Addysg ddwyieithog
Mae Sir Gaerfyrddin yn gartref i fwy o siaradwyr Cymraeg nag unrhyw sir arall yng Nghymru, gan ei gwneud yn un o'r lleoedd gorau i blant dyfu i fyny'n ddwyieithog.
Heddiw, mae'r gallu i siarad mwy nag un iaith yn sgil bywyd gwerthfawr. Ledled y byd, mae miliynau o bobl yn defnyddio dwy iaith neu fwy bob dydd gartref, mewn addysg ac yn y gweithle. Drwy addysg cyfrwng Cymraeg, mae gan bob plentyn yn Sir Gaerfyrddin y cyfle i ddod yn hyderus ddwyieithog yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Mae Addysg Cyfrwng Cymraeg i Bawb
Nid oes angen i chi siarad Cymraeg gartref er mwyn i'ch plentyn fynychu ysgol cyfrwng Cymraeg. Bob blwyddyn, mae plant o ystod eang o gefndiroedd ieithyddol yn dechrau eu haddysg yn y Gymraeg ac yn mynd ymlaen i ddod yn siaradwyr Cymraeg a Saesneg rhugl.
Mae ein hysgolion yn brofiadol wrth gefnogi dysgwyr o deuluoedd di-Gymraeg, gan helpu plant i ddatblygu eu sgiliau iaith yn naturiol drwy ddysgu, chwarae a rhyngweithio cymdeithasol bob dydd.
Dilynwch gyfrif Instagram Sir Gâr Ddwyieithog: @sirgarddwyieithog









