Polisi Diogelu Corfforaethol

Gwybodaeth Allweddol

Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol | Darren Mutter
Aelod Arweiniol dros Ddiogelu | Y Cynghorydd Jane Tremlett, Aeold Cabinet dros Iechyd Integredig a Gwasanaethau Cymdeithasol Plant ac Oedolion
Rhoi gwybod am bryder - Oedolyn | 0300 333 2222
Rhoi gwybod am bryder - Plentyn | 01554 742322
Y tu allan i oriau - Oedolion a Phlant | 0300 333 2222
Mewn Argyfwng – Cysylltwch â Heddlu Dyfed-Powys | 999


Pwrpas

Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sy'n wynebu risg yn flaenoriaeth fawr i Gyngor Sir Caerfyrddin. Mae’r Polisi Diogelu Corfforaethol hwn yn darparu fframwaith ar gyfer pob aelod o staff a Gwasanaeth yn y Cyngor, gan nodi cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sy’n wynebu risg yn ogystal â’r dulliau y bydd y Cyngor yn eu defnyddio i wybod yn sicr ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.

Mae’r polisi hwn yn berthnasol i holl gyflogeion, gweithlu, gwirfoddolwyr, a chynghorwyr y Cyngor Sir, a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. At ddibenion y polisi hwn, diffinnir 'gweithlu' fel y rheiny sy'n gwneud gwaith i'r Cyngor, gan gynnwys cyflogeion parhaol a dros dro, myfyrwyr, gwirfoddolwyr, gweithwyr a gyflogir gan asiantaethau cyflogaeth, contractwyr ac ymgynghorwyr. 

 

Mae diogelu yn gyfrifoldeb ar bawb, pa un a ydynt yn gweithio i’r Cyngor  ynteu ar ran y Cyngor.

 

Y bwriad yw y bydd y Polisi Diogelu Corfforaethol hwn yn ategu ac nid yn disodli unrhyw gyfrifoldebau sydd eisoes wedi’u nodi mewn deddfwriaeth, polisi neu ganllawiau.

Mae'r polisi corfforaethol yn ategu dogfennau diogelu eraill yr awdurdod lleol fel:


Amcanion y Polisi hwn

·            Nodi sut y bydd yr Awdurdod Lleol yn cyflawni ei rwymedigaethau tuag at ddiogelu plant ac oedolion sy’n wynebu risg.

 

·            Rhoi sicrwydd i’r cyhoedd, cynghorwyr, staff, gwirfoddolwyr a phobl sy’n gwneud gwaith ar ran y Cyngor bod trefniadau effeithiol yn eu lle i ddiogelu plant ac oedolion sy’n wynebu risg.

 

·            Sicrhau bod y gweithlu cyfan, fel y'i diffinnir uchod, yn dilyn protocolau a gweithdrefnau diogelu sylfaenol yn ystod eu gwaith er mwyn cyfrannu at amddiffyn plant ac oedolion sy'n wynebu risg.


Egwyddorion

·            Mae gan bob plentyn ac oedolyn sy'n wynebu risg (beth bynnag ei gefndir, diwylliant, oedran, anabledd, rhyw, ethnigrwydd, cred grefyddol) yr hawl i fod yn rhan o gymdeithas ddiogel heb unrhyw drais, ofn, camdriniaeth, bwlio neu wahaniaethu.

 

·            Mae gan bob plentyn ac oedolyn sy'n wynebu risg yr hawl i gael ei amddiffyn rhag niwed, esgeulustod, camfanteisio a chamdriniaeth. Mae hyn yn cynnwys pobl y gallai'r Cyngor fod yn eu cyflogi.

 

·            Mae gan yr holl gyflogeion, cynghorwyr, gwirfoddolwyr a'r sawl sy'n gweithio i'r Cyngor neu gyda'r Cyngor gyfrifoldeb am amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn risg o gael eu cam-drin a'u hesgeuluso a gweithio mewn ffordd sy'n hyrwyddo ac yn cefnogi eu buddiannau gorau.

 

·            Bydd y Cyngor yn buddsoddi mewn gwasanaethau atal ac ymyrraeth gynnar ac yn ymdrechu i atal sefyllfaoedd lle gall camdriniaeth, esgeulustod neu niwed ddigwydd.


Cwmpas

Yn ôl Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014: -

Plentyn sy'n wynebu risg yw plentyn sy'n:

·            profi camdriniaeth, esgeulustod neu fathau eraill o niwed, neu sy'n wynebu risg o hynny,

·            sydd ag anghenion gofal a chymorth, boed yr awdurdod yn diwallu unrhyw rai o'r anghenion hynny ai peidio.

Oedolyn sy'n wynebu risg yw oedolyn sy'n:

·            profi camdriniaeth, esgeulustod, neu sy'n wynebu risg o hynny,

·            sydd ag anghenion gofal a chymorth, boed yr awdurdod yn diwallu unrhyw rai o'r anghenion hynny ai peidio ac;

·            sydd methu amddiffyn ei hun rhag y gamdriniaeth neu'r esgeulustod, neu'r risg o hynny, o ganlyniad i'r anghenion hynny.

Y diffiniad o blant a phobl ifanc yw unrhyw un nad yw wedi cyrraedd ei ben-blwydd yn 18 oed eto. Nid yw hyn yn eithrio person ifanc 16 oed sydd mewn Addysg Bellach, neu sy'n aelod o'r Lluoedd Arfog, yn yr ysbyty, mewn sefydliad i droseddwyr ifanc, neu yn y carchar. Amlinellir esboniad llawn o bob math o gam-drin ac esgeuluso yn Atodiad 1.


Deddfwriaeth, Polisi a Chanllawiau Cysylltiedig

Mae'r Cyngor wedi ymroi o hyd i Ddatganiad Hawliau Dynol 1945, Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plentyn, yn ogystal ag Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn.

Nod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) (2014) yw cryfhau ac adeiladu ar yr ymarfer diogelu presennol yng Nghymru i sicrhau bod pobl yn gallu byw eu bywydau i'r eithaf. Mae dyletswydd gyffredinol i hyrwyddo llesiant pobl sydd angen gofal a chymorth ynghyd â phwyslais ar rannu cyfrifoldeb a gweithio mewn partneriaeth. 

''Er mai'r Cyngor yw'r sefydliad sy'n gwneud ymholiadau i nodi a yw unigolyn yn wynebu risg o niwed, neu gamdriniaeth, ac i gydlynu ymateb, dylai fod yn glir fod Diogelu yn fusnes i bawb ac i'r perwyl hwn ni ellir cyflawni'r cyfrifoldeb hwn ar wahân i eraill a heb arweinyddiaeth glir ac atebol." Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. 

Yn y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, diffinnir llesiant trwy wyth agwedd, ac un ohonynt yw amddiffyn rhag camdriniaeth ac esgeulustod. Mewn perthynas â phlentyn, mae llesiant hefyd yn cynnwys ei ddatblygiad corfforol, deallusol, emosiynol, cymdeithasol ac ymddygiadol; a'i les (sicrhau ei fod yn cael ei gadw'n ddiogel rhag niwed). 

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chanllawiau Diogelu Corfforaethol Llywodraeth Cymru yn disgrifio’r trefniadau sydd ar waith y mae Cyngor yn eu gwneud i sicrhau bod ei holl gyflogeion yn cyfrannu i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant ac oedolion a allai fod yn wynebu risg o niwed. Mae hon yn ddogfen ganllaw sy'n helpu pawb sy'n gweithio dros wasanaethau'r Cyngor i ddeall sut y gallant chwarae rôl hanfodol wrth ddiogelu plant ac i gyflawni eu cyfrifoldebau o ran atal cam-drin plant ac oedolion, gan hyrwyddo eu llesiant. 

Ym mis Ionawr 2020 pasiodd y Senedd Ddeddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020 ("y Ddeddf") Llywodraeth Cymru. Y nod cyffredinol yw helpu i amddiffyn hawliau plant a rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn yng Nghymru. Nid yw'r newid yn y gyfraith yn creu trosedd newydd, yn hytrach mae'n dileu amddiffyniad cyfreithiol 160 oed - amddiffyniad cosb resymol - fel na ellir ei ddefnyddio gan unrhyw un sydd wedi'i gyhuddo o ymosodiad cyffredin ar blentyn. 

