Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2023-2024
Amcan Llesiant 4
Moderneiddio a datblygu ymhellach fel Cyngor cydnerth ac effeithlon (Ein Cyngor)
Trosolwg cynnydd
Mae'r Cyngor, fel pob gwasanaeth cyhoeddus arall, yn wynebu pwysau ariannol sylweddol, galw cynyddol a heriau o ran y gweithlu dros y blynyddoedd nesaf, yn ogystal ag ymateb i'r agenda sero net, effaith newid demograffig ac anghydraddoldeb.
Mae pwysau cyllidebol yn golygu bod cyllid go iawn rhai gwasanaethau wedi gostwng yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, er bod galw'n cynyddu, a bod cymhlethdod y galw hwnnw'n cynyddu hefyd.
Mae hyn yn cael effaith sylweddol ar ein gweithlu sy'n wynebu galw cynyddol ar adeg pryd mae llai o adnoddau. Mae pwysau recriwtio mewn rhai meysydd yn parhau ac mae pwysau cyllidebol yn golygu bod yn rhaid ystyried unrhyw swyddi gwag yn ofalus cyn eu llenwi. Yn ogystal, mae'r Cyngor yn profi cynnydd sylweddol mewn absenoldeb salwch sy'n gysylltiedig â straen, gyda chynnydd yn y staff sy’n cael eu cyfeirio at ein Gwasanaeth Cymorth Llesiant. Mae'r cynnydd mewn absenoldeb salwch ar ben y pwysau presennol ar y gweithlu. Rhaid canmol ymrwymiad a gwytnwch staff ond ni ellir cynnal y pwysau presennol yn yr hirdymor, ac mae gwaith yn mynd rhagddo i fynd i'r afael â’r pwysau ar y gweithlu yn y dyfodol.
Mae meddwl mewn ffordd hirdymor a chydgysylltiedig yn anodd wrth wynebu heriau o'r fath ac wrth i adnoddau leihau. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod, er mwyn parhau â'n gwaith pwysig wrth ddarparu gwasanaethau, bod yn rhaid i ni wneud pethau'n wahanol, gan wneud y mwyaf o'r cyfleoedd y mae'r egwyddor datblygu cynaliadwy yn eu cynnig.
Rydym wrthi'n moderneiddio ac yn datblygu fel sefydliad gwydn ac effeithlon i sicrhau ein cynaliadwyedd yn y dyfodol. Mae pwyslais cryf ar gynllunio a chefnogi datblygiad gweithlu medrus ac ystwyth, gan wneud y mwyaf o gyfleoedd o fewn trawsnewid digidol i wella'r ffordd y darperir gwasanaethau, lleihau costau, a gwella profiad a boddhad cwsmeriaid.
Mae ein Strategaeth Drawsnewid yn cefnogi amcanion strategol ein Strategaeth Ddigidol newydd ar gyfer 2024-2027 i ddarparu gwell profiad i gwsmeriaid. Mae hyn yn cynnwys gweithredu llofnodion electronig, datrysiadau post hybrid, a chyflwyno technoleg roboteg mewn prosesau penodol, sydd wedi arwain at welliannau cynhyrchiant ac arbedion cost. Mae gwaith hefyd yn digwydd i gyflwyno Strategaeth Fasnacheiddio, i’n galluogi i fanteisio ar greu incwm, er mwyn helpu i daclo heriau ariannol y dyfodol.
Gwnaed buddsoddiadau sylweddol i wella effeithlonrwydd gweithredol ac ystwythder. Rydym hefyd wedi canolbwyntio ar wella amgylchedd y safle i fod yn fwy gwydn.
Mae'r Strategaeth Ddigidol newydd ar gyfer 2024-2027 yn pwysleisio defnyddio elfennau digidol, data a thechnoleg i wella gwasanaethau cyhoeddus, gyda'r nod o greu amgylchedd digidol cynhwysol sy'n grymuso pob preswylydd.
Sut ydyn ni'n gwneud?
