Ie, i mewn â nhw:
- Toriadau gwrychoedd, coed a llwyni
- Gwreiddiau
- Toriadau a chribinion porfa
- Dail
- Planhigion
- Blodau a chwyn
Na, peidiwch â'u cynnwys:
- Bagiau plastig
- Potiau a hambyrddau
- Briciau, rwbel, pridd a cherrig
- Ffensiau
- Siediau a physt
- Gwastraff bwyd yn cynnwys crafion
- Boncyffion coed a changhennau dros 4 modfedd (10cm) o ddiamedr
- Naddion Pren a lludw coed
- Gwellt gwely, gwasarn ac ysgarthion anifeiliaid
- Chwyn ymwthiol fel canclwm Siapan, yr efwr enfawr a’r ffromlys chwarennog.
Gwybodaeth Bwysig
Mae'n rhaid gosod y gwastraff gardd yn rhydd yn y bin (peidiwch â defnyddio unrhyw fagiau). Ni fydd unrhyw wastraff sy'n cael ei osod y tu allan i'r bin yn cael ei gasglu.
Ni fydd eich bin yn cael ei wagio os yw'n cynnwys eitemau nad ydynt yn cael eu caniatáu. Byddwn yn ymchwilio i achosion cyson o halogi ac os bydd yn parhau mae'n bosibl y daw'r gwasanaeth i ben.
Peidiwch â gorlenwi na chywasgu'r gwastraff yn y bin. Os bydd y bin yn rhy drwm i'r lori ei godi ni fydd yn cael ei wagio.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni drwy e-bostio:
AMGGwastraffgardd@sirgar.gov.uk
