Darpariaethau arbenigol

Mae lleoliad arbenigol yn ddarpariaeth addysgol sydd wedi'i chynllunio i gefnogi plant a phobl ifanc na ellir diwallu eu hanghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn llawn mewn ysgol brif ffrwd. Mae'r rhan fwyaf o’n leoliadau arbenigol ynghlwm ag ysgolion prif ffrwd, sydd yn cefnogi cynhwysiant wrth ddarparu amgylchedd a chefnogaeth wedi'u teilwra.

Mae'r Panel Cynhwysiant sy’n penderfynu ar yr holl leoliadau yn cyfarfod yn wythnosol. Mae'r panel yn cynnwys Swyddogion Cynhwysiant, Seicolegwyr Addysg a Phlant, Cyd-gysylltwyr ADY, a Phenaethiaid. Os yw plentyn yn bodloni'r meini prawf ar gyfer leoliad arbenigol, bydd y Panel Cynhwysiant yn cynnig lle yn y lleoliad agosaf sydd ar gael i gartref y plentyn sydd â chapasiti

Os yw gweithiwr proffesiynol wedi awgrymu bod angen i ddysgwr fynychu lleoliad arbenigol a'ch bod am drafod hyn ymhellach, anfonwch e-bost at ALNQueries@sirgar.gov.uk er mwyn trafod gyda swyddog cyswllt teulu. 

Lleoliad tymor byr yw hwn ar gyfer plant 3-7 oed (Dysgu Sylfaen) sydd ag oedi datblygiadol cyffredinol neu benodol, sydd o dan asesiad. Bydd y plentyn wedi cael asesiad gan Seicolegydd Addysg a Phlant ac yn dilyn asesiadau sylfaen gan ystod o asiantaethau, gan gynnwys iechyd, gellir gwneud argymhelliad bod angen cyfnod o arsylwi ac asesu ar y plentyn er mwyn adnabod anghenion tymor hir.

Mae’r lleoliad hwn ar gyfer plant ag anawsterau lleferydd, iaith a chyfathrebu ac sydd angen canolfan arbenigol; bydd gan y plant fynediad at brofiadau a chyfleoedd yn yr ysgol prif ffrwd. Bydd cytundeb rhwng gweithwyr proffesiynol y Gwasanaeth Iaith a Lleferydd a'r Seicolegydd Addysg a Phlant bod gan y plentyn anhawster lleferydd / iaith datblygiadol h.y anhawster yn ogystal ag oedi wrth ddatblygu iaith.

Dyma leoliad ar gyfer plant neu bobl ifanc sydd â byddardod difrifol neu ddwys a/neu Anhwylder Sbectrwm Niwropathi Clywedol sy'n cael effaith ddifrifol ar swyddogaeth glywedol.

Lleoliadau ar gyfer plant ag anghenion parhaus, cymhleth, dwys a hirdymor ym maes anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac iechyd meddwl. Disgwylir y cymerwyd pob cam rhesymol i gefnogi lleoliad yn y brif ffrwd cyn cais am leoliad.

  • Canolfan Bro Tywi Dysgu Sylfaen i Flwyddyn 6
  • Canolfan Addysgu a Dysgu Uwchradd Sir Gaerfyrddin (Caerfyrddin/Porth Tywyn) Blwyddyn 7 i 11
  • Canolfan Addysgu a Dysgu Uwchradd Sir Gaerfyrddin Canolfan y Gors Blwyddyn 7 i 11