Rydym yn rhoi pwyslais sylweddol ar bwysigrwydd barn ein preswylwyr. Felly, y brif ffordd o fesur cynnydd yn erbyn Amcan Llesiant 4 yw drwy ein harolwg preswylwyr blynyddol. Mae'r canlyniadau ar gyfer 2023 yn cael eu darparu isod gyda chymharydd ar gyfer y flwyddyn flaenorol. Mae'r datganiadau hyn yn ymwneud yn uniongyrchol â'r Cyngor a'n perfformiad.
O'r naw gosodiad a gyflwynwyd yn gysylltiedig â'r Cyngor a'i berfformiad, roedd yr ymatebwyr yn cytuno neu'n cytuno'n gryf â 56% ohonynt. Mae hyn yn gyson â'r tueddiadau a welir am y flwyddyn flaenorol.
Fodd bynnag, tra bo hyn yn wir, roedd wyth o'r naw sgôr mynegai cyfartalog (AIS) wedi gweld gostyngiad bach ar ganlyniad y flwyddyn flaenorol sy'n awgrymu bod lefelau anghytundeb ar y cyfan ychydig yn uwch ar gyfer 2023.
Cafwyd nifer o ganfyddiadau o'r dystiolaeth ddaeth i law, sef:
Mae'r rhan fwyaf o'r ymatebwyr yn credu bod y Cyngor yn darparu gwasanaethau o ansawdd da ar y cyfan. Fodd bynnag, rhannodd llawer o drigolion sylwadau i'r gwrthwyneb, gyda'r prif themâu'n cyd-fynd â'r dystiolaeth ddaeth i law'r llynedd. Mae'r themâu hyn yn cynnwys:
- Casgliad gwastraff annibynadwy ac afreolaidd;
- Canfyddiad o ddiffyg adfywio yng nghanol trefi;
- Cyflwr gwael y ffyrdd, y. tyllau;
- Strydoedd heb eu glanhau'n ddigonol;
- Aros yn hir am waith atgyweirio tai;
- Cynnydd mewn sbwriel a thipio anghyfreithlon;
- Diffyg trafnidiaeth gyhoeddus;
- Diffyg goleuadau stryd;
- Gwasanaeth gofal cymdeithasol sy'n cael ei weld yn un sy'n
Mae'r rhan fwyaf o'r ymatebwyr o'r farn bod staff yn hawdd siarad â nhw ac yn gyfeillgar pan fyddant yn defnyddio gwasanaethau'r Cyngor.
Mae proses gyfathrebu'r Cyngor yn effeithiol ar y cyfan o ran caniatáu i breswylwyr gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein gwasanaethau, a chytuna'r rhan fwyaf fod cysylltu â'r Cyngor yn syml ac yn rhwydd. Fodd bynnag, mae rhai problemau gyda phrosesau cyswllt uniongyrchol megis ar adegau pan fydd preswylwyr yn defnyddio'r prif switsfwrdd, yn defnyddio e-bost i gysylltu â swyddogion neu'n dymuno siarad yn uniongyrchol â swyddogion mewn adrannau unigol. Mae'r canfyddiadau hyn yn gyson â'r flwyddyn flaenorol.
Ar y cyfan mae'r ymatebwyr o'r farn nad yw'r Cyngor yn gwneud defnydd da o'r adnoddau ariannol sydd ar gael i ni, ac nad yw buddsoddi'n digwydd yn y meysydd cywir. Dyma oedd y ddau ddatganiad wnaeth sgorio isaf, tuedd gyson â'r llynedd.
Yn yr un modd â'r llynedd, ymateb cymysg gafwyd i ddatganiadau ar gyfathrebiadau'r Cyngor mewn perthynas â pherfformiad a chyfleoedd i gyfrannu at benderfyniadau. Ar y cyfan roedd mwy o bobl yn anghytuno â'r datganiadau hyn, ond roedd nifer sylweddol wedi nodi 'y naill na'r llall', a allai ddangos bod problem ehangach â'r math o wybodaeth a rennir â thrigolion ar y themâu hyn a sut rhennir y wybodaeth hon.
Am gynnydd a data ar y gwasanaeth hwn, gweler tudalennau 4-18 - CYNNYDD YN ERBYN EIN CANLYNIADAU A SUT ALLWN NI WNEUD YN WELL?