Gwybodaeth i ymgeiswyr ac asiantiaid
Diweddarwyd y dudalen ar: 26/02/2026
Mae'r Comisiwn Etholiadol yn darparu canllawiau sy'n anelu at rhoi cyngor ymarferol i bleidiau gwleidyddol, ymgeiswyr rhestr plaid ac ymgeiswyr unigol sydd eisiau sefyll yn etholiadau Senedd Cymru, yn ogystal ag unrhyw un sydd am fod yn asiant etholiad.
Sesiynau briffio
Bydd Wendy Walters, y Swyddog Canlyniadau (RO) yn cynnal sesiynau briffio cyn y cyfnod enwebu ac ar ôl diwedd y broses enwebu:
- Cyfnod cyn enwebu – bydd y Swyddog Canlyniadau'n darparu gwybodaeth bwysig am y broses enwebu, gan gynnwys talu ernes, ymgyrchu, yn ogystal â gwybodaeth am wariant etholiad a rhoddion.
Cynhelir y sesiwn friffio ddydd Mawrth, 17 Mawrth
- Cyfnod ar ôl diwedd y broses enwebu – bydd y Swyddog Canlyniadau'n darparu gwybodaeth am y broses a'r amserlen o ran pleidleisiau drwy'r post, y diwrnod pleidleisio a chyfrif pleidleisiau.
Cynhelir y sesiwn friffio ddydd Mawrth, 14 Ebrill
I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch neges e-bost at gwasanaethauetholiadol@sirgar.gov.uk
Y Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig – ymgeiswyr anabl
Bellach gall ymgeiswyr anabl ar gyfer y Senedd neu Lywodraeth Leol wneud cais am gyllid o dan y Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig, sy'n cael ei gweithredu gan Anabledd Cymru. Mae'r cyllid ar gyfer helpu ymgeiswyr anabl gyda chostau ychwanegol nad oes modd eu hosgoi - fel trafnidiaeth hygyrch, offer arbenigol, neu gymorth personol. Mae'r cynllun yn cynnwys:
- Help i nodi cymorth angenrheidiol.
- Cymorth i gwblhau ceisiadau.
- Asesiad teg o'r hyn y mae unigolyn yn gofyn amdano i sicrhau tegwch.
- Darparu cyllid neu wasanaethau cymeradwy.
Mae'r gronfa'n darparu cymorth ariannol i ymgeiswyr anabl sydd â chostau sy'n gysylltiedig ag amhariad, gan gynnwys cyllid ar gyfer dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain, cynorthwywyr personol, trafnidiaeth hygyrch, a thechnoleg gynorthwyol. Mae'r gronfa'n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru ac yn cael ei gweithredu gan Anabledd Cymru, gan sicrhau bod y cynllun yn cael ei weinyddu'n annibynnol mewn modd diduedd a chyfrinachol. Bydd y cynllun yn cynorthwyo ymgeiswyr trwy gydol cyfnod yr etholiad - o'r broses enwebu i gyhoeddi'r canlyniadau.
Gall ymgeiswyr wneud cais drwy Anabledd Cymru neu drwy lawrlwytho'r ffurflen gais yma.
Enwebiadau
Mae ffurflenni enwebu a gwybodaeth sy'n ymwneud â'r broses enwebu ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol.
Sylwch y bydd gwahaniaethau yn y ffurflenni enwebu os ydych chi'n ymgeisydd rhestr plaid neu'n ymgeisydd unigol. Cyfeiriwch at wefan y Comisiwn Etholiadol i gael y rhestr lawn o ofynion ar gyfer y broses enwebu.
Bydd enwebiadau'n cael eu derbyn o 24 Mawrth, 2026 tan 4.00pm, 9 Ebrill, 2026 (yn gynhwysol) (ac eithrio penwythnosau a Gwyliau Banc).
Gwiriadau Anffurfiol o Bapurau Enwebu
Byddwn yn cynnig gwiriadau anffurfiol i ymgeiswyr o'ch papurau enwebu cyn i chi eu cyflwyno'n swyddogol.
Gallwch anfon eich papurau enwebu drafft mewn neges e-bost at enwebiadau@sirgar.gov.uk i gael sylwadau.