Y man cychwyn cyfreithiol i gyflawni’r amcan hwn yw dyletswydd gweithwyr proffesiynol i roi gwybod am honiadau o gam-drin ac esgeuluso. Mae’r gyfraith hefyd yn enwi’r Awdurdod Lleol fel yr awdurdod arweiniol ar gyfer gwneud ymholiadau i ganfod p'un a yw unigolyn mewn perygl ac i gydlynu’r ymateb i’w amddiffyn. Yn ymarferol nid yw hyn byth yn cael ei gyflawni ar wahân i eraill na heb arweinyddiaeth ac atebolrwydd clir ar gyfer y gwaith sydd wedi’i nodi yn yr un modd mewn cyfraith, ynghyd â’r ddyletswydd i gydweithredu a chydweithio ag eraill. 

Mae’r Cyngor yn cydnabod bod ymarfer da o ran diogelu yn dwyn ynghyd yr holl weithgarwch sydd wedi’i fwriadu i hybu ymarfer diogel gyda grwpiau agored i niwed ac atal pobl rhag cael eu cam-drin a’u hesgeuluso.

Dylai cyflogeion a chynghorwyr weithredu yn unol â’r Cod Ymddygiad proffesiynol perthnasol.

Mae Atodiad 2 yn cyflwyno rhagor o ddeddfwriaeth, polisïau a chanllawiau cysylltiedig.


Cyd-destun Strategol

Mae'r polisi yn ategu 6 gwerth craidd y Cyngor.

  • Un Tîm - Adnabod a chefnogi, Dtblygu a hyfforddi, Addasu i newid
  • Uniondeb - Arwain a Dirprwyo, Gwneud Penderfyniadau, Mynd I'r afael â Risg, Cynhwysiant a Gwerthoedd
  • Cwsmeriaid yn Gyntaf - Ffocws Cwsmeriaid, Datblygu Perthnasoedd a Gwasanaethau Dwyieithog, Parchu ein Hamgylchedd
  • Rhagori - Dysgu a​ Datblygu, Arloesi, Dadansoddi
  • Cymryd Cyfrifoldeb - Gweithredu, Rheoli Perfformiad, Canlyniadau o Ansawdd, Dangos Cyfrifoldeb
  • Gwrando - Cyfathrebu ag eraill, Deall eraill, Gwrando ar eraill

Mae'r Polisi hefyd yn cyd-fynd â strategaeth gorfforaethol y Cyngor a chyflawni ei 4 amcan llesiant sy'n canolbwyntio ar:

  • Dechrau’n Dda - Galluogi ein plant a'n pobl ifanc i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd
  • Byw a Heneiddio'n Dda - Galluogi ein trigolion i fyw a heneiddio'n dda
  • Cymunedau Ffyniannus - Galluogi ein cymunedau a'n hamgylchedd i fod yn iach, yn ddiogel ac yn ffyniannus
  • Ein Cyngor - Moderneiddio a datblygu ymhellach fel Cyngor cydnerth ac effeithlon

Mae'r polisi yn nodi dull ataliol sy'n sicrhau bod mesurau diogelu yn cael eu rhoi ar waith yn rhagweithiol i atal cam-drin ac esgeulustod rhag digwydd.

Mae angen gweithlu o unigolion cymwys ar y Cyngor sy'n gallu nodi achosion lle ceir sail dros bryder ynghylch lles plentyn neu oedolyn, a chychwyn neu gymryd camau priodol i'w cadw'n ddiogel.

Mae'r polisi yn gofyn am waith partneriaeth effeithiol rhwng pawb sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau i blant, pobl ifanc ac oedolion sy'n wynebu risg.


Llywodraethu

Mae'r cyfrifoldeb am fonitro effeithiolrwydd trefniadau diogelu corfforaethol ar draws Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ei ddirprwyo i'r Grŵp Diogelu Corfforaethol, sy'n cael ei gefnogi gan sawl grŵp cyflawni. 

Mae'r Grŵp Diogelu Corfforaethol yn atebol i'r 

  • Tîm Rheoli Corfforaethol
  • Pwyllgor Craffu Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Cabinet

Adrodd

Bydd y Grŵp Diogelu Corfforaethol yn cyflwyno diweddariad chwe-misol ar drefniadau a gweithgareddau Diogelu Corfforaethol i'r Tîm Rheoli Corfforaethol, yn ogystal ag adroddiad blynyddol i'r Pwyllgor Craffu Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Yn ogystal, fel partner statudol i Fwrdd Diogelu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru, bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn darparu diweddariad blynyddol sy'n amlinellu'r trefniadau corfforaethol sydd ar waith i ddiogelu plant ac oedolion sy'n wynebu risg.

Pwyllgor Craffu Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Rôl y Pwyllgor Craffu yw adolygu a chraffu ar benderfyniadau a gwneud adroddiadau neu argymhellion mewn cysylltiad â chyflawni unrhyw un o swyddogaethau'r Cyngor, boed hynny gan y Cabinet neu ran arall o'r Cyngor. 

Bydd y pwyllgor craffu Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn rhoi her adeiladol i'r Cyngor ynghylch ei weithgarwch diogelu corfforaethol mewn modd diduedd ac annibynnol. 

Lawrlwythwch y Strwythur Llywodraethu Diogelu Corfforaethol

Y Grŵp Diogelu Corfforaethol (Llywodraethu Diogel)

Mae'r Grŵp Diogelu Corfforaethol wedi ymrwymo i Lywodraethu Diogel dan arweiniad set ddiffiniedig o flaenoriaethau allweddol sydd wedi'u llywio gan arsylwadau'r Cabinet a Chraffu, archwilwyr mewnol ac allanol, a rheoleiddwyr. Mae'r blaenoriaethau hyn yn cael eu cyflawni a'u monitro gan grwpiau cyflawni diogelu corfforaethol, gyda phwyslais ar weithio mewn partneriaeth i sicrhau bod y Cyngor yn bodloni ei rwymedigaethau diogelu statudol. Bydd y grŵp yn gwirio bod gan bob maes gwasanaeth drefniadau diogelu cynhwysfawr sy'n destun archwilio a goruchwylio rheolaidd.

Bydd aelodau'r Grŵp Diogelu Corfforaethol yn chwarae rôl weithredol wrth sicrhau ei fod yn cyflawni ei amcanion. Bydd pob aelod o'r grŵp yn hyrwyddo diogelu o fewn ei gyfarwyddiaeth a'r sefydliad ehangach. Bydd aelodau yn gyfrifol am godi ymwybyddiaeth o gyfrifoldebau diogelu corfforaethol a sicrhau lefelau uchel o gydymffurfiaeth. Bydd gan bob aelod o'r grŵp fynediad brys at y Cyfarwyddwr Statudol, y Prif Weithredwr Cynorthwyol neu'r Aelod Arweiniol dros Ddiogelu os oes angen. Os bydd unrhyw aelod o'r grŵp yn methu mynychu cyfarfod, rhaid i'r aelod sicrhau bod swyddog priodol yn bresennol yn ei le. Mae'n rhaid rhoi gwybodaeth briodol i'r swyddog sy'n dirprwyo, ac mae'n rhaid ei fod yn gallu cyfrannu'n llawn at y cyfarfod.

Bydd y Grŵp Diogelu Corfforaethol yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol a fydd yn nodi newidiadau mewn themâu a'r dysgu a strategaethau a weithredir i fynd i'r afael â'r newidiadau hynny, yn tynnu sylw at berfformiad y Cyngor wrth gydymffurfio â'r Polisi Diogelu Corfforaethol, ac yn adrodd ar berfformiad diogelu pob maes gwasanaeth.  Bydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Craffu Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol drwy'r Tîm Rheoli Corfforaethol.

Bydd Cadeirydd y Grŵp Diogelu Corfforaethol yn rhoi gwybod i Fwrdd Diogelu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru am unrhyw faterion brys sy'n codi neu themâu sy'n dod i'r amlwg a allai fod yn berthnasol i'r rhanbarth ac ar draws asiantaethau.

Bydd aelodau'r Grŵp Diogelu Corfforaethol yn cynnwys y swyddogion canlynol-

·            Cadeirydd - Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai (Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol) 

·            Aelod Arweiniol dros Ddiogelu Corfforaethol (Iechyd Integredig a Gwasanaethau Cymdeithasol Plant ac Oedolion)

·            Y Prif Weithredwr Cynorthwyol - Rheoli Pobl a Pherfformiad 

·            Cyfarwyddwr Addysg a Hamdden 

·            Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd  

·            Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion

·            Rheolwr Gwasanaeth Amddiffyn Plant (Swyddog Dynodedig yr Awdurdod Lleol)

·            Uwch-reolwr Amddiffyn Oedolion (Swyddog Dynodedig yr Awdurdod Lleol)

·            Cynrychiolwyr Diogelu Dynodedig y Gyfarwyddiaeth

·            Cadeirydd y Grŵp Cyflawni - Partneriaethau Diogel

·            Cadeirydd y Grŵp Cyflawni - Gweithlu a Gweithle Diogel

·            Cadeirydd y Grŵp Cyflawni - Ymarfer a Pherfformiad Diogel

·            Cadeirydd y Grŵp Cyflawni - Grŵp Gweithredol Lleol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (I'w gadarnhau) 

Bydd Swyddogion eraill yn cael eu cyfethol yn ôl yr angen a chytunir arnynt gan y grŵp.

