar y papur pleidleisio.
Etholiadau'r Senedd bob 5 mlynedd. Etholiadau'r Senedd bob 4 mlynedd.
Nid yw'n ofynnol i aelodau/ymgeiswyr breswylio yng Nghymru. Mae'n rhaid i aelodau/ymgeiswyr fod wedi cofrestru i bleidleisio yng Nghymru.

Gellir dod o hyd i'r hyn sydd angen i chi ei wybod ar dudalen Cyfri'r dyddiau tan Etholiad y Senedd 2026: Pum peth i chi eu gwybod ar wefan Senedd Cymru.

Bydd gan Gymru 16 etholaeth yn hytrach na’r 40 sy’n bodoli ar hyn o bryd. Crëwyd yr etholaethau newydd gan Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru a bydd gan y Senedd 96 Aelod yn lle 60. Bydd pob etholaeth yn ethol chwe Aelod.

Ar gyfer Sir Gaerfyrddin, penderfynodd y comisiwn y byddai etholaeth y Senedd yn cyfuno etholaethau Seneddol y DU sef Caerfyrddin a Llanelli gyda'r enw dynodedig Sir Gaerfyrddin.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar y dudalen Arolwg 2026: Penderfyniadau Terfynol ar wefan Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru.

Dyma fap o’r etholaeth newydd.

 

System bleidleisio newydd

‘System rhestr gyfrannol gaeedig’ yw’r system bleidleisio newydd. Mae hyn yn golygu eich bod chi’n pleidleisio dros blaid wleidyddol (yn hytrach nag unigolion) neu ymgeisydd annibynnol.

Bydd y papur pleidleisio’n cynnwys rhestr lawn o’r ymgeiswyr yn eich etholaeth, felly byddwch chi dal yn gallu gweld pwy rydych chi’n pleidleisio drostynt.

Os bydd plaid yn ennill digon o bleidleisiau, bydd yn ennill un neu fwy o seddi yn y Senedd. Os bydd ymgeisydd annibynnol yn ennill digon o bleidleisiau, bydd yn ennill sedd yn y Senedd.

Bydd y seddi’n adlewyrchu canran y pleidleisiau y bydd pob plaid neu ymgeisydd annibynnol yn ei derbyn.

 

Pam mae etholiadau Senedd Cymru yn bwysig?

Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am benderfynu sut mae Cymru yn cael ei llywodraethu. Mae’n dewis sut mae gwario arian cyhoeddus ac mae’n penderfynu sut mae darparu gwasanaethau cyhoeddus.

Dyma le caiff deddfau Cymru eu pasio a lle caiff rhai o drethi Cymru eu gosod. Bydd Aelodau o’r Senedd yn edrych ar waith Llywodraeth Cymru ac yn gofyn cwestiynau am ei phenderfyniadau a’i gwariant yn y Senedd.

Mae’r Senedd yn craffu ar waith Llywodraeth Cymru ac yn holi ei Gweinidogion. Mae’n archwilio cynlluniau’r Llywodraeth ac yn awgrymu newidiadau iddynt. Mae’r Aelodau hefyd yn codi materion yn y Senedd sy’n bwysig i chi.

Mae’r Senedd yn gyfrifol am wasanaethau fel iechyd, addysg, a thrafnidiaeth.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am rôl y Senedd yma.

 

Ymgeiswyr ac Asiantau

Mae'r Comisiwn Etholiadol yn darparu canllawiau sy'n anelu at rhoi cyngor ymarferol i bleidiau gwleidyddol, ymgeiswyr rhestr plaid ac ymgeiswyr unigol.

Mwy gwybodaeth

 

Pwy sy’n cael pleidleisio yn yr etholiad hwn?

Er mwyn pleidleisio mewn unrhyw etholiad yn y Deyrnas Unedig, mae’n rhaid i chi gofrestru i bleidleisio (gweler y wybodaeth isod ynghylch sut i wneud hyn).

Ar ôl cofrestru, gall y bobl ganlynol bleidleisio yn Etholiad Senedd Cymru ar 7 Mai 2026:

  • Pobl sy’n 16 oed neu’n hŷn
  • Dinasyddion Prydeinig, Gwyddelig, neu ddinasyddion cymwys o’r Gymanwlad
  • Dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd
  • Dinasyddion tramor cymwys (dinesydd tramor cymwys yw rhywun sydd â’r hawl i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig, neu rywun nad oes angen hawl o’r fath arno / arni).

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan y Comisiwn Etholiadol.