Cyflwyno eich Papurau Enwebu
Gallwch gyflwyno'ch ffurflenni enwebu yn bersonol neu'n electronig:
Yn bersonol
Mae modd gwneud apwyntiadau rhwng 10.00am a 4.00pm i gyflwyno'r papurau enwebu.
Mae modd gwneud apwyntiadau drwy anfon neges e-bost at enwebiadau@sirgar.gov.uk, drwy drefnu apwyntiad ar-lein neu drwy ffonio 01267 228889.
Yn electronig
- Mae'n rhaid cyflwyno papurau enwebu drwy e-bost i enwebiadau@sirgar.gov.uk
- Ni fydd papurau enwebu'n cael eu derbyn os ydynt yn cael eu cyflwyno i gyfeiriad e-bost arall.
- Dylai llinell bwnc y neges e-bost nodi'n glir enw'r blaid gofrestredig neu enw'r ymgeisydd unigol.
- Ar ôl i'r papurau ddod i law, bydd cydnabyddiaeth yn cael ei hanfon drwy e-bost. Ni fydd hyn yn rhoi cadarnhad bod yr enwebiad yn ddilys.
- Bydd neges e-bost arall yn cael ei hanfon atoch yn cadarnhau bod yr enwebiad yn ddilys neu'n rhoi gwybod os oes unrhyw broblemau â'r wybodaeth a gafodd ei darparu.
- Bydd angen talu'r ernesau priodol cyn cadarnhau bod yr enwebiad wedi'i gadarnhau fel un dilys.
- Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw sicrhau bod y papurau enwebu'n cael eu cyflwyno a'u cadarnhau fel rhai dilys, erbyn 4.00pm ar 9 Ebrill 2026 fan bellaf.
Digwyddiad |
Diwrnodau gwaith cyn y bleidlais (adeg cau os nad hanner nos ydyw) |
Dyddiad (adeg cau os nad hanner nos ydyw) |
| Cyhoeddi hysbysiad etholiad | Heb fod yn hwyrach na 25 diwrnod | Dydd Llun, 23 Mawrth |
| Cyflwyno papurau enwebu | Ar unrhyw ddiwrnod ar ôl cyhoeddi'r hysbysiad etholiad tan 4pm 19 diwrnod cyn y diwrnod pleidleisio | O 24 Mawrth tan 4pm ddydd Iau, 9 Ebrill |
| Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno papurau enwebu | 19 diwrnod (4pm) | 4pm ddydd Iau 9 Ebrill |
| Gwneud gwrthwynebiadau i bapurau enwebu |
19 diwrnod cyn y bleidlais (5 pm), yn amodol ar y canlynol: Cyn 12 hanner dydd mae modd gwrthwynebu pob enwebiad sy'n cael ei gyflwyno hyd at, ac yn cynnwys, 4pm, 20 diwrnod cyn y bleidlais Rhwng 12 hanner dydd a 5pm, dim ond enwebiadau sy'n cael eu cyflwyno ar ôl 4pm, 20 diwrnod cyn y bleidlais y mae modd eu gwrthwynebu |
Cyn 12 hanner dydd, dydd Iau, 9 Ebrill mae modd gwrthwynebu pob enwebiad hyd at, ac yn cynnwys 4pm ddydd Mercher, 8 Ebrill. Rhwng 12 hanner dydd a 5pm ddydd Iau, 9 Ebrill dim ond ar ôl 4pm ddydd Mercher, 8 Ebrill y mae modd gwrthwynebu enwebiadau sy'n cael eu cyflwyno.