Mae cylch gorchwyl y Grŵp Diogelu Corfforaethol i'w weld yn Atodiad 3.

Bydd cymorth busnes dynodedig yn cael ei ddarparu.

Caiff y Grŵp Diogelu Corfforaethol ei gefnogi gan bedwar Grŵp Cyflawni, pob un â'i feysydd ffocws allweddol ei hun. Bydd y grwpiau cyflawni yn cwrdd bob chwarter a byddant yn adrodd wrth y Grŵp Diogelu Corfforaethol. Cadeirydd y grwpiau fydd uwch-swyddog a fydd yn sicrhau bod y meysydd blaenoriaeth, y cynlluniau gweithredu a'r mesurau perfformiad cysylltiedig yn cael eu goruchwylio'n gadarn. Rhestrir rhai o’r prif feysydd ffocws isod:

Grŵp Cyflawni Gweithle / Gweithlu Diogel

 

·            Diogelu fel cyfrifoldeb ar bawb.

·            Recriwtio diogel

·            Dadansoddi anghenion hyfforddi

·            Darparu Hyfforddiant

·            Polisïau'r Gweithlu a'r Gweithle

·            Polisi/gwiriadau'r DBS    

·            Contractau Allanol / Gwirfoddolwyr  

·            Rolau a chyfrifoldebau

·            Codi ymwybyddiaeth/cyfathrebu. 

·            Rhoi gwybod am gam-drin ac esgeuluso

 

Grŵp Cyflawni Ymarfer a Pherfformiad Diogel

 

·            Diogelu fel cyfrifoldeb ar bawb

·            Polisïau Diogelu

·            Mesurau Perfformiad

·            Archwiliadau / arolygiad

·            Adolygu a Monitro

·            Ymgorffori Dysgu ar y Cyd

·            Rhannu gwybodaeth

·            Camau gwella / Ymarfer da

·            Ymyrraeth Gynnar/Atal

·            Llais y Plentyn/Oedolyn / gwneud diogelu'n bersonol.

·            Eiriolaeth

·            Cynnwys defnyddwyr gwasanaeth / adborth

·            Cyfathrebu

 

Grŵp Cyflawni Partneriaethau Diogel

A elwir hefyd yn Grŵp Gweithredol Lleol Sir Gaerfyrddin (CLOG)

Mae Grŵp Gweithredol Lleol Sir Gaerfyrddin yn adrodd wrth Fwrdd Diogelu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru, a dyma'r grŵp amlasiantaeth gweithredol ar gyfer diogelu oedolion a phlant. 

Rhan o gylch gwaith Grŵp Gweithredol Lleol Sir Gaerfyrddin yw cydweithio i sicrhau bod trefniadau diogelu ar y cyd yn gweithredu'n effeithiol yn Sir Gaerfyrddin. 

Mae aelodau'r Grŵp Gweithredol Lleol yn cynnwys rheolwyr ac ymarferwyr ym maes Gwasanaethau Cymdeithasol, Addysg, Addysg Uwch ac Addysg Bellach, Iechyd, yr Heddlu, y Gwasanaeth Prawf a'r Sector Gwirfoddol. 

 

Ei brif feysydd ffocws yw:

 

·            Systemau a Phrosesau Diogelu Amlasiantaeth

·            Cydweithio â Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru

·            Adolygiadau Diogelu Unedig Sengl

·            Data/Gwybodaeth Sicrhau Ansawdd

·            Llais yr Oedolyn a'r Plentyn

·            Polisïau a Gweithdrefnau Amlasiantaeth

·            Hyfforddiant Amlasiantaeth

·            Archwiliadau Amlasiantaeth

·            Perfformiad ac Adolygiadau Amlasiantaeth

Grŵp Gweithredol Lleol Sir Gaerfyrddin (Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig, Trais Rhywiol -VAWDASV-LOG)

·            Ymagwedd Amlasiantaeth at fynd i'r afael â Thrais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

·            Sefydlu Dysgu o Adolygiadau Dynladdiad Domestig

·            Nodi Blaenoriaethau Lleol/anghenion heb eu diwallu

·            Datblygu Strategaeth Leol/Cynllun Gweithredu

·            Llais Goroeswyr

·            Cysylltu â Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru

Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru 

 

Sefydlwyd trefniadau'r Bwrdd Diogelu Rhanbarthol i fodloni gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cwmpasu dros hanner tir Cymru, ac mae'n ffinio â 9 sir yng Nghymru, yn ogystal â siroedd yn Lloegr.

 

Mae swyddogaethau statudol y bwrdd yn cael eu cyflawni gan Awdurdodau Lleol Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro, a Phowys, Heddlu Dyfed-Powys, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Bwrdd Iechyd Cymru a'r Gwasanaeth Prawf (Cymru). Gall y bwrdd hefyd gynnwys personau neu gyrff eraill y mae o'r farn y dylai fod ganddynt gynrychiolaeth ac sy'n ymwneud â gweithgareddau neu swyddogaethau cysylltiedig â phlant neu oedolion yn ei ardal.

 

Mewn ymateb i boblogaeth a daearyddiaeth amrywiol y rhanbarth, mae CYSUR a CWMPAS yn cydnabod yr angen i gynnal ffocws lleol a rhanbarthol. Y diben rhanbarthol yw cydgysylltu cyfeiriad strategol, cydweithio, cysondeb a gwelliant ymarfer diogelu ar draws y rhanbarth. Y diben lleol yw cydlynu ymarfer lleol, a gweithio tuag at sicrhau trefniadau lleol effeithiol i ddiogelu a hyrwyddo llesiant oedolion sy'n wynebu risg, plant a phobl ifanc.

 

Mae gan y Bwrdd gyfrifoldeb cyffredinol dros herio asiantaethau partner perthnasol mewn perthynas â'r mesurau sydd ar waith i amddiffyn plant ac oedolion sy'n wynebu risg. Mae'n rhaid iddo gyhoeddi cynllun blynyddol ac adroddiad blynyddol fel rhan o'i drefniadau llywodraethu ac atebolrwydd.

 

Mae'r cynllun blynyddol yn amlinellu blaenoriaethau, canlyniadau a gweithgareddau arfaethedig y Bwrdd am y flwyddyn sydd i ddod. Mae'r adroddiad blynyddol yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y cynllun yn ystod y cyfnod adrodd perthnasol.

Mae gan Fwrdd Diogelu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru ddwy ffrwd waith benodol, un ar gyfer plant (CYSUR) ac un ar gyfer oedolion (CWMPAS). Caiff y ddwy eu goruchwylio gan fwrdd rhanbarthol cyfunol sy'n cwrdd bob chwarter. 

CYSUR yw Bwrdd Diogelu Plant Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru. Mae'n acronym ar gyfer 'Child and Youth Safeguarding; Unifying the Region', ac wrth gwrs mae hefyd yn air Cymraeg cyfarwydd. Mae CYSUR yn gyfuniad o'r hen Fyrddau Diogelu Plant Lleol yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys. 

CWMPAS yw Bwrdd Diogelu Oedolion Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru. Dyma air Cymraeg sydd hefyd yn Saesneg yn acronym ar gyfer 'Collaborative Working and Maintaining Partnership in Adult Safeguarding'. Mae CWMPAS hefyd yn ymestyn ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys. 

Gyda'i gilydd caiff CYSUR a CWMPAS eu hadnabod fel Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru.

CADW 

yw'r Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Iau ac mae'n acronym ar gyfer 'Children taking Action Differently in Wales'. Mae pobl ifanc o  Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys yn rhan o CADW a'r nod yw:

·           Sicrhau bod gan bobl ifanc ddealltwriaeth o ddiogelu

·           Cynyddu ymwybyddiaeth a rhannu barn pobl ifanc

·           Gweithio ar ran pobl ifanc ar draws y pedair sir

·           Herio penderfyniadau'r Bwrdd Diogelu Rhanbarthol 

Bwrdd Strategol Rhanbarthol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV)

Wedi'i sefydlu fel gofyniad statudol o fewn Deddf VAWDASV 2015 i arwain gweithredu'r Ddeddf yn strategol yn rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn bartner statudol allweddol ar y Bwrdd, yn cyfrannu'n llawn at ei ffrydiau gwaith, ac yn sicrhau cysondeb da rhwng y Bwrdd a rhaglenni gwaith y Cyngor.

