Canolfan Iaith
Diweddarwyd y dudalen ar: 23/10/2025
Gwasanaeth Trochi Iaith Gymraeg
Yn unol â Chynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg Cyngor Sir Caerfyrddin, mae ysgolion yr ardal yn addysgu yn ddwyieithog. Er mwyn sicrhau bod eich plentyn yn integreiddio’n llawn i fywyd ysgol a'r gymuned leol, mae cyfle arbennig i'ch plentyn fynychu cwrs dwys mewn Canolfan Iaith.
Ein prif ganolfan Drochi Iaith yw Canolfan Gwên yn Ysgol Gymraeg Maes y Gwendraeth. Adeilad newydd yw’r Ganolfan hon sydd yn annibynnol o’r ysgol uwchradd. Mae newydd-ddyfodiaid Blwyddyn 2 i 6 yn mynychu’r Ganolfan yn gyson am ddeg wythnos o’r tymor am 4 diwrnod yr wythnos.
Bydd athrawon y Canolfannau yn ymweld â’r disgyblion newydd , eu hathrawon a’r rhieni / gwarchodwyr yn eu hysgolion cyn iddynt ddechrau yn y Ganolfan. Bydd cyfle hefyd i’r rhieni / gwarchodwyr ymweld â’r Ganolfan yn ystod y tymor.
Ffordd o ddysgu iaith ychwanegol. Yr iaith darged newydd yw cyfrwng addysg y dosbarth. Y nod yw datblygu safon uchel o gymhwysedd yn yr iaith o fewn amser cyfyngedig.
Mae ymchwil yn dangos bod disgyblion sy’n profi addysg drochi yn;
- Rhagori yn academaidd
- Yn dysgu trydydd a phedwaredd iaith yn haws
- Deall a chofleidio diwylliannau eraill
- Meddu ar well ymwybyddiaeth o hunaniaeth, diwylliant a theimlad ogymdeithas
- Magu mwy o hunan barch
- Datblygu gwell sgiliau cyfathrebu a chymdeithasol.
O fewn Cynllun Gwaith tynn a datblygiadol mae’r athrawon yn sicrhau boddysgu Cymraeg yn llawn sbri. Cyflwynir Y Gymraeg ar draws y Meysydd Dysgu aphrofiad trwy gyfrwng amrywiaeth eang o brofiadau, gweithgareddau agemau hwyliog.
Pwyslais yr addysgu yw i gyfathrebu yn y Gymraeg; siarad, darllen ac ysgrifennu. Cyflwynir agweddau eraill o’r cwricwlwm newydd ar draws yr addysgu gyda gweithgareddau Mathemateg a Rhifedd yn cael sylw rheolaidd. Bydd gweithgareddau creadigol TGCh, gemau a gemau buarth yn atgyfnerthu'r iaith a datblygu sgiliau ehangach.
Ar hyn o bryd mae’r disgyblion yn mynychu am 4 diwrnod yr wythnos am 10 wythnos.
Bydd y disgyblion yn mynychu'r Ganolfan Iaith am gyfnod dysgu dwys- am 4 diwrnod yr wythnos am ddeg wythnos. Cynigir lle i ddisgyblion 6-11 oed.
Dim mwy nag 16
Addysgir y disgyblion gan athrawon profiadol sy'n arbenigwyr yn y maes dysgu iaith. Bydd athrawon y Ganolfan hefyd yn mynd allan i'r ysgolion i gwrdd â'r disgyblion newydd cyn iddynt ddechrau yn y Ganolfan. Cyflwynir gweithgareddau hwylus ac amrywiol mewn awyrgylch gartrefol a gofalgar.Mae cynorthwyydd dosbarth ymhob dosbarth.
Trefnir cludiant i'r Ganolfan Iaith yn rhad ac am ddim mewn tacsi a drefnir gan y sir. Bydd pob plentyn yn cael eu casglu o'r ysgol gynradd yn y bore gan ddychwelyd yn ôl i'r ysgol gynradd yn y prynhawn. Os dymunir, all rhiant neu warchodwr gludo’r plentyn. Bydd cyllid ar gael i gefnogi hyn.
Bydd cinio ysgol ar gael i bob plentyn yn y ffreutur Uwchradd.
Byddwn yn asesu y disgyblion bob hanner tymor ac yn cofnodi a thracioeu cynnyddSut
Gallwch helpu drwy bod yn bositif ac yn gefnogol. Cofiwch annog eich plentyn i siarad Cymraeg gyda ffrindiau. Ymunwch gyda unrhyw weithgareddau Cymraeg yn en eich ardal.
Byddwn yn ymweld â’r ysgol yn wythnosol, yn anfon cylchlythr ynrheolaidd ac yn trefnu diwrnodau agored i rieni ac athrawon.