|
| Dyddiad cau ar gyfer tynnu'n ôl | 19 diwrnod (4pm) | 4pm ddydd Iau 9 Ebrill |
| Cyhoeddi'r hysbysiad newid etholiad interim cyntaf | 19 diwrnod | Dydd Iau 9 Ebrill |
| Dyddiad cau ar gyfer rhoi hysbysiad o benodi asiant etholiadol | Heb fod yn hwyrach na 18 diwrnod (4pm) | Heb fod yn hwyrach na 4pm ddydd Gwener, 10 Ebrill |
| Cyhoeddi datganiad o unigolion a enwebwyd, gan gynnwys hysbysiad o bleidlais a sefyllfa'r gorsafoedd pleidleisio | Heb fod yn hwyrach na 18 diwrnod (4pm) | Heb fod yn hwyrach na 4pm ddydd Gwener, 10 Ebrill |
| Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau am gofrestru | 12 diwrnod | Dydd Llun 20 Ebrill |
| Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau newydd am bleidleisio drwy'r post ac am bleidleisio drwy ddirprwy ac am newid y trefniadau presennol o ran pleidleisio drwy'r post neu bleidleisio drwy ddirprwy | 11 diwrnod (5pm) | 5pm ddydd Mawrth 21 Ebrill |
| Cyhoeddi ail hysbysiad newid etholiad interim | Rhwng 18 diwrnod a 6 diwrnod | Dydd Mercher, 22 Ebrill |
| Dyddiad cau i dderbyn ceisiadau newydd am bleidleisio drwy ddirprwy (nid am bleidlais bost drwy ddirprwy na phleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng). | 6 diwrnod (5pm) | 5pm ddydd Mawrth 28 Ebrill |
| Cyhoeddi hysbysiad etholiad terfynol o newid | 5 diwrnod | Dydd Mercher 29 Ebrill |
| Dyddiad cau ar gyfer rhoi hysbysiad o benodi asiantiaid pleidleisio ac asiantiaid cyfrif. | 5 diwrnod | Dydd Mercher 29 Ebrill |
| Dyddiad cyntaf y gall etholwyr wneud cais am bapurau yn lle pleidleisiau post a gollwyd | 4 diwrnod | Dydd Iau 30 Ebrill |
| Dyddiad cau ar gyfer penodi is-asiantiaid | 2 diwrnod | Dydd Mawrth 5 Mai |
Y diwrnod pleidleisio |
0 (7am tan 10pm) |
7am tan 10pm dydd Iau, 7 Mai |
| Dyddiad olaf y gall etholwyr wneud cais am bleidleisiau post newydd yn lle'r rhai sydd wedi'u difetha neu a gollwyd | 0 (5pm) | 5pm ddydd Iau 7 Mai |
| Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am bleidleisio drwy ddirprwy mewn argyfwng | 0 (5pm) | 5pm dydd Iau 7 Mai |
| Cyfle olaf i addasu'r gofrestr yn sgil gwall clercio neu apêl llys | 0 (9pm) | 9pm ddydd Iau 7 Mai |
| Gwirio a Chyfrif | Dydd Gwener, 8 Mai |
Talu ernesau
Gellir talu ernesau i'r Swyddog Canlyniadau erbyn 4.00pm ddydd Iau, 9 Ebrill 2026 drwy BACS, arian parod neu ddrafft banciwr. Mae'r ernesau gofynnol fel a ganlyn:
- Ymgeisydd unigol – ernes o £500.00;
- Ymgeiswyr rhestr plaid – ernes o £500.00 ar gyfer ymgeisydd cyntaf rhestr plaid; a swm o £200.00 am bob un o'r pum ymgeisydd nesaf sy'n ymddangos ar y rhestr plaid gofrestredig.
Ni fydd eich papurau enwebu'n cael eu derbyn gan y Swyddog Canlyniadau oni bai bod y swm cywir wedi'i dalu.
Fforffedu blaendal
- Bydd blaendal ymgeisydd unigol yn cael ei fforffedu os yw wedi cael llai na 5% o gyfanswm nifer y pleidleisiau yn yr etholaeth ar ôl cyfrif y pleidleisiau.
- Bydd blaendal plaid wleidyddol gofrestredig yn cael ei fforffedu os yw wedi cael llai na 5% o gyfanswm nifer y pleidleisiau yn yr etholaeth ar ôl cyfrif y pleidleisiau.
Côd Ymddygiad ar gyfer Ymgyrchwyr
Mae ymgyrchwyr yn elfen hanfodol o ddemocratiaeth iach, a dylid cefnogi a diogelu eu hawl i gyflwyno'u dadleuon i bleidleiswyr. Ond mae'r un mor bwysig sicrhau nad yw gweithgareddau ymgyrchwyr yn bwrw amheuaeth ar uniondeb y broses etholiadol.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol.
Cysylltu
Os bydd arnoch angen rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r Swyddog Canlyniadau neu anfonwch neges e-bost at GwasanaethauEtholiadol@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 228889.