 


Rolau a Chyfrifoldebau

Mae dyletswydd ar yr holl gyflogeion (gan gynnwys asiantaethau, ymgynghorwyr a darparwyr a gomisiynir) i roi gwybod am bryderon ynghylch cam-drin ac esgeuluso.

Gan y Gwasanaethau Plant mae'r cyfrifoldeb am dderbyn ac ymateb i bryderon ynghylch Plant a Phobl Ifanc, a chan y Gwasanaethau Oedolion mae'r cyfrifoldeb am dderbyn ac ymateb i bryderon am oedolion sy’n wynebu risg. Dylid rhoi gwybod am bob pryder diogelu i Dîm Atgyfeiriadau Canolog y Gwasanaethau Plant (CRT) neu'r Tîm Diogelu Oedolion.

Mae pob Rheolwr Adrannol awdurdod lleol yn gyfrifol am y canlynol: 

 

·            recriwtio cyflogeion/gwirfoddolwyr yn unol â’r polisi Adnoddau Dynol perthnasol, gan gynnwys (lle y bo’n ofynnol) gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

·            sicrhau bod diogelu’n rhan o raglen sefydlu pob cyflogai/gwirfoddolwr.

·            adnabod cyflogeion/gwirfoddolwyr sy’n debygol o ddod i gysylltiad â phlant neu oedolion sy’n wynebu risg fel rhan o’u rôl.

·            sicrhau bod hyfforddiant yn cael ei ddarparu yn gymesur â’r rôl.

·            sicrhau bod yr holl gyflogeion/gwirfoddolwyr yn ymwybodol sut i roi gwybod am bryderon ynghylch diogelu ac i bwy

·            sicrhau bod yr holl gyflogeion/gwirfoddolwyr yn ymwybodol o Bolisi Datgelu Camarfer y Cyngor

·            sicrhau bod cyflogeion/gwirfoddolwyr yn ymwybodol bod rhaid iddynt ymddwyn mewn modd sy’n diogelu ac yn hybu llesiant plant ac oedolion sy’n wynebu risg.

·            rhoi arweiniad i gyflogeion/gwirfoddolwyr am bryderon diogelu fel y bo’n ofynnol.

 

Bydd Comisiynwyr Gwasanaeth yn gyfrifol am sicrhau bod trefniadau contractiol yn nodi cyfrifoldebau o ran diogelu yn unol â'r polisi hwn a threfniadau comisiynu presennol. Mae'n hanfodol fod y polisïau hyn yn cael eu rhoi ar waith a'u monitro, ac y rhoddir gwybod am unrhyw bryderon ac y gweithredir yn eu cylch yn briodol.

Mae contractwyr, is-gontractwyr neu sefydliadau eraill a ariennir gan y Cyngor neu ar ei ran yn gyfrifol am drefnu archwiliadau drwy'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (lle bo'r angen) ac am sicrhau bod eu staff yn cydymffurfio â threfniadau rheoleiddiol a chontractiol yn ymwneud â diogelu plant ac oedolion. Mae contractwyr hefyd yn gyfrifol am hysbysu rheolwyr perthnasol yn y Cyngor ynghylch unrhyw bryderon a all fod ganddynt a'u hatgyfeirio i Ddiogelu. 

Bydd disgwyl i'r holl aelodau etholedig fynychu hyfforddiant mewn perthynas â diogelu plant ac oedolion sy'n wynebu risg ac anghenion hyfforddiant diogelu ychwanegol fel y nodwyd. 

Mae dyletswydd ar yr holl weithwyr, cynghorwyr a gwirfoddolwyr i roi gwybod am bryderon am gam-drin ac esgeuluso. Nid mater o ddewis personol yw hyn.

 Rolau Arweinyddiaeth Uwch


Cydnabod pryderon ac ymateb iddynt

Dylai pob gweithiwr fod yn effro i'r posibilrwydd o gam-drin. Gall unigolyn bryderu am ddiogelwch neu lesiant unigolyn mewn sawl ffordd:

 

·            Efallai y bydd y person yn dweud wrthych.

·            Efallai y bydd y person yn dweud rhywbeth sy'n peri pryder i chi.

·            Efallai y bydd trydydd parti yn lleisio pryderon.

·            Efallai y byddwch yn gweld rhywbeth – digwyddiad neu anaf neu arwydd arall.

Gall staff, gwirfoddolwyr a chontractwyr fod yn 'llygaid a chlustiau' y Cyngor, wrth iddynt wneud eu swyddi o ddydd i ddydd, oherwydd mae diogelu yn gyfrifoldeb ar bawb. Dyma enghreifftiau o'r rhain: 

  • Swyddogion Tai – mae sawl adolygiad o blant ac oedolion sy'n cael eu niweidio wedi nodi pwysigrwydd Swyddogion Tai, sydd â mewnwelediad unigryw i fywydau teuluoedd ac sy'n gallu adnabod arwyddion o gamdriniaeth, esgeulustod neu gamfanteisio.
  • Rheoli Gwastraff – mae casglwyr sbwriel yn mynd i'r un tai a chymunedau bob wythnos a gallant sylwi pryd y gallai plentyn fod yn dioddef neu mewn perygl o gamdriniaeth
  • Parciau a Gerddi – gall staff neu gontractwyr fod yn effro i fannau lle mae plant a phobl ifanc yn ymgynnull, ac adnabod ymddygiadau sy'n peri pryder a allai ddangos bod rhyw fath o gamdriniaeth neu gamfanteisio yn digwydd
  • Iechyd yr Amgylchedd – yn ystod eu gwaith o ddydd i ddydd wrth arolygu safleoedd, gall swyddogion ystyried materion diogelu y gallent ddod ar eu traws, mewn safleoedd trwyddedig, gwestai neu gartrefi pobl.

Mae gan unrhyw berson sy'n gyfrifol am blant neu oedolion sydd mewn perygl neu sy'n gweithio gyda nhw, mewn unrhyw swydd boed yn gyflogedig neu'n ddi-dâl, ddyletswydd gofal tuag atynt yn gyfreithiol ac yn gontractiol ac fel dinesydd moesol cyfrifol. Mae hyn yn cynnwys dyletswydd i ymddwyn mewn modd nad yw'n bygwth pobl, yn eu niweidio neu'n eu rhoi mewn perygl o niwed gan eraill.

Mae gan bob rhan o'r gweithlu gyfrifoldeb i ymddwyn yn eu bywydau preifat mewn modd nad yw'n peryglu eu sefyllfa yn y gweithle neu sy'n codi cwestiynau ynglŷn â pha mor addas ydynt i weithio gyda phlant neu oedolion sydd mewn perygl. Mae hyn yn eglur yng Ngweithdrefnau Diogelu Cymru (Adran 5).

Mae'r ddyletswydd i roi gwybod yn ofyniad cyfreithiol a bydd methu â rhoi gwybod yn briodol yn cael ei ystyried yn fater difrifol.

 

Nid cyfrifoldeb unrhyw un unigolyn yw penderfynu a yw cam-drin wedi digwydd ai peidio neu a yw unigolyn mewn perygl o niwed; fodd bynnag, mae ganddo gyfrifoldeb i weithredu os oes ganddo unrhyw bryderon.

 

Nid rôl Cynghorau yn unig yw diogelu plant ac oedolion, mae'n gofyn am weithio amlasiantaeth effeithiol a chydweithrediad y gymuned ehangach ac asiantaethau partner, i ddatblygu a gweithredu gweithgarwch cydlynol, gan ddefnyddio tystiolaeth a gwybodaeth leol, a gaiff ei rhannu'n briodol. Mae gan gynghorau rôl arweinyddiaeth ac eiriolaeth unigryw yn lleol ac yn gymunedol, gan weithio ochr yn ochr â'r gymuned, yr heddlu a chyrff cyhoeddus eraill, i sicrhau bod plant, pobl ifanc ac oedolion yn aros yn ddiogel yn y mannau lle maent yn byw ac yn cwrdd.

 

Ni ddylid ystyried bod cam-drin yn digwydd yng nghartref y teulu yn unig. Mae angen deall ac ymateb hefyd i risg a niwed y tu allan i gartref y teulu, er mwyn creu mannau diogel i bobl Sir Gaerfyrddin.