Nid oes angen Dogfen Adnabod Pleidleisiwr arnoch i bleidleisio yn yr etholiad hwn.

 

Cofrestru i bleidleisio

I bleidleisio yn Etholiad Senedd Cymru, mae’n rhaid i chi gofrestru erbyn dydd Llun, 20 Ebrill 2026.

Dim ond unwaith y mae angen i chi gofrestru – nid oes angen cofrestru ar gyfer pob etholiad. Bydd angen i chi gofrestru eto os byddwch chi’n newid eich enw, cyfeiriad neu genedligrwydd.

Gallwch gofrestru i bleidleisio ar-lein. Mae’n cymryd 5 munud yn unig i gofrestru.

I gofrestru, bydd angen i chi ddarparu’r manylion canlynol:

  • eich enw llawn,
  • eich cyfeiriad,
  • eich dyddiad geni, ac
  • eich rhif yswiriant gwladol (os ydych chi’n 16 oed neu’n hŷn). Byddai’n ddefnyddiol i chi gael eich rhif yswiriant gwladol wrth law. Gallwch ddod o hyd iddo ar eich slip cyflog, P60, neu lythyron am drethi, pensiynau a budd-daliadau.

Os na fyddwch chi’n gallu darparu unrhyw un o’r manylion am unrhyw reswm, efallai y bydd yn rhaid i ni gysylltu â chi i gael rhagor o wybodaeth.

Os byddwch chi’n darparu cyfeiriad e-bost, dylech gael e-bost gyda chadarnhad ar ôl i chi wneud cais i gofrestru.

Os na fyddwch chi’n darparu cyfeiriad e-bost, byddwch chi’n derbyn llythyr yn y post.

I gofrestru i bleidleisio, rhaid i chi fod yn 14 oed neu’n hŷn (ond ni allwch bleidleisio tan y byddwch yn 16 neu’n 18 oed yn dibynnu ar yr etholiad) ac mae’n rhaid i chi fod yn un o’r canlynol:

  • dinesydd Prydeinig neu Wyddelig
  • dinesydd cymwys o’r Gymanwlad sy’n byw yn y Deyrnas Unedig
  • dinesydd cymwys o’r Undeb Ewropeaidd sy’n byw yn y Deyrnas Unedig
  • dinesydd tramor cymwys.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan y Comisiwn Etholiadol.

Peidiwch â gadael cofrestru tan y funud olaf, rhag ofn y byddwch chi’n cael problemau.

Mwy gwybodaeth am cofrestru i bleidleisio

 

Penderfynu sut i bleidleisio

Os ydych chi wedi cofrestru i bleidleisio, mae nifer o ffyrdd y gallwch chi bleidleisio.

Mwy gwybodaeth am sut i bleidleisio

 

Dyddiadau allweddol

Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio yw dydd Llun, 20 Ebrill 2026;

  • Os ydych chi wedi symud cartref yn ddiweddar ac nid ydych chi wedi cofrestru i bleidleisio yn eich cyfeiriad newydd, mae’n rhaid i chi wneud hynny erbyn dydd Llun, 20 Ebrill 2026;
  • Os ydych chi eisiau pleidlais bost neu bleidlais bost drwy ddirprwy, y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 5.00pm, ddydd Mawrth, 21 Ebrill 2026;
  • Os ydych chi eisiau pleidleisio drwy ddirprwy (nid drwy ddirprwy mewn argyfwng), y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 5.00pm, ddydd Mawrth, 28 Ebrill 2026;
  • Bydd pleidleisiau trwy ddirprwy mewn argyfwng ar gael ar ôl 5.00pm, ddydd Mawrth, 28 Ebrill 2026 tan 5.00pm ar 7 Mai 2026 ond mewn amgylchiadau eithriadol penodol yn unig. Gallwch gael manylion ar wefan y Comisiwn Etholiadol neu drwy ffonio 01267 228889.
  • Diwrnod yr etholiad fydd dydd Iau, 7 Mai 2026. Bydd y gorsafoedd pleidleisio ar agor o 7.00am tan 10.00pm.

 

Os ydych chi angen rhagor o wybodaeth cysylltwch â’r Gwasanaethau Etholiadol drwy e-bostio gwasanaethauetholiadol@sirgar.gov.uk, drwy ffonio 01267 228889 neu drwy’r post - Gwasanaethau Etholiadol, Cyngor Sir Caerfyrddin, Neuadd y Sir, Caerfyrddin SA31 1JP.