Bin compostio telerau ac amodau
Diweddarwyd y dudalen ar: 09/04/2025
Dyma delerau'r cytundeb rhwng Cyngor Sir Caerfyrddin, Neuadd y Sir, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin, SA31 1JP a'r cwsmer mewn perthynas â gwerthu, cyflenwi a dosbarthu bin compostio gwastraff gardd 330 litr.
Manyleb
1. Mae biniau compostio gwastraff gardd dim ond ar gael i'w prynu gan breswylwyr Sir Gaerfyrddin ac at ddefnydd y cartref yn unig.
2. Mesuriadau Bin Compostio: Uchder - 100cm, Diamedr - 80cm, Capasiti - 330 litr
3. Gwnaed o blastig a ailgylchwyd. Mae'r plastig wedi'i drin er mwyn osgoi dirywiad. Mae clawr symudadwy ar dop y bin ar gyfer gwaredu gwastraff gardd yn ogystal â drws bach ar y gwaelod er mwyn cael mynediad hawdd at y deunyddiau a gompostiwyd.
5. Sylwch fod y bin compostio yn agored ar y gwaelod ac, er mwyn iddo weithio yn y ffordd fwyaf effeithiol, mae'n rhaid gosod y bin ar dir pridd.
Dosbarthu
6. Dylech ganiatáu hyd at 28 diwrnod i'ch bin compostio gael ei ddosbarthu yn dilyn derbyn eich taliad.
7. Bydd y bin compostio yn cael ei ddosbarthu i'r cyfeiriad cartref a ddarparwyd ar adeg prynu'r bin. Os na fydd rhywun gartref, caiff ei adael y tu allan i'r eiddo a chaiff hysbysiad dosbarthu ei bostio i'ch blwch llythyrau fel prawf o'i ddosbarthu.
Cost
8. Cost bin compostio fydd £14.50 sy'n cynnwys dosbarthu. Nid oes consesiynau ar gael.
9. Gallwch brynu mwy nag un bin compostio. Codir ffi o £14.50 fesul bin am unrhyw finiau compostio ychwanegol, sy'n cynnwys dosbarthu.
Nwyddau Diffygiol
10. Os yw bin compostio yn ddiffygiol, caiff ei gyfnewid am un newydd neu ceir ad-daliad.
11. Mae'n rhaid rhoi gwybod am nwyddau diffygiol cyn gynted ag y sylwir ar y diffyg er mwyn i ni archwilio i'r mater cyn i ni gytuno i roi un newydd neu gynnig ad-daliad i chi. Ffoniwch (01267) 234567 neu e-bostiwch TSGwastraffOps@sirgar.gov.uk i roi gwybod am ddiffyg.
12. Byddwn ni'n gwneud y trefniadau o ran dychwelyd nwyddau diffygiol heb unrhyw gost ychwanegol ichi.
Canslo Archeb
13. Mae gennych yr hawl i ganslo'r contract hwn o fewn 14 diwrnod ar ôl i'r bin compostio gael ei ddosbarthu, heb fod angen rhoi rheswm. Mae'n rhaid i'r bin fod mewn cyflwr heb ei ddefnyddio. Os byddwch yn arfer yr hawliau canslo statudol hyn, byddwn yn rhoi ad-daliad llawn i chi o fewn 14 diwrnod i ganslo. I gael rhagor o wybodaeth ynghylch eich hawliau canslo, a sut i'w harfer, gweler y Cyfarwyddiadau canslo a'r ffurflen ganslo enghreifftiol yn yr Atodlen sy'n cyd-fynd â'r telerau a'r amodau hyn isod.
14. Bydd y cyfnod canslo yn dod i ben ymhen 14 diwrnod ar ôl dosbarthu'r bin.
Atodlen
Cyfarwyddiadau Canslo
Hawl i Ganslo
Mae gennych yr hawl i ganslo'r contract hwn o fewn 14 diwrnod, heb fod angen rhoi rheswm.
Bydd y cyfnod canslo yn dod i ben ymhen 14 diwrnod ar ôl cytuno ar y contract.
Er mwyn arfer yr hawl i ganslo'r contract hwn rhaid i chi roi gwybod i ni am eich penderfyniad i ganslo, a hynny drwy ddatganiad clir (e.e. llythyr drwy'r post neu e-bost).
Gallwch wneud hynny:
• Drwy ysgrifennu atom: Cyngor
Sir Caerfyrddin, Neuadd y Sir,
Caerfyrddin, Sir
Gaerfyrddin, SA31
1JP
• Drwy roi galwad ffôn inni: 01267 234567
• Drwy anfon e-bost atom: TSGwastraffOps@sirgar.gov.uk
Gallwch ddefnyddio'r ffurflen ganslo enghreifftiol sydd ynghlwm, ond nid oes rhaid ei defnyddio.
Er mwyn bodloni'r dyddiad cau ar gyfer canslo mae'n ddigon i chi anfon eich neges ynghylch arfer yr hawl i ganslo cyn bod y cyfnod canslo yn dod i ben.
Effeithiau Canslo
Os byddwch yn canslo'r contract hwn, byddwn ni'n ad-dalu'r holl daliadau rydych wedi
eu gwneud a hynny heb unrhyw oedi diangen, a heb fod yn hwyrach na 14 diwrnod ar
ôl y diwrnod y cawsom wybod am eich penderfyniad i ganslo'r contract hwn.
Byddwn yn ad-dalu gan ddefnyddio'r un dull talu a ddefnyddiwyd gennych yn wreiddiol, oni bai eich bod yn rhoi gwybod i ni fel arall; beth bynnag, ni fyddwch yn gorfod talu unrhyw ffïoedd o ganlyniad i'r ad-daliad.
Ffurflen GansloI : Cyngor Sir Caerfyrddin, Neuadd y Sir, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin, SA31 1JP. Cyfeiriad E-bost: TSGwastraffOps@sirgar.gov.uk Yr wyf/yr ydym [*] trwy hyn yn hysbysu fy mod/ein bod [*] yn canslo'r contract o ran cyflenwi'r canlynol: Bin Compostio Gwastraff Gardd 330L Dyddiad Archebu : Enw'r Cwsmer(iaid) : Cyfeiriad y Cwsmer(iaid) : Llofnod y Cwsmer(iaid) (dim ond os anfonir copi papur o'r ffurflen hon): Dyddiad: [*] Dileer fel y bo'n briodo |