Delio â phryder diogelu

  • Peidiwch â chynhyrfu a gwrandewch yn ofalus, rhowch dawelwch meddwl i'r plentyn, y person ifanc neu'r oedolyn.
  • Defnyddiwch wrando adfyfyriol a gofynnwch gwestiynau anfeirniadol agored – (beth, pwy, ble, pryd).
  • Peidiwch ag addo i'r plentyn neu oedolyn y byddwch yn cadw'r mater yn gyfrinachol.
  • Cofnodwch (yng ngeiriau'r person).
  • Gofynnwch am gyngor pellach gan eich Arweinydd Diogelu Dynodedig neu'ch gwasanaethau cymdeithasol os oes angen.
  • Esboniwch wrth y rhieni/unigolyn/gofalwr/teulu eich bod yn atgyfeirio'ch pryder ac yn cael caniatâd i wneud hynny, oni bai eich bod yn credu y byddwch trwy wneud hynny yn rhoi'r plentyn neu'r oedolyn mewn mwy o berygl o niwed.

Rhoi gwybod am bryder

Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch diogelwch plentyn, person ifanc neu oedolyn, yna rhaid i chi roi gwybod i'ch Arweinydd Diogelu Dynodedig a/neu gysylltu â Thimau Atgyfeirio Canolog y Gwasanaethau Plant neu Oedolion.

Y Timau Atgyfeirio Canolog yw'r pwynt cyswllt cychwynnol i bobl sy'n chwilio am wasanaethau a gweithgareddau ar gyfer plant, teuluoedd ac oedolion yn lleol neu sydd am gael cyngor ac arweiniad ar sut i gael cymorth ychwanegol, neu i godi mater neu bryder ynghylch lles plentyn, person ifanc neu oedolyn.

Bydd staff yn y timau hyn yn sicrhau bod unrhyw faterion trawsffiniol yn cael eu harchwilio ac yn gwneud ymholiadau yn ôl yr angen fel rhan o'u dyletswyddau.

Os yw pryder yn ymwneud â phlentyn, cysylltwch â Thîm Atgyfeirio'r Gwasanaethau Plant (Gwasanaethau Plant) ar 01554 742322.

Os yw'r pryder yn ymwneud ag oedolyn, cysylltwch â Thîm Cyngor ac Asesu'r Gwasanaethau Oedolion (Llesiant Delta) ar 0300 333 22222.

Dylid cysylltu â Thîm y Tu Allan i Oriau Arferol y Gwasanaethau Cymdeithasol ar 0300 333 2222 os yw’r mater yn codi ar ôl 5:00pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener ac ar benwythnosau a Gwyliau Banc.

Rhaid cysylltu â’r Heddlu ar unwaith os yw plentyn neu oedolyn mewn perygl, neu os cyflawnwyd trosedd.

Gall gweithwyr hefyd gysylltu â: Swyddogion Dynodedig yr Awdurdod Lleol

Plant - Rebecca Robertshaw, LADO@sirgar.gov.uk
Oedolion - Cathy Richards, LADO@sirgar.gov.uk

 


Monitro ac Adolygu

Mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin fframwaith llywodraethu effeithiol. Bydd y Grŵp Diogelu Corfforaethol yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol a fydd yn tynnu sylw at berfformiad y Cyngor o ran cydymffurfio â’r Polisi Diogelu Corfforaethol.

Bydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Tîm Rheoli Corfforaethol, y Pwyllgor Craffu Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Cabinet a bydd yn rhoi cyfle i herio'r gwaith a wnaed.

Bydd y Polisi Diogelu Corfforaethol yn cael ei adolygu ddwywaith y flywddyn.


Atodiad 1 -Beth yw Camdriniaeth?

Mae Adran 197(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 Adran 7 yn darparu diffiniadau o ‘cam-drin’ ac ‘esgeuluso’:

Ystyr "cam-drin" yw cam-drin corfforol, rhywiol, seicolegol, emosiynol neu ariannol (ac mae’n cynnwys cam-drin sy’n digwydd mewn unrhyw leoliad, p’un ai mewn annedd breifat, mewn sefydliad neu mewn unrhyw fan arall).

Mae’r canlynol yn rhestr anghynhwysfawr o enghreifftiau ar gyfer pob categori cam-drin ac esgeuluso: 

Cam-drin corfforol

Cam-drin rhywiol 

Cam-drin seicolegol

Cam-drin ariannol

Esgeuluso

Dylid cofio bod Diogelu yn gyfrifoldeb ar bawb ac y gall unrhyw unigolyn roi gwybod am bryder i'r Gwasanaethau Cymdeithasol. Ni all gweithwyr proffesiynol aros yn ddienw wrth wneud atgyfeiriadau.

Plant - Categorïau a dangosyddion cam-drin ac esgeuluso

Mae plentyn yn cael ei gam-drin neu ei esgeuluso pan fydd rhywun yn achosi niwed iddo neu'n methu â gweithredu i atal niwed. Gall plant gael eu cam-drin mewn teulu neu mewn lleoliad sefydliadol neu gymunedol, gan bobl y maent yn eu hadnabod neu, yn fwy prin, gan rywun dieithr. Gall plentyn neu berson ifanc hyd at 18 oed gael ei gam-drin neu ei esgeuluso a gall fod angen ei amddiffyn trwy gynllun amddiffyn plant rhyngasiantaethol. 

 

Diogelu plant mewn addysg

Bydd pob ysgol wedi dynodi Athro Dynodedig Amddiffyn Plant gyda chyfrifoldeb am ddiogelu ac amddiffyn plant. Bydd gan bob ysgol ei pholisi amddiffyn plant ei hun hefyd. Bydd y polisi’n nodi personél allweddol. Dylid hysbysu’r Athro Dynodedig Amddiffyn Plant neu’r dirprwy yn absenoldeb yr Athro Dynodedig Amddiffyn Plant ynghylch unrhyw bryderon am ddiogelu.

Dylai staff sicrhau eu bod yn cadw cofnodion llawn a chywir o’u pryderon, gan gynnwys manylion unrhyw ddatgeliadau, a dylent gynnwys camau a gymerwyd, e.e. ‘wedi atgyfeirio at yr Athro Dynodedig Amddiffyn Plant’. Mae cadw cofnodion yn allweddol bwysig wrth ymdrin â diogelu a dylai cofnodion fod yn glir, yn fanwl a gwahaniaethu rhwng ffeithiau a barn.

Rhaid i gofnodion wastad gynnwys enw’r plentyn, dyddiad y digwyddiad/pryder, enw llawn y person sy’n gwneud y cofnod a manylion y cam gweithredu a gymerwyd a’r bobl y siaradwyd gyda hwy.

Er mai’r Athro Dynodedig Amddiffyn Plant yw’r person â chyfrifoldeb am amddiffyn a diogelu plant, os oes gan aelod o staff bryderon nad yw mater wedi cael sylw gall wneud atgyfeiriad ei hun.

Dylid cofio bod Amddiffyn Plant yn gyfrifoldeb ar bawb ac y gall unrhyw unigolyn wneud atgyfeiriad at dîm asesu’r gwasanaethau plant. Ni all gweithwyr proffesiynol aros yn ddienw wrth wneud atgyfeiriadau.


Atodiad 1 parhad - Oedolion sy'n Wynebu Risg - Categorïau a dangosyddion camdriniaeth

 

Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV)
Caiff ystod o fathau o drais eu cydnabod o dan y term Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol. Defnyddir llawer o'r termau hyn fel termau ymbarél, ac nid ydynt yn annibynnol ar ei gilydd, mae'r rhain yn cynnwys:

Trais ar Sail Rhywedd (GBV)
Mae trais ar sail rhywedd yn golygu trais sy'n cael ei gyfeirio at berson yn seiliedig ar rywedd. Mae'n torri'r hawl sylfaenol i fywyd, rhyddid, diogelwch, urddas,cydraddoldeb rhwng menywod a dynion, peidio â gwahaniaethu ac uniondeb corfforol a meddyliol (Cyngor Ewrop, 2011).

Trais rhwng partneriaid agos
Mae trais rhwng partneriaid agos yn ymddygiad gan bartner agos neu gynbartner sy'n achosi niwed corfforol, rhywiol neu seicolegol, gan gynnwys ymddygiad ymosodol corfforol, gorfodaeth rywiol, cam-drin seicolegol, cam-drin economaidd ac ymddygiadau rheoli (Sefydliad Iechyd y Byd, 2017)

Trais a cham-drin domestig
Defnyddir y term trais a cham-drin domestig i gyfeirio at drais mewn lleoliad domestig, gan gynnwys trais rhwng partneriaid agos, ond gall y term hefyd gwmpasu trais plentyn i riant neu gam-drin pobl hŷn neu gamdriniaeth gan unrhyw aelod o deulu neu aelwyd.

