Rhyddid Gwybodaeth
Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn rhoi hawl ichi gael gweld gwybodaeth a gofnodwyd ac a gedwir gan awdurdodau cyhoeddus, megis Cyngor Sir Caerfyrddin. Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor sicrhau bod gwybodaeth sylweddol ar gael i'r cyhoedd fel mater o drefn. Rydym ni felly wedi mabwysiadu Cynllun Cyhoeddi enghreifftiol y Comisiynydd Gwybodaeth. Ewch i'r adran cynllun cyhoeddi ar ein gwefan i ddod o hyd i'r wybodaeth ganlynol:
- Pwy ydym ni a beth yw ein gwaith ni
- Faint rydym yn ei wario a sut
- Beth yw ein blaenoriaethau a pha mor dda rydym yn gweithredu
- Sut rydym yn gwneud penderfyniadau
- Ein polisïau a'n gweithdrefnau
- Rhestrau a chofrestrau
- Y gwasanaethau rydym yn eu cynnig
Os nad yw'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch wedi ei chyhoeddi eisoes, gallwch wneud cais i'r Cyngor o dan y Ddeddf.
Fel arfer mae'n rhaid gwneud cais yn ysgrifenedig. Dylid cyfeirio'r cais at y Cyngor ac mae'n rhaid ei fod yn cynnwys enw a chyfeiriad (post neu e-bost) er mwyn gallu rhoi ymateb. Yn ogystal, dylid disgrifio'r wybodaeth y gwneir cais amdani mor glir ag y bo modd.
- Gallwch wneud cais drwy gwblhau ein ffurflen gais ar-lein.
- Gallwch hefyd ddanfon ebost neu lythyr gan ddefnyddio’r manylion cyswllt isod.
Gellir gwneud ceisiadau am wybodaeth amgylcheddol ar lafar o dan Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004.
Ar ôl inni gael cais ac, os bydd angen, rhagor o eglurhad i'n galluogi i chwilio am y wybodaeth y gofynnwyd amdani, mae'n ofynnol inni ymateb cyn pen 20 niwrnod gwaith.
Gall fod achosion pan fydd rheswm dilys pam na allwn rhoi gwybodaeth. Gallai hynny fod am nad oes gennym y wybodaeth y gofynnwyd amdani, neu oherwydd bod un o’r eithriadau yn y Ddeddf yn berthnasol. Os digwydd hyn, byddwn yn ysgrifennu atoch a rhoi eglurhad llawn ynghylch pam na allwn roi’r wybodaeth.
Effaith rhyddhau gwybodaeth dan y Ddeddf yw ei gyhoeddi. Mae gan y Cyngor ddyletswydd i warchod gwybodaeth bersonol yn unol â’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol.
Felly, os dymunwch wneud gais am wybodaeth sydd amdanoch chi, ewch i'r dudalen Diogelu Data am fwy o wybodaeth.
Pan fo angen darparu llungopïau neu ddeunydd wedi ei argraffu, gall y Cyngor godi taliadau safonol. Hefyd caiff cost postio ei hychwanegu lle bo'r angen. Ni fyddwn yn codi tâl am gopïau a fydd yn costio llai na chyfanswm o £2.00. Mae'r holl daliadau'n cynnwys T.A.W.
Y canlynol yw'r costau fesul copi:
- A4 du a gwyn - 10c
- A4 lliw - 20c
- A3 du a gwyn - 20c
- A3 lliw - 40c
- A2 - 50c
- A1 - £2.00
- A0 - £5.00