Trais a cham-drin rhywiol
Mae trais rhywiol, ymosodiad rhywiol neu aflonyddu rhywiol yn cynnwys unrhyw weithred rywiol, ymgais i gael gweithred rywiol, neu weithred arall a gyfeirir yn erbyn rhywioldeb unigolyn gan ddefnyddio gorfodaeth, gan unrhyw berson beth bynnag yw ei berthynas â'r dioddefwr, mewn unrhyw leoliad (Sefydliad Iechyd y Byd, 2012b). Gall gweithredoedd treisgar rhywiol ddigwydd mewn amrywiaeth o leoliadau a gallant gynnwys treisio o fewn priodas neu o fewn perthynas; trais gan ddieithriaid; cam-drin plant yn rhywiol; puteindra gorfodol neu fasnachu pobl at ddibenion camfanteisio rhywiol ac aflonyddu rhywiol (Krug et al., 2002).

Rheolaeth drwy orfodaeth
Mae rheolaeth drwy orfodaeth yn weithred neu'n batrwm o weithredoedd o ymosod, bygythiadau, bychanu a dychrynu neu gam-drin arall a ddefnyddir i niweidio, cosbi neu ddychryn y dioddefwr. Mae'r ymddygiad rheoli hwn wedi'i fwriadu i wneud person yn ddibynnol trwy eu hynysu rhag cymorth, camfanteisio arnynt, eu hamddifadu o annibyniaeth a rheoli eu hymddygiad bob dydd (Cymorth i Fenywod, 2020b). Mae rheolaeth drwy orfodaeth yn aml yn cynnwys trais corfforol a gorfodaeth rywiol ac mae tystiolaeth bod achosion sy'n ymwneud â rheoli drwy orfodaeth yn fwy tebygol o arwain at niwed difrifol, gan gynnwys lladdiad domestig, nag achosion sy'n cynnwys gweithredoedd ar wahân o drais corfforol (Myhill and Hohl, 2019)

Priodas dan Orfod
Priodas dan orfod yw pan nad yw un o'r ddau berson neu'r ddau ohonynt yn cydsynio i'r briodas (neu mewn achosion o bobl sydd â rhai anableddau dysgu, pan nad ydynt yn gallu gwneud hynny) a bod pwysau neu gamdriniaeth yn cael ei ddefnyddio. Caiff ei gydnabod fel math o drais yn erbyn menywod a dynion, cam-drin domestig/cam-drin plant, math o gaethwasiaeth fodern, a throsedd difrifol yn erbyn hawliau dynol.

Priodas plentyn
Mewn perthynas â phriodas plentyn, ystyrir nad yw unrhyw blentyn (o dan 18 oed) yn gallu dewis priodi o'i wirfodd. Mae cymhlethdodau'n codi pan fo hawl gyfreithiol i blentyn briodi'n gynharach (o 16 oed) gyda chaniatâd rhiant, fel yn y DU.

Cam-drin ar sail anrhydedd fel y’i gelwir
I rai cymunedau, ystyrir bod y cysyniad o 'anrhydedd' yn hynod bwysig, mae peryglu 'anrhydedd' teulu yn dod ag amarch a chywilydd a gall hyn arwain at ganlyniadau difrifol. Gall y gosb am ddod ag amarch fod yn gam-drin emosiynol, cam-drin corfforol, diarddel o'r teulu ac mewn rhai achosion hyd yn oed llofruddiaeth. Yn y rhan fwyaf o achosion o gam-drin ar sail anrhydedd fel y'i gelwir mae sawl un yn cyflawni'r trosedd.

Anffurfio Organau Cenhedlu Menywod (FGM)
Mae anffurfio organau cenhedlu benywod (FGM) yn cynnwys pob arfer sy'n cynnwys tynnu organau cenhedlu allanol benywod yn rhannol neu'n llwyr, achosi anaf arall iddynt, neu newid organau cenhedlu benywod am resymau anfeddygol.

Caethwasiaeth Fodern/Masnachu Pobl
Mae caethwasiaeth fodern yn drosedd difrifol sy'n torri hawliau dynol. Mae’r troseddau hyn yn cynnwys dal person mewn swydd o gaethwasiaeth, caethwasanaeth, llafur dan orfodaeth neu orfodol, neu hwyluso ei daith gyda’r bwriad o gamfanteisio arno’n fuan wedyn. Caiff dioddefwyr eu gorfodi, eu bygwth neu eu twyllo i sefyllfaoedd o ddarostyngiad, diraddiad a rheolaeth sy'n tanseilio eu hunaniaeth bersonol a'u hymdeimlad o'r hunan. O fewn hyn, mae masnachu pobl yn cynnwys camfanteisio gorfodol ar eraill, fel arfer at ddibenion rhywiol neu lafur.

Er bod masnachu mewn pobl yn aml yn cynnwys elfen drawsffiniol, mae hefyd yn bosibl bod yn ddioddefwr caethwasiaeth fodern yn eich gwlad eich hun. Mae’n bosibl bod yn ddioddefwr hyd yn oed os rhoddwyd cydsyniad i gael eich symud.

Ni all plant roi cydsyniad i rywun gamfanteisio arnynt, felly nid oes angen i’r elfen o orfodaeth neu dwyll fod yn bresennol i brofi bod trosedd wedi digwydd.

Aflonyddu rhywiol
Caiff aflonyddu rhywiol ei ddiffinio fel ymddygiad rhywiol digroeso. Mae hyn yn cynnwys derbyn negeseuon e-bost neu negeseuon testun digroeso a/neu anweddus, neu gynigion anweddus a/neu amhriodol ar wefannau rhwydweithio cymdeithasol

Trais mewn perthnasoedd ymhlith pobl ifanc.
Mae trais mewn perthnasoedd ymhlith pobl ifanc, a elwir hefyd yn gam-drin mewn perthnasoedd ymhlith pobl ifanc, yn cyfeirio at gam-drin partner mewn perthynas neu bartner rhywiol yn emosiynol, yn gorfforol neu'n rhywiol lle mae o leiaf un person yn ei arddegau.

Troseddau Casineb
Ystyr Digwyddiad Casineb yw unrhyw ddigwyddiad y mae’r dioddefwr, neu unrhyw un arall, yn meddwl ei fod yn seiliedig ar ragfarn rhywun tuag at y dioddefwr oherwydd ei hil, ei grefydd, ei gyfeiriadedd rhywiol, ei anabledd neu am ei fod yn drawsryweddol.

Ceir rhagor o wybodaeth am Droseddau Casineb (gan gynnwys sut i roi gwybod am drosedd casineb) ar wefan Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Sir Gaerfyrddin. Troseddau Casineb.


Atodiad 2 - Canllawiau / Deddfwriaeth Berthnasol

·            Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014

·            Gweithdrefnau Diogelu Cymru 2019

·            Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru - Diogelu Corfforaethol - Canllaw Ymarfer Da

·            Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol (Cymru) 2020

·            Deddf Addysg 2002

·            ‘Cadw Dysgwyr yn Ddiogel 2020' - Rôl awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu a pherchnogion ysgolion annibynnol dan Ddeddf Addysg 2002

·            Deddf Plant 1989 a 2004

·            Gweithio Gyda'n Gilydd i Ddiogelu Pobl - Cyfrolau 5 a 6

·            Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006

·            Adran 17 o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998

·            Deddf Galluedd Meddyliol 2005

·            Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid a gyflwynwyd yn Neddf Galluedd Meddyliol (Diwygio) 2019

·            Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015

·            Deddf Tai 2004

·            Deddf Trwyddedu 2003

·            Deddf Hawliau Dynol 1998

·            Canllawiau Prevent y Swyddfa Gartref – Deddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015

·            Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2017


Adodiad 3 - Grŵp Diogelu Corfforaethol (Llywodraethu Diogel) Cylch Gwaith

Mae Diogelu Corfforaethol yn disgrifio’r trefniadau sydd ar waith y mae Cyngor yn eu gwneud ac i sicrhau bod ei gyflogeion i gyd yn chwarae eu rhan i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant ac oedolion a all fod yn wynebu risg o niwed. (Diogelu Corfforaethol: Canllawiau Ymarfer Da, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru/Llywodraeth Cymru) 

Mae'r Grŵp Diogelu Corfforaethol yng Nghyngor Sir Caerfyrddin wedi'i sefydlu i sicrhau bod diogelu yn cael ei roi'n gadarn ar agenda'r awdurdod cyfan, ac nid dim ond y gwasanaethau hynny sydd â dyletswyddau amlwg a chlir mewn perthynas â diogelu plant ac oedolion sy'n wynebu risg.

Mae diogelu yn gyfrifoldeb ar bawb, a nod y grŵp yw hyrwyddo a chynnal ei bwysigrwydd ar draws pob cyfarwyddiaeth, gan ymgorffori egwyddorion diogelu craidd ar lefel gorfforaethol. 

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ymrwymo i gyrraedd y safonau uchaf o ymarfer diogelu ar draws y sefydliad cyfan, ac mae'r Grŵp Diogelu Corfforaethol, gyda'i aelodaeth o uwch-swyddogion a'r aelod cabinet arweiniol dros Ddiogelu, a chefnogaeth ei grwpiau cyflawni diogelu cysylltiedig, yn allweddol i gyflawni'r nod hwn. 

Nodau ac Amcanion

 

Bydd y Grŵp Diogelu Corfforaethol yn:

 

·            Rhoi sicrwydd i'r Cabinet a'r Prif Weithredwr fod gweithdrefnau corfforaethol y Cyngor ar draws y sefydliad gyfer diogelu plant ac oedolion sy'n wynebu risg yn gadarn ac yn effeithiol.

·            Arwain ac yn cyfeirio'r Cyngor mewn perthynas â threfniadau diogelu corfforaethol, gan sicrhau bod diogelwch a llesiant plant ac oedolion sy'n wynebu risg yn parhau i fod yn flaenoriaeth gorfforaethol.

·            Sicrhau bod yr holl weithwyr, gwirfoddolwyr, aelodau etholedig a gwasanaethau dan gontract yn deall eu cyfrifoldebau unigol a chyfunol dros gadw plant ac oedolion yn ddiogel.

·            Cefnogi swyddogaethau a dyletswyddau'r Cyfarwyddwr Statudol ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol.

·            Ymateb i sylwadau'r Cabinet, y pwyllgorau craffu, archwilwyr mewnol/allanol a rheoleiddwyr allanol  

·            Nodi blaenoriaethau diogelu mewn ymateb i'r uchod

·            Ystyried a chymeradwyo polisïau, gweithdrefnau a chanllawiau diogelu corfforaethol o fewn y Cyngor

·            Dadansoddi gwybodaeth am berfformiad i sicrhau cydymffurfiaeth â'r polisi diogelu corfforaethol, deddfwriaeth berthnasol, canllawiau statudol a safonau diogelu Sir Gaerfyrddin.

·            Cefnogi Swyddogion Arweiniol Diogelu Dynodedig i gydweithio a rhannu gwybodaeth yn effeithiol ar draws gwasanaethau.

·            Goruchwylio archwiliadau ac arolygiadau mewnol neu allanol sy'n ymwneud â threfniadau diogelu Cyngor Sir Caerfyrddin, a chydweithio â'r sawl sy'n eu cynnal.

·            Goruchwylio a gweithredu ar ganfyddiadau archwilio ac arolygu, gan gynnwys unrhyw welliannau angenrheidiol.

·            Helpu archwilio mewnol i fonitro gweithdrefnau diogelu a goruchwylio unrhyw adroddiadau ac argymhellion yn ôl yr angen.

·            Nodi a datrys problemau a allai atal rhoi gweithdrefnau diogelu effeithiol ar waith.

·            Sicrhau bod perthnasoedd  yn cael eu cynnal gydag asiantaethau partner, darparwyr gwasanaeth a Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru.

·            Sicrhau bod hyfforddiant priodol ar gael a bod cyflogeion, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr, a gwasanaethau dan gontract yn ymgymryd â'r hyfforddiant hwnnw.

·            Ystyried ac ymateb i wybodaeth am berfformiad diogelu corfforaethol a nodi unrhyw gyfleoedd i wella.

·            Ystyried goblygiadau unrhyw Adolygiadau Diogelu Unedig Sengl lleol, rhanbarthol neu genedlaethol neu unrhyw adolygiad diogelu arall, a sicrhau bod y Cyngor yn ymateb yn effeithiol i unrhyw argymhellion.

·            Helpu'r grwpiau cyflawni diogelu corfforaethol i lunio, arwain a monitro datblygiad cynllun gwaith ar gyfer y Cyngor mewn perthynas â diogelu corfforaethol.

·            Sicrhau bod adolygiad blynyddol o'r Polisi Diogelu Corfforaethol ac o gynnwys gwefannau mewnol ac allanol.

·            Llunio Adroddiad Diogelu Corfforaethol Blynyddol ar gyfer y Pwyllgorau Craffu perthnasol a'r Cabinet, fel y bo'n briodol.

 

Aelodaeth 

 

·            Cadeirydd - Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai (Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol)

·            Aelod Arweiniol dros Ddiogelu Corfforaethol (Iechyd Integredig a Gwasanaethau Cymdeithasol Plant ac Oedolion)

·            Y Prif Weithredwr Cynorthwyol - Rheoli Pobl a Pherfformiad

·            Cyfarwyddwr Addysg a Hamdden

·            Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd 

·            Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion

·            Pennaeth Addysg

·            Pennaeth Cynhwysiant

·            Rheolwr Gwasanaeth Amddiffyn Plant (Swyddog Dynodedig yr Awdurdod Lleol)

·            Uwch-reolwr Amddiffyn Oedolion (Swyddog Dynodedig yr Awdurdod Lleol)

·            Cynrychiolwyr Diogelu Dynodedig y Gyfarwyddiaeth

·            Cadeirydd y Grŵp Cyflawni - Partneriaethau Diogel

·            Cadeirydd Grŵp Cyflawni - Gweithlu a Gweithle Diogel

·            Cadeirydd y Grŵp Cyflawni - Ymarfer a Pherfformiad Diogel

·            Cadeirydd y Grŵp Cyflawni - Grŵp Gweithredol Lleol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (I'w gadarnhau)

 

Gall swyddogion eraill gael eu cyfethol yn ôl yr angen a chytunir arnynt gan y grŵp.

 

Bydd aelodau'r Grŵp Diogelu Corfforaethol yn chwarae rôl weithredol wrth sicrhau ei fod yn cyflawni ei amcanion. Bydd pob aelod o'r grŵp yn hyrwyddo diogelu o fewn ei gyfarwyddiaeth a'r sefydliad ehangach. Bydd Aelodau yn gyfrifol am godi ymwybyddiaeth o gyfrifoldebau diogelu corfforaethol a sicrhau lefelau uchel o gydymffurfiaeth. Bydd gan bob aelod o'r grŵp fynediad brys at y Cyfarwyddwr Statudol, y Prif Weithredwr Cynorthwyol neu'r Aelod Arweiniol dros Ddiogelu os oes angen. Os bydd unrhyw aelod o'r grŵp yn methu mynychu cyfarfod, rhaid i'r aelod sicrhau bod swyddog priodol yn bresennol yn ei le. Mae'n rhaid rhoi gwybodaeth briodol i'r swyddog sy'n dirprwyo, ac mae'n rhaid ei fod yn gallu cyfrannu'n llawn at y cyfarfod.

 

Amlder Cyfarfodydd

 

Bydd y Grŵp Diogelu Corfforaethol yn cwrdd bob chwarter.

 

Gellir trefnu cyfarfodydd ad-hoc neu frys ar unrhyw adeg fel sy'n cael ei ystyried yn briodol.

 

 

Llywodraethu ac Adrodd

 

Bydd y Grŵp Diogelu Corfforaethol yn adrodd i'r Tîm Rheoli Corfforaethol bob chwe mis neu'n fwy aml fel y bo'r angen.

 

Bydd y Grŵp Diogelu Corfforaethol yn llunio adroddiad blynyddol ar gyfer y Pwyllgor Craffu Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Bydd yr adroddiad hwn yn rhoi sylw i'r prif feysydd ffocws a gweithgarwch yn y flwyddyn flaenorol, gan gynnwys gwybodaeth am berfformiad perthnasol, ac yn nodi'r blaenoriaethau sydd ar ddod i sicrhau cydymffurfiaeth barhaus â'r Polisi Diogelu Corfforaethol a disgwyliadau diogelu eraill.

 

Bydd Cadeirydd y Grŵp Diogelu Corfforaethol a/neu Gadeirydd y Grŵp Cyflawni Partneriaethau Diogel yn rhoi gwybod i Fwrdd Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru am unrhyw faterion brys sy'n codi neu themâu sy'n dod i'r amlwg a allai fod yn berthnasol i'r rhanbarth ac ar draws asiantaethau.


Atodiad 2 - Offeryn Archwilio - Hunanasesiad Diogelu Corfforaethol Cyngor Sir Caerfyrddin

Cyflwyniad

Yn unol â Pholisi Diogelu Corfforaethol Sir Gaerfyrddin, disgwylir i bob sefydliad sy'n darparu gwasanaethau ar gyfer oedolion sydd mewn perygl, plant, pobl ifanc a theuluoedd, neu sy'n gweithio gyda nhw, gynnal archwiliad o'u harferion diogelu, yn seiliedig ar broses o hunanwerthuso.

Bydd cyfarwyddwyr yn gyfrifol am sicrhau bod ganddynt weithdrefnau gweithredol diogelu ar waith a'u bod yn cynnal archwiliad blynyddol o'u cyfarwyddiaeth gan ddefnyddio'r Offeryn Archwilio - Hunanasesiad Diogelu Corfforaethol.

Mae'r fframwaith hunanasesu canlynol wedi'i drefnu mewn tair adran sy'n cwmpasu tair safon benodol sy'n sail i 'ddiogelu' ac mae'n ei gwneud yn ofynnol i bob maes gwasanaeth feddwl am eu harferion a'u gweithdrefnau eu hunain yn eu lleoliadau perthnasol. Mae wedi'i fwriadu i roi dealltwriaeth o sut y mae'r thema 'diogelu' yn cael ei chyflawni'n llwyddiannus mewn maes gwasanaeth penodol ar hyn o bryd, a sut y gellid datblygu hyn.

Yn ogystal, mae'r hunanasesiad yn rhoi trosolwg i'r Cyngor o arferion diogelu ar draws ei holl feysydd gwasanaeth a gall sicrhau bod cydymffurfiaeth â'r gofynion diogelu a'r dyletswyddau yn cael eu bodloni'n effeithiol. Bydd y data o'r hunanwerthusiadau blynyddol yn rhan annatod o lywio'r gwaith o gynllunio gwasanaethau a thrwy hynny wella'r canlyniadau llesiant i ddinasyddion Sir Gaerfyrddin.

Bydd yr archwiliad hunanasesu yn cael ei gwblhau bob blwyddyn a bydd yn gofyn i chi ystyried y cyfnod treigl diwethaf o 12 mis.

Safonau:

  1. Polisi/Ymarfer (Cadarn) - Pa mor gadarn yw eich arferion diogelu yn eich maes gwasanaeth? (polisïau a gweithdrefnau a fabwysiadwyd ac a ddefnyddir/ recriwtio diogel/cydymffurfio/hyfforddiant/archwiliadau ac arolygiadau/ rhoi gwybod).
  2. Amgylchedd (Diogel) - Pa mor ddiogel mae eich maes gwasanaeth yn teimlo i ddinasyddion sy'n defnyddio'ch gwasanaethau, ac i'ch staff sy'n gweithio yn eich maes wasanaeth? (awyrgylch/adeiladau/e-ddiogelwch / rhannu gwybodaeth/ cwynion a chanmoliaeth).
  3. Diwylliant (Effeithiol) - Pa mor effeithiol yw ymagwedd eich maes gwasanaeth tuag at ddiogelu? (Gweithio'n effeithiol gydag eraill i amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl a hyrwyddo lles dinasyddion, h.y. trwy wasanaethau a gomisiynir/cyfathrebu ac ymgysylltu effeithiol â staff a gwirfoddolwyr i wreiddio diogelu mewn ymarfer ac wrth gynllunio meysydd gwasanaeth)

 

Canllawiau ar gyfer cwblhau'r Offeryn Archwilio Hunanasesiad

Mae'r offeryn archwilio yn offeryn hunanasesu sy'n cwmpasu'r tair safon. O fewn pob un o'r safonau ceir mesurau y dylech eu darparu i ddangos pa mor effeithiol y mae eich maes gwasanaeth yn bodloni pob safon ar hyn o bryd, a ble mae modd gwneud gwelliannau.

Yn yr adran dystiolaeth rydych wedi cael rhai enghreifftiau byr mewn print italig, nid yw hon yn rhestr ofynnol o ddisgwyliadau a chânt eu darparu fel enghraifft eglurhaol er cymorth yn unig. Eich cyfrifoldeb chi fel rheolwr gwasanaeth eich meysydd gwasanaeth yw darparu'r dystiolaeth gywir i ddangos sut y caiff y mesurau eu cyflawni'n effeithiol. Meddyliwch yn ofalus am yr arferion a'r gweithdrefnau ar draws eich maes gwasanaeth perthnasol a'r sgôr RAG fel yr amlinellir isod.

Cofiwch y bydd angen i chi o bosibl feddwl am nifer o safleoedd / lleoliadau wrth ateb y cwestiynau. Rydych yn cyflwyno'r hunanwerthusiad mewn perthynas â'ch cyfran o'r maes gwasanaeth; fodd bynnag, bydd hyn wedyn yn cael ei goladu gydag ymatebion y rheolwyr gwasanaethau eraill i wneud hunanwerthusiad ar y cyd ar gyfer y maes gwasanaeth cyfan.

Lle bo'n berthnasol, byddwch yn benodol yn eich archwiliad ynghylch pa wasanaeth sy'n cael sylw os ydych yn nodi problem gydag un safle/gwasanaeth penodol yn eich maes. Er enghraifft, yn eich portffolio efallai y byddwch yn gyfrifol am sawl safle ac yn nodi bod yr arferion ar gyfer presenoldeb contractwyr ar y safle yn cael eu rheoli'n wahanol i'r polisi sydd ar waith a pholisi safleoedd eraill. Felly, dylai eich archwiliad ddangos y prif sgôr RAG ar gyfer eich perfformiad cyffredinol ac os nodir mater penodol ar gyfer safle / gwasanaeth penodol, dylid cofnodi hyn yn y blwch "Angen camau pellach" ynglŷn â sut y rhoddir sylw i hyn.

Byddwch yn barod i ganiatáu digon o amser i gasglu'r wybodaeth angenrheidiol ac ymgynghori â'ch rheolwyr tîm/gweinyddwyr/ac ati a allai fod â'r wybodaeth fesul safle /lleoliad, ac ati.

Cofiwch y gallwch hefyd gysylltu â'ch Arweinydd Diogelu Dynodedig yn eich maes gwasanaeth, partneriaid Adnoddau Dynol (e.e. ar gyfer data ar gofnodion hyfforddi), neu'r Uwch-reolwr Diogelu ar gyfer Gwasanaethau Plant neu Oedolion am unrhyw gyngor neu gymorth arall ar ôl cwblhau'r adnodd hunanasesu hwn.

Sgôr Hunanasesiad

Mae'r system goleuadau traffig yn ymwneud â sut y mae maes gwasanaeth yn asesu ei hun o ran cyrraedd y safon ofynnol. Os yw eich maes gwasanaeth yn ei asesu ei hun fel coch neu oren dylech gofnodi yn y blwch "Angen camau pellach" yr hyn sydd ei angen yn eich barn chi, neu os nad ydych yn siŵr, nodwch pa gymorth/cyngor sydd ei angen gan eich Arweinydd Diogelu Dynodedig i wella ar y mesur hwn i symud ymlaen.

Ar ddiwedd pob safon, cewch gyfle i fyfyrio ar y mesurau gan roi adroddiad ar yr hyn yr ydych chi'n teimlo eich bod yn ei wneud yn dda fel maes gwasanaeth; ble gallwch wella ac os oes angen unrhyw gymorth arnoch i ymgorffori 'diogelu.’

GWYRDD - Mae'n golygu bod popeth yn ei le, yn gyfoes, ac yn cyrraedd y safon ofynnol
OREN - Mae'n golygu bod angen adolygu neu wella rhywbeth
COCH - Mae'n golygu bod angen datblygu rhywbeth ar frys neu
fod angen mynd i'r afael â'r mesur ar frys

Ar ôl ei chwblhau, dylid dychwelyd y ffurflen hunanwerthuso ar y dyddiad penodedig i'ch Arweinydd Diogelu Dynodedig.

Templed archwilio llawn ar gael gan yr Uwch Reolwr Diogelu Corfforaethol
Cathy Richards, CRichards@sirgar.gov.uk